Canllaw i Gyflenwyr ar Dendro

11. Beth alla i ei baratoi'n rhagweithiol ar gyfer Tendr?

Mae yna rai cwestiynau penodol y byddwn fel arfer yn eu gofyn yn ystod proses dendro a gallai fod o helpu i chi i baratoi rhai o'r gofynion ymlaen llaw. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys:-

  • Disgwylir i dendrwyr fod â rhif DUNS (ar gyfer asesiad ariannol). Mae pob busnes cofrestredig yn y DU ac Iwerddon yn cael Rhif D-U-N-S yn awtomatig. Gallwch gofrestru ar gyfer un yma (dnb.co.uk)

Yswiriant

Fel arfer gofynnwn am o leiaf:

  • £10m Atebolrwydd Cyhoeddus (unrhyw un digwyddiad)
  • £10m Atebolrwydd y Cyflogwr (unrhyw un digwyddiad)

Yn dibynnu ar yr hyn sy'n ofynnol, efallai y byddwn hefyd yn gofyn am Indemniad Proffesiynol neu Yswiriant Pob Risg y Contractwr.

Sylwer y gallai'r lefelau hyn hefyd fod yn uwch yn dibynnu ar y gwasanaethau/nwyddau neu'r gwaith yr ydym yn ei gaffael. Mae hefyd yn ofynnol gennym fod yr yswiriant yn bodloni'r sgoriau gofynnol canlynol:

  • A M Best – A- (A minws)
  • Standard & Poor’s – BBB

Iechyd a Diogelwch

Rhaid i bob cwmni sy'n cyflogi mwy na phum gweithiwr fod â Pholisi Iechyd a Diogelwch. Fodd bynnag, hyd yn oed os oes gan eich cwmni lai na phum gweithiwr, rydym yn dweud bod yn rhaid i chi roi sylw dyledus i'ch cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch ac felly mae'n dal i fod yn ofynnol i chi gael Polisi Iechyd a Diogelwch a'i amgáu er mwyn cael gwaith gyda'r Cyngor. Gellir cael rhagor o wybodaeth a pholisi enghreifftiol a thempled ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch drwy fynd i HSE website. Bydd y Cyngor yn gofyn i chi gadarnhau eich bod wedi adolygu eich Polisi Iechyd a Diogelwch o fewn y tair blynedd diwethaf a sicrhau bod dyddiad y Polisi yn adlewyrchu dyddiad yr adolygiad diwethaf a gynhaliwyd.

Rhaid i'ch Polisi Iechyd a Diogelwch gynnwys y canlynol:

  • Datganiad Polisi - wedi'i lofnodi a'i ddyddio
  • Y Sefydliad a'r Cyfrifoldebau - sut y mae gofynion iechyd a diogelwch yn cael eu gweithredu
  • Y Trefniadau – y safonau a'r gweithdrefnau a fabwysiedir wrth weithio
  • Polisi Iechyd a Diogelwch wedi'i lofnodi a'i ddyddio

Asesiadau Risg

Efallai y bydd yn ofynnol i chi ddarparu enghraifft o asesiad risg wedi'i gwblhau a system weithio ddiogel / gweithdrefn. Gellir cael manylion am Asesiadau Risg hefyd ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch . Fel arall, gallwch ffonio'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar 0300 003 1747