Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol
Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28
Yn yr adran hon
Dulliau teithio cynaliadwy
Mae'r Awdurdod Lleol yn annog dysgwyr i ddefnyddio dulliau cynaliadwy o deithio i'r ysgol, lle bynnag y bo'n ddiogel ac ymarferol i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys teithio llesol - cerdded, beicio, a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn hytrach na theithio mewn car preifat. Ystyr dulliau cynaliadwy o deithio yw'r rheiny all wella llesiant corfforol defnyddwyr neu gyfrannu'n gadarnhaol at lesiant amgylcheddol ardal yr Awdurdod Lleol.
Gellir cael gwybodaeth am fysiau lleol a gwasanaethau trên gan Traveline Cymru: Traveline Cymru neu drwy ffonio 0800 464 0000. Mae rhagor o wybodaeth a chyngor hefyd ar gael ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yn Gwasanaethau Bysiau Cyhoeddus.
Mae'r Awdurdod Lleol yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cefnogi opsiynau cludiant addas ar gyfer teithio i'r ysgol, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo teithio diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol i ddysgwyr.
Efallai y bydd nifer penodol o seddi gwag ar gael ar rai cerbydau cludiant ysgol dan gontract. Cyfeiriwch at Atodiad 3 i gael canllawiau manwl.
