Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

2. Mae Llanelli yn newid

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu Llanelli fel lle gwych i fyw a gweithio. Mae adfywio Tyisha yn ganolog i hyn oherwydd ei leoliad; mae'n darparu cyswllt pwysig rhwng canol y dref a phrosiect Pentre Awel gwerth miliynau o bunnoedd.

Drwy fuddsoddi'n sylweddol mewn canol tref Llanelli, rydym am sicrhau ei fod yn fan y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddo drwy ail-ddefnyddio siopau gwag unwaith yn rhagor a chreu cartrefi newydd y mae mawr eu hangen.

Bydd datblygiad nodedig Pentre Awel yn rhoi Llanelli ar y map gan ddwyn ynghyd fusnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern mewn un lleoliad gwych ar hyd yr arfordir.

Mae gwelliannau i'r ardal hefyd yn cynnwys adfywio sied Nwyddau Llanelli, cyflwyno llwybrau beicio newydd, gwella'r amgylchedd a chynyddu hygyrchedd gorsaf drenau Llanelli. Bydd y prosiectau hyn yn helpu i greu naws am le, yn gwneud y gorau o dreftadaeth Llanelli ac yn gwella'r cysylltedd â Chanol y Dref, Pentre Awel, Llwybr yr Arfordir a Thyisha.

Mae'r datblygiadau helaeth hyn yn ganolog i sicrhau dyfodol Llanelli. Mae'r ardal yn elwa ar gysylltiadau strategol o ran ffyrdd a rheilffyrdd, ac mae rheilffordd Llanelli a ffordd gyswllt yr arfordir yn gwasanaethu'r ardal ar ochr ddeheuol safle'r datblygiad. Mae'r orsaf reilffordd wedi'i chlustnodi ar gyfer buddsoddiad yng nghynlluniau presennol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer 2023. Mae'r ffordd gyswllt yn rhoi mynediad i'r M4 drwy'r A4138 neu'r A484.

Mae Ysgol Pen Rhos, ysgol gynradd o'r radd flaenaf hefyd wedi'i datblygu ac rydym am adeiladu ar yr ymrwymiad hwn i weithio gyda'r gymuned i wella Heol yr Orsaf a'r cyffiniau. Mae’r gwaith hwn yn rhan allweddol o'n strategaeth i sicrhau dyfodol bywiog i'r dref.