Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

4. Tai gwell mewn amgylchedd gwell

Er ein bod yn cydweithio'n agos â phartneriaid a'r gymuned i ddarparu gwell gwasanaethau lleol, nid oes amheuaeth bod angen buddsoddi’n sylweddol yn y stoc dai a'r amgylchedd cyfagos a’u hailfodelu.

Rydym am gael tai newydd i'n helpu i fynd i'r afael â'r materion canlynol:

  • Diffyg cydbwysedd o ran deiliadaeth yn Nhyisha. Mae swm sylweddol o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent preifat yn Nhyisha. Mae hyn wedi arwain at gymuned fwy byrhoedlog sydd â llai o breswylwyr parhaol.
  • Dwysedd uchel o gartrefi bach heb ddigon o fannau gwyrdd a chymunedol sy'n arwain at ychydig iawn o gyfleoedd i'r gymuned ryngweithio.
  • Stoc dai hŷn sy’n aneffeithlon o ran ynni.
  • Gwerth isel eiddo ar y farchnad.
  • Galw isel am dai cymdeithasol sydd wedi gweld dyddiau gwell.
  • Ychydig o le defnydd cymysg a gofod masnachol.
  • Cyfleusterau cymunedol cyfyngedig i gefnogi adfywiad economaidd ehangach yr ardal.

Rydym am helpu i greu cymuned fwy parhaol a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion y mae'r ardal yn eu hwynebu. Credwn y gellir cyflawni hyn drwy fynd i'r afael â safleoedd tai cymdeithasol presennol y mae galw isel amdanynt. Bydd cyflwyno perchen-feddiannaeth a pherchentyaeth cost isel mewn safleoedd allweddol yn helpu i sicrhau preswylwyr parhaol sydd â budd hir dymor yn yr ardal.

Mae angen mynd i'r afael â hyn drwy ddymchwel ac ailadeiladu cartrefi modern sy'n bodloni anghenion y gymuned. Nid yn unig y bydd hyn yn darparu cartrefi modern o ansawdd da sy'n effeithlon o ran ynni ond bydd hefyd yn adfer cydbwysedd deiliadaeth yn yr ardal. Rydym hefyd am fynd i'r afael â’r dwysedd ffisegol drwy hyrwyddo egwyddorion dylunio da sy'n seiliedig ar fannau gwyrdd i'r gymuned eu mwynhau.

Rydym am gefnogi'r gwaith o ddarparu tai deiliadaeth gymysg newydd (tua 120 o unedau) ac rydym yn awyddus i ffurfio partneriaeth i helpu i ddylunio ac adeiladu Tyisha newydd. I gefnogi hyn, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol ac anariannol i gyflawni ein nodau. Gallai hyn gynnwys caffael a gwaredu eiddo'n strategol a chyllid grant posibl fel Grant Tai Cymdeithasol.