Gweithio'n Gynaliadwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/10/2023

Yn unol â dyheadau'r Cyngor, mae Parth 1 Pentre Awel wedi'i ddylunio a'i adeiladu gan ystyried cynaliadwyedd a'i effaith bosibl ar yr amgylchedd. Bydd Parth 1 yn manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd ac yn lleihau allyriadau carbon a'r defnydd o ynni trwy:

  • Dull ffabrig yn gyntaf
  • Hyrwyddo golau dydd naturiol ac awyru
  • Defnyddio pympiau gwres o'r awyr
  • Dros 850 o baneli solar wedi'u gosod ar do adeilad Parth 1
  • To brown/gwyrdd bioamrywiol
  • Achrediad ardderchog BREEAM  
  • Seilwaith gwefru cerbydau trydan
  • Teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus gyda'r bwriad o leihau teithiau gan gerbydau i'r safle
  • Bydd Parth 1 yn ymestyn Hawl Tramwy Cyhoeddus o'r gorllewin i'r dwyrain sy'n cysylltu'r Morfa â Pharc Arfordir y Mileniwm
  • Dulliau cynaliadwy o adeiladu gan Bouygues UK, sef contractwr Parth 1, gan gynnwys defnyddio Olew Llysiau wedi’i drin â Hydrogen (HVO) ar gyfer peiriannau, swyddfeydd a chabanau safle wedi'u pweru gan baneli solar ac ailgylchu deunyddiau/pridd a gloddiwyd i leihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Mae Bouygues wedi ymrwymo i ddargyfeirio 98% o wastraff o safleoedd tirlenwi.