Grant cychwyn busnes

4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw mewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:

Gwariant Cyfalaf:

  • Prynu offer newydd neu ail law, e.e., peiriannau, offer arbenigol, ac ati. Sylwch y gallai'r rhain gynnwys eitemau megis tryciau fforch godi, telehandlers, cloddwyr, ac ati, er nid yw cerbydau cyffredinol fel faniau a cheir yn gymwys. ** Gweler isod y nodyn ynglŷn â phrynu eitemau ail law
  • Gellir ystyried cerbydau masnachol arbenigol, ee faniau oergell, faniau at ddibenion arbenigol, arwyddion wedi'u hysgrifennu neu eu gosod ar gyfer defnydd masnachol penodol fesul achos.
  • Prynu a gosod offer i greu neu wella gofod masnachu awyr agored, e.e. llochesi, gazebos, ac ati. Sylwch y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r caniatâd perthnasol os yw'n briodol, h.y. caniatâd cynllunio, trwyddedau, ac ati.
  • Caledwedd TG a Thelathrebu os ydynt wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â chyflawni'r prosiect
  • Gosodion a ffitiadau, dodrefn ac offer swyddfa ac ati fel rhan o symudiad swyddfa neu swyddfa newydd

Gwariant refeniw arbenigol:

  • Hyfforddiant arbenigol/technegol (nid yn achrededig o reidrwydd)
  • Comisiynu/gosod peiriannau
  • Meddalwedd arbenigol
  • Cynhyrchu gwefannau, e-fasnach/ siopau ar-lein, apiau, ac ati.

** rhaid cynhyrchu gwefannau a datblygiadau e-fasnach sy'n gysylltiedig â'r grant yn ddwyieithog

  • Deunyddiau Hyrwyddo a Marchnata (a asesir fesul achos)

** rhaid cynhyrchu'r holl ddeunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog.

  • Ymgynghorwyr Arbenigol (wedi'u hasesu fesul achos)
  • Ardystiad Sicrhau Ansawdd (wedi'i asesu fesul achos)
  • Taliadau sy'n gysylltiedig â chyflenwi/ darparu unrhyw gyfarpar cyfalaf