Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu
Yn yr adran hon
- 5. Adfywio Tyisha
- 6. Cysyniad dylunio - potensial cyffrous
- Gwybodaeth Atodol - Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) ynghylch Trawsnewid Tyisha
6. Cysyniad dylunio - potensial cyffrous
Mae'r gymuned wedi nodi y gall ateb posibl gynnwys rhodfa o'r orsaf reilffordd i'r dref gyda thai newydd, man gwyrdd a choed wedi’u plannu ar hyd y llwybr.
Rydym wedi gwneud rhywfaint o waith meddwl ynghylch pa fath o olwg allai fod ar yr ardal.
Nid yw hyn yn derfynol gan y byddem yn disgwyl i bartner datblygu gyflwyno ei egwyddorion a'i gysyniadau dylunio ei hun sy'n bodloni anghenion a dyheadau'r gymuned. Mae'n rhaid i hyn ganolbwyntio ar amgylchedd glân a gwyrdd gyda mannau rhyngweithiol cymunedol o ansawdd uchel a naws stryd fodern.
Rydym yn gwahodd partneriaid i fynegi eu diddordeb drwy ddweud wrthym sut y gallent ddylunio'r safleoedd allweddol, sut y byddant yn ariannu'r datblygiadau ac unrhyw risgiau a rhwystrau y byddai angen iddynt eu hystyried. Byddwn hefyd am wybod sut y byddant yn cynnwys dyheadau'r gymuned ac yn sicrhau hirhoedledd o ran y prosiect cyffredinol.
Cynhelir digwyddiad briffio safle ar gyfer pob parti sydd â diddordeb ar 31 Gorffennaf 2023