Mae Tyisha yn newid - Chwilio am bartner datblygu

5. Adfywio Tyisha

Mae'r safle sydd wrth wraidd y cynlluniau hyn yn cynnwys tir sy'n eiddo i'r cyngor sy'n rhychwantu Heol yr Orsaf ac yn ymestyn i'r ffordd gyfagos.

Bydd y partner datblygu yn canolbwyntio ar bedwar safle allweddol sy'n cynnwys tir gwag ac adeiladau adfeiliedig sydd â photensial ar gyfer ailddatblygu neu adeiladau newydd. Wrth i'r prosiect ehangu efallai y bydd potensial hefyd ar gyfer gwaith ailddatblygu pellach mewn ardaloedd eraill yn Nhyisha.

MAP O SAFLEOEDD ALLWEDDOL

Lawrlwytho map

 

Rydym yn chwilio am bartner i’n helpu i gyflawni’r prosiect cyffrous hwn. 

 

Ein Gweledigaeth

Mae'n rhaid i'r prosiect ddatblygu a darparu cymysgedd o fathau o dai a deiliadaethau megis tai fforddiadwy (rhanberchnogaeth), eiddo i'r meddiannydd a thai cymdeithasol sy'n cynnwys cartrefi 2 a 3 ystafell wely yn bennaf. Bydd angen i hyn ystyried proffil demograffig yr ardal a bydd angen iddo gyd-fynd yn esthetaidd ag eiddo cyfagos. Byddwn hefyd am gyflwyno polisïau gosod a chyfyngiadau ar ailwerthu.

Rydym hefyd am adeiladu ar ein gweledigaeth ynghylch sut y gallwn greu lle gwell i fyw drwy wella'r amgylchedd cyffredinol drwy dirlunio, plannu coed, darpariaethau gwastraff addas, storio a sicrhau bod y datblygiadau a'r ardaloedd yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor Tref ac eraill i wella cysylltiadau trafnidiaeth lleol a'r llif traffig. 

Bydd angen i'r datblygiad gysylltu â llwybrau beicio newydd a rhai sy'n bodoli eisoes a sicrhau bod ystyriaeth ar gyfer digon o barcio i leihau tagfeydd. Bydd angen dylunio'r datblygiad yn ofalus i leihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a chreu mwy o wytnwch a chydlyniant cymunedol.

Dylai cynlluniau ystyried treftadaeth yr ardal gan gynnwys hen safle Ysgol Copperworks ac Ysgol Maesllyn. Copperworks oedd yr ysgol gynradd gyntaf yn Llanelli a hefyd safle'r ysgol Gymraeg gyntaf yn yr ardal. Dylid hefyd ystyried y buddsoddiad i wella'r orsaf reilffordd (ar y brif linell rhwng Abergwaun a Llundain) yn ogystal â buddsoddi mewn canolfan gymunedol leol a fydd yn helpu preswylwyr i gael mynediad i gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn ogystal ag iechyd a llesiant.

Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno rhaglen gaffael newydd sy'n targedu ar gyfer yr ardal a fydd yn targedu safleoedd ac ardaloedd strategol, yn ogystal â chynllun trwyddedu dethol ar gyfer landlordiaid i sicrhau bod llety rhentu preifat hefyd yn gwella yn unol â'r datblygiadau newydd.

Byddai angen i unrhyw bartner ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am yr angen am dai i gydbwyso'r angen am dai ar gyfer yr ardal a hyfywedd ariannol y cynllun yn gyffredinol.