Y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol

Perthnasol i Flwyddyn Academaidd 2027/28

Atodiad 4: Asesiadau llwybr cerdded

Rhaid i awdurdodau lleol asesu a yw llwybr cerdded dysgwr i'r ysgol yn llwybr sydd ar gael (diogel) neu'n llwybr nad yw ar gael (anniogel) yn unol â'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru).

1. Yr hyn mae'r Asesiad yn ei Ystyried
Mae aseswyr yn cerdded y llwybr ac yn ystyried:

  • Troetffyrdd a lled y ffordd
  • Lefel a chyflymder y traffig
  • Croesfannau
  • Gwelededd
  • Risgiau Amgylcheddol
  • Goleuadau
  • Newidiadau yn yr ardal

2. Pan fydd Angen Ailasesiadau
Mae ailasesiadau'n cael eu cynnal pan fydd amodau'n newid, megis:

  • damweiniau neu ddigwyddiadau,
  • datblygiadau newydd,
  • newidiadau mewn traffig,
  • newidiadau i seilwaith,
  • neu pan fydd anghenion dysgwyr yn newid.

3. Perygl Cymdeithasol
Mae aseswyr hefyd yn ystyried risgiau cymdeithasol, megis:

  • troseddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol,
  • pryderon perygl pobl ddieithr,
  • tystiolaeth o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r Heddlu a phartneriaid diogelu i nodi a gwirio unrhyw beryglon cymdeithasol.

4. Canlyniad
Dim ond pan fernir ei fod yn rhesymol ddiogel i'w gerdded, gan ystyried oedran y dysgwr ac unrhyw angen i'w hebrwng, y caiff llwybr ei ddynodi'n un sydd 'ar gael'.

Mae'r holl asesiadau o lwybrau yn cael eu cynnal ar y sail y caiff dysgwyr eu hebrwng os oes angen gan oedolyn cyfrifol. Cyfrifoldeb y rhiant neu'r gwarcheidwad yw penderfynu a oes angen goruchwylio dysgwr ar ei daith a gwneud trefniadau hebrwng addas os na all wneud hynny ei hun.

Pan na ellir lleihau'r risgiau a nodwyd yn rhesymol, bydd y llwybr yn cael ei ddynodi'n un nad yw ar gael, a gellir darparu cymorth cludiant yn unol â pholisi'r Cyngor.