I gydnabod proffil demograffig yr ardal a'r uchelgais i ddarparu manteision teg, bydd cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant yn cael eu cynnig i grwpiau targed economaidd-gymdeithasol allweddol, gan gynnwys:

  • Prentisiaid
  • Gweithwyr dan hyfforddiant
  • Profiad gwaith a lleoliadau gwaith
  • Pobl ddi-waith, gan gynnwys pobl ddi-waith yn y tymor hir
  • Heb fod yn weithgar yn economaidd
  • Heb fod mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET)

Sefydlwyd Hwb Cyflogaeth Pentre Awel pwrpasol gan Bouygues i helpu i 'baru' ymgeiswyr â chyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sy'n gysylltiedig ag adeiladu ym Mharth 1 Pentre Awel.

Cynhelir Hybiau Cyflogaeth ar y safle bob mis, gan ddarparu hyfforddiant cyn cyflogi a chyngor gyrfaoedd gan arbenigwyr yn y diwydiant. Mae'r Hwb yn gweithio'n agos gyda mentrau cyflogadwyedd lleol - gan gynnwys Cymunedau am Waith, Gweithffyrdd, Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith – a hynny i nodi ymgeiswyr addas ac i hyrwyddo cyfleoedd. 

Mae'r Ganolfan yn derbyn atgyfeiriadau gan raglenni/sefydliadau cyflogadwyedd, gyda'r nod o fanteisio i'r eithaf ar recriwtio a hyfforddi a gwella canlyniadau i'r bobl leol.

Mae Hwb Cyflogaeth Pentre Awel eisoes yn gwneud gwahaniaeth yn Sir Gaerfyrddin - mae sawl unigolyn o fewn grwpiau targed allweddol, ar ôl bod yn yr Hwb, wedi cael eu cyflogi gan Bouygues yn dilyn hynny i weithio ar y prosiect.