Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

1. Cyflwyniad

Rydym yn barod i gymryd y cam cyffrous nesaf yn ein cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid Tyisha yn Llanelli ac rydym yn gwahodd partneriaid posibl i rannu eu gweledigaeth â ni.

Mae'r newidiadau ar gyfer Tyisha yn cael eu cyflawni fesul cam a dechreuodd y gwaith drwy ddymchwel tai hen ffasiwn yn ystod 2022. Rydym bellach am gymryd y camau nesaf i adeiladu tai newydd sbon a fydd yn rhoi cyfleoedd i brynwyr am y tro cyntaf, teuluoedd a'r rhai sydd angen tai cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gwella'r ardal drwy ddarparu mwy o fannau gwyrdd, creu cyfleusterau cymunedol a gwella'r amgylchedd.

Ochr yn ochr â'r gwelliannau ffisegol hyn byddwn hefyd yn parhau i ddarparu a chynyddu ein gwasanaethau cymorth i deuluoedd, ein darpariaeth datblygu sgiliau a'n gwaith allgymorth er mwyn i ni allu gweithio gyda'r gymuned leol yn Nhyisha i ddiwallu eu hanghenion a'u dyheadau.

Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol i adfywio ward Tyisha ac ardal ehangach canol tref Llanelli sy'n derbyn buddsoddiad enfawr.
Mae preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael gwell darpariaeth tai, mwy o gyfleoedd gwaith, amgylchedd glanach a lle mwy diogel i fyw ynddo. Rydym bellach yn barod i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Gweler rhagor o fanylion am waith datblygu cymunedol y Cyngor yn Nhyisha

Cynhaliwyd proses lwyddiannus o ran Ymgysylltu'n Gynnar â'r Farchnad yn 2022 ac rydym bellach yn barod i gymryd y camau nesaf i chwilio am bartner datblygu sy'n gallu rhannu ein huchelgeisiau.