Grant cychwyn busnes

12. Adfachu arian grant

Bydd cyllid yn cael ei atal a/neu, i'r graddau y mae taliad wedi'i wneud, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys:

  1. bu gordaliad cyllid
  2. Yn ystod ei oes economaidd, mae’r prosiect yn mynd trwy newid sylweddol a ddiffinnir fel un sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion heblaw ‘r rhai a nodir yn y cais, neu, yn cael newid perchennog heb hysbysu Cyngor Sir Caerfyrddin.

Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad talu'r grant terfynol a bydd angen ad-dalu cyllid fel a ganlyn:

Dyddiad gwaredu ased(au)

Swm i’w ad-dalu

O fewn 1 blwyddyn

Ad-dalu yn llawn

O fewn 2 flynedd

80% o’r gronfa i’w ad-dalu

O fewn 3 blynedd

60% or gronfa i’w ad-dalu

O fewn 4 blynedd

40% o’r gronfa i’w ad-dalu

O fewn 5 mlynedd

20% o’r gronfa i’w ad-dalu

Ar ôl 5 mlynedd

Dim byd i’w ad-dalu

Yr uchod yw'r gofynion lleiafswm ad-dalu

Os na chaiff y swyddi eu creu / eu diogelu, yna mae gan y Cyngor Sir yr hawl i adennill y grant yn rhannol neu'n llawn.

Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar alw os: -

  • canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gam gynrychiolaeth mewn cysylltiad â'r cais;
  • mae'r ymgeisydd wedi torri'r ddarpariaeth amod uchod;
  • nid yw'r eiddo wedi'i ail-osod yn llawn o fewn 12 mis o unrhyw ddigwyddiad sy'n achosi colled neu ddifrod i’r eiddo.