Mae adeiladu Parth 1 yn rhoi cyfle mwy ymarferol i gysylltu â'r gymuned leol trwy ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a gweithgareddau budd i'r gymuned a gynhelir gan Bouygues fel y prif gontractwr. Mae hyn yn cynnwys:

  • Digwyddiad Cwrdd â'r Contractwr yng Nghlwb Cymdeithasol y Morfa ym mis Mawrth 2023
  • Llythyrau Newyddion Cymunedol chwarterol yn cael eu cyhoeddi drwy ddosbarthu'r llythyr a'i anfon yn electronig, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am statws y gwaith adeiladu a'r gweithgareddau er budd y gymuned
  • 'Cymorthfeydd i'r Preswylwyr ' deufisol a gynhelir gan Bouygues ar y safle yn cynnig cyfle i gwrdd â thîm y prosiect, gweld cynnydd a gofyn cwestiynau
  • Rhaglen Llysgenhadon Cymunedol. A oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod rhagor am Bentre Awel, dysgu sgiliau newydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned? Mae Bouygues yn chwilio am gynrychiolwyr cymunedol i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer y prosiect. Fel rhan o'r cynllun, bydd llysgenhadon yn ymweld â'r safle yn rheolaidd, yn cael hyfforddiant i allu eirioli'n effeithiol dros y prosiect pan fyddant yn mynd o le i le, a gallu ymgysylltu â'r timau prosiect ac adeiladu. 
  • Sesiynau codi sbwriel cymunedol
  • Prosiect celfwaith cymunedol
  • Cynnal her adeiladu Minecraft yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri

Os hoffech gymryd rhan yn yr ystod eang o weithgareddau budd i'r gymuned ym Mhentre Awel neu ddysgu rhagor amdanynt, cysylltwch â Nina Williams, Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol Bouygues

Ebost: nina.williams@bouygues-uk.com

Ffon: 07503 468780