Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes Sir Gâr 2024

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/04/2024

SPF

Gan fod twristiaeth bellach werth dros £1/2biliwn i economi Sir Gaerfyrddin, drwy gydol y gaeaf bydd tîm datblygu twristiaeth y Cyngor Sir yn teithio ar draws y sir i gwrdd â busnesau a grwpiau cymunedol.

Mae slotiau y gellir eu harchebu bellach ar gael ar gyfer y sioeau teithiol gyda'r cyfle i gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir, i gynnig cyngor busnes a fydd yn ymdrin â phob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; o drwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau yn ogystal â chymorth marchnata Dyddiad y sioe deithiol nesaf yw 16 Mai yn Yr Hen Farchnad, Llandeilo. Bydd y digwyddiadau yn dechrau am 10:00 ac yn gorffen am 4pm. Mae lleoedd yn gyfyngedig oherwydd capasiti'r lleoliad felly gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich apwyntiad. Gellir archebu sesiynau ymlaen llaw ac maent ar gael fel sesiynau un i un neu fel grŵp.

Drwy gydol y sesiwn bydd swyddogion arbenigol y Cyngor yn cynnig cyngor busnes am ddim sy'n berthnasol i'ch busnes. Bydd y Tîm Twristiaeth wrth law i archwilio sut y gallwch weithio gyda'r Cyngor ar ymgyrchoedd, cyfleoedd ffilmio, digwyddiadau busnes, a chyngor ac arweiniad mewn perthynas â rheoliadau a chyllid statudol.

Gall mynychwyr hefyd ddysgu am y cynlluniau diweddaraf ar gyfer themâu marchnata 2023-24 Cyngor Sir Caerfyrddin a chael blas ar yr ymgyrchoedd a'r cynnwys creadigol sydd wedi'u trefnu yn ein calendr ar gyfer y flwyddyn. Byddwn hefyd yn rhannu newyddion am sut rydym yn symud tuag at integreiddio digidol gwell o'n gwefannau twristiaeth a'n gwefannau sy'n wynebu busnesau. Dewch i ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan!

Gallwn gynnig awgrymiadau ar y math o wybodaeth sydd ei hangen ar y cyfryngau ar gyfer erthyglau teithio, cyllid sydd ar gael yn eich ardal chi, a rhannu ein profiad o weithio gyda Chroeso Cymru a Visit Britain.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin bortffolio eang o grantiau a benthyciadau ar gael i ddatblygwyr a pherchnogion busnes, dewch i ddarganfod pa gymorth sydd ar gael i chi a'ch busnes. Mae cyfleoedd ar gael drwy'r gronfa Ffyniant Gyffredin, y Gronfa Dechrau Busnes, Cronfa Adnewyddu Canol Trefi  Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, a'r Gronfa Tyfu Busnes. Bydd cymorth ac arweiniad hefyd ar gyllid sydd ar gael i fusnesau gwledig.

Os ydych yn cynllunio digwyddiad, yn rhedeg sefydliad trwyddedig neu'n bwriadu casglu rhoddion elusennol ar y stryd, bydd swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wrth law i helpu.

Bydd cyngor yn cael ei roi gan swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth gwastraff newydd ynghyd â gwybodaeth am fentrau Ansawdd yr Amgylchedd Lleol (LEQ) fel y byrddau sesiynau codi sbwriel 2 funud.

Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gyfer mentrau cymunedol, gwirfoddol, elusennol a chymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd swyddogion hefyd yn gallu rhannu gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau yn Sir Gaerfyrddin o raglen Arfor ac yn esbonio sut y gellir cefnogi pobl ifanc ledled y sir i ddatblygu syniadau busnes newydd, cael gwaith a datblygu gweithgareddau cymdeithasol yn eu hardal sy'n cefnogi'r Gymraeg.

Bydd y sioeau teithiol Twristiaeth a Busnes yn cynnig ystod eang o arbenigedd perthnasol i'ch helpu i redeg eich busnes - p'un a ydy eich busnes wedi ei hen sefydlu ac rydych yn chwilio am gyfleoedd newydd neu a ydych yn ystyried sefydlu yn y diwydiant ac angen awgrymiadau i'ch helpu ar eich ffordd.

Rydym yn dod ag amrywiaeth eang o arbenigedd ynghyd, o dan yr un to - gan roi cyfle i fusnesau Sir Gaerfyrddin fanteisio ar gyngor arbenigol am gyllido, busnes, grantiau, rheoli gwastraff, trwyddedu a chymorth digwyddiadau - mewn ychydig oriau i ffwrdd o'ch busnes, yn hytrach na diwrnodau neu wythnosau o ymchwilio a'r gwaith dilynol.

Mae'r sesiynau hyn yn rhad ac am ddim i'w mynychu, ond rhaid archebu ymlaen llaw. I archebu eich lle, e-bostiwch Twristiaeth@sirgar.gov.uk gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
• Eich enw ac enw'r busnes
• Pa ymgynghorwyr yr hoffech drefnu apwyntiad gyda nhw (gallwch ddewis nifer yr ymgynghorwyr.)
• Faint o'r gloch y gallwch gyrraedd, a pha amser yw'r diweddaraf y gallech ei adael.

Wedyn byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau pob un o'r amseroedd ar eich archeb.

Rhaid archebu'r holl sesiynau ymlaen llaw. Gan fod y lleoedd yn gyfyngedig, rydym yn eich cynghori i archebu cyn gynted â phosibl i warantu eich lle.

Ariennir y fenter dwristiaeth hon gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin. 

Ffurflen Archebu