Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

3. Trawsnewid Tyisha

Nid ydym yn ceisio celu’r problemau a'r heriau y mae'r ardal yn eu hwynebu. Mae gan Dyisha gymuned gref ond mae wedi dioddef mwy na'r rhan fwyaf o ardaloedd o ddirywiad ôl-ddiwydiannol. Mae gan yr ardal heriau cymdeithasol, economaidd a ffisegol, ac rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy.

Mae gan ardal Tyisha y dwysedd poblogaeth uchaf yn Sir Gaerfyrddin, gyda 6,586 o bobl fesul cilomedr sgwâr. Mae'r gyfran fwyaf o'r gymuned rhwng 45 a 64 oed, ac nid oes gan 34% o'r gymuned sydd rhwng 16 a 74 oed unrhyw gymwysterau ac mae gan 27% salwch tymor-hir cyfyngol.

O ran tai, mae 63% yn dai teras ac mae 25% yn fflatiau. Mae ychydig dros 37% o'r gymuned yn rhentu eu cartref.

£17,981 yw'r incwm aelwyd cyfartalog, sef yr isaf yn Sir Gaerfyrddin a 42% yn is na chyfartaledd y sir. Mae diweithdra ddwywaith y gyfradd o gymharu ag ardaloedd eraill yn y sir.

Tyisha 2 (yr ardal o amgylch Stryd Ann) yw'r ardal fwyaf difreintiedig yn y sir a'r 55ed yn gyffredinol yng Nghymru.

Yn ystod haf 2018, cychwynnwyd ar yr ymarfer 'Planning for Real' lle wnaethom glywed barn preswylwyr a busnesau lleol a oedd wedi ein helpu i nodi'r materion allweddol y mae Tyisha yn eu hwynebu.

Dywedodd y gymuned wrthym ei bod am weld gweithredu yn y meysydd canlynol:

  • Diogelwch Cymunedol
  • Yr amgylchedd
  • Hamdden ac adloniant
  • Tai
  • Traffig a Thrafnidiaeth
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Iechyd a llesiant
  • Gwaith, hyfforddiant, sgiliau ac addysg

Rydym wedi gwrando ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned i drawsnewid Tyisha. Mae'r gwaith yn dod ymlaen yn dda, drwy'r Grŵp Llywio Cymunedol (partneriaeth amlasiantaethol rhwng y Cyngor, y gymuned a rhanddeiliaid allweddol eraill) ac mae nifer o brosiectau ar waith a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Y nod yw darparu gwasanaethau lleol o'r radd flaenaf yn ogystal â goruchwylio'r gwaith o ddarparu cartrefi newydd mewn amgylchedd gwell, glanach a mwy cydnaws â'r amgylchedd. Rydym hefyd am ddatblygu cyfleusterau cymunedol newydd. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu statws cymdeithasol ac economaidd yr ardal ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Nododd yr ymarfer 'Planning for Real' yr angen am gyfleusterau cymunedol ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau lleol i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed a bydd yn helpu i sicrhau dyfodol yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys y blynyddoedd cynnar, teulu, ieuenctid, a chymorth cyflogaeth ac iechyd.

Rydym wedi dechrau ar ein cynlluniau i Drawsnewid Tyisha drwy gydweithio i wneud y canlynol:

  • Mynd i'r afael â chymryd cyffuriau ac ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy weithio ar y cyd i roi cynllun gweithredu plismona lleol newydd ar waith.
  • Gwella'r amgylchedd gan gynnwys mynd i'r afael â materion gwastraff, tipio anghyfreithlon a gwella llif traffig a llwybrau beicio.
  • Gwella rheolaeth a safonau llety rhentu preifat, ac ymdrin ag adeiladau gwag/adfeiliedig
  • Creu mwy o gyfleusterau cymunedol a chyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
  • Creu rhaglen ymgysylltu gref sydd wedi darparu buddsoddiad ariannol i grwpiau a digwyddiadau cymunedol lleol.