Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

Yn yr adran hon



Gwybodaeth Atodol - Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) ynghylch Trawsnewid Tyisha

 

  • 1

    1. Y rhesymeg dros gyflwyno'r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yw:-
      1. rhoi gwybod i'r farchnad am ofynion y Cyngor o ran y Prosiect (fel y'i diffinnir isod) a chanfod lefel y diddordeb mewn perthynas ag ef; a
      2. chychwyn ymarfer rhagarweiniol i brofi'r farchnad trwy ymgymryd â gwaith ymgysylltu â'r farchnad cyn tendro nad yw'n rhwymo (Ymgysylltu â'r Farchnad) gyda  phartïon â diddordeb i archwilio'r ystod o atebion posibl a gynigir mewn perthynas â'r Prosiect.
    2. I grynhoi, mae gofynion y Cyngor yn ymwneud â phenodi partner datblygu (drwy ymarfer caffael a reoleiddir) i ddarparu ailddatblygiad cyffrous ac uchelgeisiol i adfywio ward Tyisha yn Llanelli (Prosiect).
    3. Mae'r wybodaeth atodol hon yn rhoi gwybodaeth amlinellol mewn perthynas â'r Prosiect a'r ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad y mae'r Cyngor yn bwriadu ei wneud.
    4. Er mai'r bwriad yw y bydd gwaith caffael arfaethedig y Prosiect yn digwydd yn unol â'r amserlen a nodir yn y ddogfen hon, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i derfynu, i ddiwygio neu i amrywio'r broses gaffael arfaethedig ar unrhyw adeg.
    5. Er bod gofal rhesymol wedi'i gymryd wrth baratoi'r wybodaeth hon, nid yw'r Cyngor nac unrhyw un o'i ymgynghorwyr yn derbyn unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am addasrwydd neu gyflawnder ei chynnwys, nac am unrhyw wybodaeth neu safbwyntiau a nodir. Ni roddir unrhyw gynrychiolaeth na gwarant, a fynegir neu a awgrymir, gan y Cyngor nac unrhyw un o'i gynrychiolwyr, ei weithwyr, ei asiantau, neu ei ymgynghorwyr mewn perthynas â'r ddogfen neu'r hyn y maent yn seiliedig arni. Ni fydd unrhyw atebolrwydd am faterion o'r fath.
    6. Rhoddir yr holl ddisgrifiadau, data, cyfeiriad at amodau a manylion eraill a nodir yn y ddogfen hon heb gyfrifoldeb ac ni ellir dibynnu arnynt fel datganiad na'u bod yn cynrychioli ffeithiau.
    7. Mae'n rhaid i unrhyw sefydliad sy'n cymryd rhan yn yr ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad mewn perthynas â'r Prosiect fodloni ei hun, drwy archwilio neu fel arall, fod unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y Cyngor yn gywir.
    8. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl, heb roi rhybudd ymlaen llaw, i newid sail, neu'r gweithdrefnau ar gyfer yr ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad ac i derfynu trafodaethau sy'n ymwneud â sefydliadau sy'n cymryd rhan (yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) ar unrhyw adeg. Ni fydd y Cyngor o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol mewn perthynas â'r uchod.
    9. Mae'r ddogfen hon yn cael ei darparu i sefydliadau sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymateb i'r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn unig ac ni ellir datgelu, copïo, atgynhyrchu, dosbarthu na throsglwyddo'r ddogfen ganddynt i unrhyw berson arall ar unrhyw adeg (ac eithrio at y diben o gael cyngor cyfreithiol, ariannol neu gyngor arall ar yr amod bod y cyfryw bersonau'n ymgymryd i gadw'r Memorandwm Gwybodaeth yn gyfrinachol).

    10. Ni ddibynnir ar unrhyw wybodaeth yn y ddogfen hon, mewn unrhyw ohebiaeth rhwng y Cyngor ac unrhyw sefydliad sy'n cymryd rhan mewn perthynas â'r Prosiect, nac yng ngofyniad y Cyngor, fel gwybodaeth sy'n gyfystyr â chontract, cytundeb neu'n cynrychioli y bydd unrhyw gontract yn cael ei gynnig neu ei gwblhau wedi hynny.

    11. Y Cyngor a'i ymgynghorwyr a benodir sydd yn berchen ar hawlfraint y ddogfen hon a'i chynnwys. Ni chaniateir copïo'r ddogfen hon yn gyfan gwbl neu'n rhannol, na'i hailgynhyrchu, ei dosbarthu na'i darparu fel arall i unrhyw drydydd parti arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Cyngor ac eithrio mewn perthynas â pharatoi ymateb i'r ddogfen hon. Mae'r holl ddogfennau a ddarperir gan y Cyngor mewn perthynas â'r Prosiect yn parhau i fod yn eiddo i'r Cyngor ac mae'n rhaid eu dychwelyd neu eu dinistrio ar alw, heb gadw unrhyw gopïau.
    12. Ni fydd y Cyngor yn ad-dalu, ac ni fydd o dan unrhyw amgylchiadau o gwbl yn gyfrifol am unrhyw gostau, taliadau neu dreuliau gan sefydliadau mewn perthynas ag Ymgysylltu â'r Farchnad, y wybodaeth atodol na'r Prosiect yn gyffredinol.
    13. Yn unol â'r rhwymedigaethau a'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau cyhoeddus gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y 'Ddeddf'), gellir datgelu'r holl wybodaeth a gyflwynir i'r Cyngor mewn ymateb i gais a wneir yn unol â'r Ddeddf. Mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth a gyflwynir gan sefydliadau sy'n cymryd rhan y mae'r sefydliad yn ystyried ei bod yn fasnachol sensitif, dylai:
      1. nodi'n glir fod gwybodaeth o'r fath yn sensitif yn fasnachol;
      2. esbonio goblygiadau posibl datgelu gwybodaeth o'r fath; a
      3. darparu amcangyfrif o'r cyfnod y mae'r sefydliadau sy'n cymryd rhan o'r farn y bydd gwybodaeth o'r fath yn parhau i fod yn fasnachol sensitif.
    14. Pan fo sefydliad sy'n cymryd rhan yn nodi bod gwybodaeth yn sensitif yn fasnachol, bydd y Cyngor yn ymdrechu i gynnal cyfrinachedd. Fodd bynnag, dylai sefydliadau sy'n cymryd rhan nodi, hyd yn oed pan nodir bod gwybodaeth yn sensitif yn fasnachol, y gallai fod yn ofynnol i'r Cyngor ddatgelu gwybodaeth o'r fath yn unol â'r Ddeddf. Yn unol â hynny, ni all y Cyngor warantu na fydd unrhyw wybodaeth a nodir yn 'fasnachol sensitif' yn cael ei datgelu.
    15. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr (fel y cânt eu rhoi ar waith yng Nghymru) yn berthnasol i'r gwaith Ymgysylltu â'r Farchnad, y ddogfennaeth, y Prosiect, a'r broses y cyfeirir ati yma. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy'n eistedd yng Nghaerdydd awdurdodaeth unigryw i glywed a phenderfynu ar unrhyw achos, camau neu weithrediadau, ac i gytuno ynghylch unrhyw anghydfodau, a allai godi y tu allan i'r gwaith Ymgysylltu â'r Farchnad, y ddogfen neu'r Prosiect, neu mewn cysylltiad â nhw.
  • 2

    Awdurdod lleol unedol yn ne-orllewin Cymru yw Cyngor Sir Caerfyrddin (y 'Cyngor'). Sir Gaerfyrddin yw'r sir drydedd fwyaf yng Nghymru, ac mae'n cwmpasu tua 925 milltir sgwâr (2,370 km²). Mae'r Cyngor yn cyflogi dros 8,000 o bobl ac yn darparu ystod eang o wasanaethau i drigolion y sir. Sir Gaerfyrddin yw un o'r pedwar Cyngor Sir sy'n ffurfio Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Dyma gronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn er mwyn cefnogi twf economaidd ledled rhanbarth De-orllewin Cymru. Nod y Fargen Ddinesig yw creu dros 9,000 o swyddi newydd a sicrhau cynnydd o £1.8 biliwn o ran Gwerth Ychwanegol Gros y rhanbarth. Mae sectorau cyflogaeth sylweddol yn cynnwys Addysg, Iechyd a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Sector cyflogaeth allweddol arall yw gweithgynhyrchu ac mae gweithgynhyrchu cerbydau modur yn neilltuol o sylweddol yn Sir Gaerfyrddin.

  • 3

    1. Gwahoddir sefydliadau sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymateb i'r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw i wneud y canlynol:
      1. darparu ymatebion ysgrifenedig cychwynnol ynghylch sut y gellid bodloni gofynion y Cyngor a;
      2. chymryd rhan mewn trafodaethau â'r Cyngor ar sail un i un.
      Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r sefydliadau sy'n cymryd rhan gwrdd a thrafod gofynion y Cyngor ar gyfer y Prosiect, â'r bwriad i'r Cyngor a'r sefydliadau sy'n cymryd rhan archwilio a chael gwell dealltwriaeth am ystod, natur a chwmpas yr atebion posibl, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y materion technegol, masnachol, cyfreithiol ac ariannol allweddol sy'n codi mewn perthynas â'r Prosiect.
    2. Yn amodol ar ganlyniad y trafodaethau ac ar ôl ystyried ymateb cychwynnol y farchnad ac ystod yr ymatebion / atebion amlinellol arfaethedig, bydd y Cyngor, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, yn pennu'r dull caffael a ffefrir (os oes un) i fodloni ei ofynion mewn perthynas â'r Prosiect.
    3. Sylwer - rhagwelir yn y man hwn y bydd gweithdrefn ddyfarnu Trafodaeth Gystadleuol yn unol â Rheoliad 30 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (fel y'i diwygiwyd) yn cael ei chynnal mewn perthynas â chaffael y Prosiect. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, i ymgymryd â phroses gaffael amgen neu i beidio â bwrw ymlaen ag unrhyw broses gaffael.
  • 4

    Bwriedir i'r amserlen isod fod yn ganllaw ac, er nad yw'r Cyngor yn bwriadu gwyro oddi wrth yr amserlen, mae'n cadw'r hawl i wneud hynny yn ôl ei ddisgresiwn llwyr ar unrhyw adeg. Ni ddylid ystyried bod unrhyw beth yn y tabl hwn yn cynrychioli y bydd unrhyw beth penodol yn cael ei wneud ar unrhyw amser penodol, o fewn amser penodol, neu o gwbl.

     

    Digwyddiad Briffio Safl 31 Gorffennaf July 2023
    Cyflwyno Hysbysiad Contract Haf 2023
    Gwahodd cynigwyr i gyflwyno ateb amlinellol Hydref 2023
    Dechrau deialog Tachwedd 2023
    Gorffen deialog Ionawr 2024
    Cyflwyno Tendr Terfynol Mai 2024
    Nodi cynigydd llwyddiannus Mehefin 2024
    Gweithredu/cychwyn contract Gorffennaf/Awst 2024

     

    Os bydd y Cyngor yn penderfynu ymgymryd â phroses gaffael a reoleiddir, bydd gofynion manwl y fanyleb a rhaglen sy'n cynnwys dyddiadau cerrig milltir allweddol yn cael eu cynnwys yn yr Holiadur Cyn Cymhwyso/cyfres o ddogfennau tendro perthnasol a roddir i sefydliadau sy'n cymryd rhan. Gall yr amserlen fod yn amodol ar waith adolygu ac addasu yn ôl disgresiwn y Cyngor.

  • 5

    1. Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw hwn yn cael ei gyhoeddi gan y Cyngor er mwyn gallu cynnal ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad cyn dechrau unrhyw broses gaffael ffurfiol.
    2. Mae'r Cyngor yn gwahodd ymatebion cychwynnol i'w Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw y dylid eu cyflwyno drwy ymateb i'r holiadur ar wefan GwerthwchiGymru erbyn 18 Awst 2023 fan bellaf.
    3. Mae'n rhaid i'r ymatebion fod yn gryno gan ganolbwyntio ar y cwestiynau/adborth a geisir a'r wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen hon, a dylid seilio'r ymatebion arnynt. Mae hefyd yn gyfle i ddarpar gynigwyr gyflwyno esboniadau, cwestiynau ac awgrymiadau i'r Cyngor ynghylch sut y gallai drefnu ei hun yn barod ar gyfer proses gaffael ffurfiol. Gweler Atodiad A ar gyfer fformat penodedig o ran ymateb.
    4. Bydd y Cyngor yn trefnu cyflwyniad ar gyfer darpar gynigwyr fel rhan o'r ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad. Bydd hyn yn cael ei gynnal ar 31 Gorffennaf 2023 yn ardal y datblygiad. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bartïon â diddordeb ymweld â'r safleoedd allweddol.

     

  • 6

    1. Yn amodol ar broses gaffael ffurfiol yn cael ei chymeradwyo yn dilyn yr ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad, mae'r canlynol yn darparu amlinelliad lefel uchel o fwriadau'r Cyngor.
    2. Dull caffael arfaethedig – Trafodaeth Gystadleuol
    3. Os bydd y Cyngor yn penderfynu, yn ôl ei ddisgresiwn, ymgymryd â phroses gaffael ffurfiol, bydd yn cyhoeddi Hysbysiad Contract ar GwerthwchiGymru gyda'r bwriad o geisio mynegi diddordeb yn ffurfiol gan sefydliadau cymwys priodol.
    4. Bydd sefydliadau sy'n mynegi diddordeb mewn ymateb i'r Hysbysiad Contract ar GwerthwchiGymru yn destun ymarfer cyn cymhwyso. Yn ystod y cam Cyn Cymhwyso (PQQ), y bwriad yw cael rhestr fer o gynigwyr posibl a'u gwahodd yn ffurfiol i gymryd rhan yn y ddeilaog (ITPD) mewn perthynas â gofynion y Cyngor.
    5. Ar ôl y cam Cyn Cymhwyso, bydd cynigwyr ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y ddogfen ddeialog (ITPD) a fydd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, telerau ac amodau amlinellol contract / penawdau'r telerau, y meini prawf ar gyfer dyfarnu'r contract; a manyleb a gofynion amlinellol y Cyngor (bydd hyn yn datblygu wrth i'r ddeialog fynd yn ei blaen).
    6. Nod y ddeialog yw nodi a diffinio'r modd sydd fwyaf addas ar gyfer bodloni gofynion y Cyngor. Gellir trafod pob agwedd ar y gofyniad - yr agweddau technegol, masnachol, cyfreithiol, ariannol ac ati.
    7. Bydd y ddeialog yn cael ei chynnal mewn "camau olynol". Gellir lleihau nifer yr atebion a drafodir a/neu'r cynigwyr trwy gymhwyso'r meini prawf dyfarnu a nodir yn y Gwahoddiad i Gymryd Rhan mewn Deialog. Bydd y ddeialog yn parhau hyd nes y bydd y Cyngor yn fodlon y bydd yr ateb(ion) a gynigir gan y cynigwyr (y rhai sy'n weddill) yn bodloni holl ofynion y Cyngor, ac ar yr adeg honno, bydd y ddeialog yn dod i ben.
    8. Ar ôl i'r ddeialog ddod i ben, bydd y Cyngor yn gwahodd cynigwyr i gyflwyno'u tendrau terfynol yn seiliedig ar yr ateb(ion) a nodir yn ystod y cam deialog. Mae'n bosibl y gall y Cyngor, cyn dewis cynigydd buddugol, fynnu bod tendrau terfynol, unwaith y byddant wedi dod i law, yn cael eu hegluro, eu pennu a'u hoptimeiddio. Bydd y tendrau terfynol yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf dyfarnu a nodir yn y dogfennau tendro.
    9. Ar ôl nodi'r cynigydd buddugol, efallai y bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol iddo egluro agweddau ar ymrwymiadau a gynhwysir yn y tendr terfynol neu gadarnhau'r ymrwymiadau hynny. Unwaith y bydd yr holl faterion wedi'u cwblhau'n foddhaol, bydd y Cyngor yn penderfynu a ddylid dyfarnu'r contract i'r cynigydd buddugol.
    10. Unwaith y bydd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu contract, bydd yn hysbysu'r holl gynigwyr sy'n cymryd rhan ynghylch y penderfyniad hwnnw ac yn darparu cyfnod segur o 10 diwrnod calendr cyn gosod contract.
    11. Bydd rhagor o fanylion am union strwythur y broses o ran cynnal Trafodaeth Gystadleuol yn cael ei nodi yn y Gwahoddiad i Gymryd Rhan mewn Deialog a fydd yn cael ei anfon at Gynigwyr ar y rhestr fer yn dilyn y cam cyn cymhwyso.
      PWYSIG - Mae'r broses a nodir uchod yn ddangosol yn unig ac mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i amrywio, i newid neu i ddiwygio strwythur y broses gaffael (os oes angen) yn ôl ei ddisgresiwn llwyr. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu nodi mewn cyfres o ddogfennau tendro yn y dyfodol a roddir i gynigwyr sy'n cymryd rhan.
    12. Bydd y Cyngor yn rhoi Tîm Trafodaeth Gystadleuol amlddisgyblaethol ar y maes sy'n cynnwys cynrychiolaeth dechnegol, fasnachol a chyfreithiol. Ar hyn o bryd nid oes cynllun caffael cadarn gan fod nifer o newidynnau ar waith o ran llywodraethu mewnol a chymeradwyaethau. Fel dangosydd yn unig, y disgwyliad yw y gall y broses gyfan gymryd tua 12 mis neu fwy i ddod i ben o'r dechrau.
    13. Mae'r Cyngor yn cydnabod, o ystyried natur a chwmpas y Prosiect, y gall sefydliadau sy'n mynegi diddordeb yn yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw hwn geisio ffurfio consortia; ac y gellir cyflwyno cynigion gan gonsortia wedi hynny os caiff proses gaffael ffurfiol ei lansio.
    14. Bydd y Cyngor, maes o law, yn sefydlu polisi cynigion gan gonsortia, ond ar hyn o bryd ac at ddibenion yr ymarfer Ymgysylltu â'r Farchnad mae'r dull amlinellol o ran cynigion gan gonsortia fel a ganlyn:
      1. mae'r Cyngor yn bwriadu gosod un contract ar gyfer cyflawni'r Prosiect,
      2. er nad oes unrhyw ffurflen gyfreithiol benodol yn cael ei nodi, bydd unrhyw gontract dilynol yr ymrwymir iddo naill ai (1) gyda'r holl gynigwyr ar sail atebolrwydd ar y cyd a sawl atebolrwydd, neu (2) gydag un neu fwy o'r partïon yn gweithredu fel 'prif gontractwr' (a lle bo mwy nag un, ar sail atebolrwydd ar y cyd a sawl atebolrwydd).
      3. pan fo'r contract gyda chwmni diben arbennig sydd â phersonoliaeth gyfreithiol ar wahân wedi'i sefydlu ar gyfer y Prosiect, bydd y Cyngor yn mynnu bod sicrwydd digonol yn cael ei roi gan gyfranogwyr yn y cwmni hwnnw neu'r cwmni cychwynnol.
      4. os bydd prif gontractwr (corff arweiniol)/dull is-gontractio yn cael ei weithredu, bydd angen cytundebau uniongyrchol ar y Cyngor gydag is-gontractwyr allweddol.
  • 7

    Gellir anfon ymholiadau at Tyisha@sirgar.gov.uk

    Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i gyflwyno ymateb i unrhyw ymholiad i bob parti sydd wedi mynegi diddordeb yn y Prosiect.