Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

2. Ar beth yr ydym ni'n gwario ein harian?

Rydym yn gwario dros £248 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar amrywiaeth eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith a ddarperir gan fusnesau o bob sector a maint, gydag ystod o gyfleoedd masnachol yn cynnwys Busnesau Bach a Chanolig, Sefydliadau'r Trydydd Sector, Grwpiau Lleiafrifol a Grwpiau Ffydd.

Rydym yn defnyddio dull Rheoli Categori wrth gaffael, sy'n golygu bod modd categoreiddio'r gwariant trwy grwpio ynghyd gynhyrchion a gwasanaethau cysylltiedig ar draws y Cyngor, a'u mapio yn ôl marchnadoedd cyflenwi perthnasol. Trwy ganolbwyntio ar ein gwariant mewn categorïau penodol gallwn herio'r hyn rydym yn ei brynu a sut rydym yn ei brynu, i sicrhau grym prynu a gwerth hyd yr eithaf.

During 2020/2021, we spent a total of £248 million across our 10 sub-categories.