Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg

Ein gweledigaeth deng mlynedd ar gyfer cynyddu a gwella'r cynllunio darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ein hardal

Yn ôl Cyfrifiad 2011, Sir Gâr oedd â’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae ein poblogaeth ddwyieithog yn ased unigryw a gwerthfawr.

Mae gennym ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau Cymraeg ond rydyn ni hefyd yn frwd dros hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau fod gan ein holl drigolion y cyfle i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn iaith fyw yng nghymunedau Sir Gâr. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni gydweithio i greu mwy o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn yr ysgol, yn y gwaith, mewn busnesau ac mewn gweithgareddau hamdden.

Gweledigaeth hirdymor y Cyngor yn ‘Strategaeth Hybu’r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin’ yw: Anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir.

Mae 5 prif nod sef-

  1. Cynyddu niferoedd sy’n caffael sgiliau sylfaenol a sgiliau pellach yn y Gymraeg drwy’r system addysg a thrwy drosglwyddo iaith yn y cartref;
  2. Cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ac felly ddefnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd, ac annog a chefnogi sefydliadau’r sir i wneud y Gymraeg yn gynyddol yn gyfrwng naturiol eu gwasanaethau;
  3. Cymryd camau pwrpasol i effeithio’n gadarnhaol ar symudiadau poblogaeth gan geisio denu’n pobl ifanc i sefydlu neu i ail-ymsefydlu yn y sir fel na gollir y cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg a enillir drwy’r drefn addysg. Yn ogystal, gwneud ymdrechion sylweddol i gymathu mewnfudwyr a sicrhau nad ydy datblygiadau cynllunio newydd yn cael effaith andwyol ar hyfywedd y Gymraeg;
  4. Targedu ardaloedd daearyddol penodol o fewn y sir, naill ai am eu bod yn cynnig potensial i ddatblygu neu yn achosi pryder yn ieithyddol, i gynyddu niferoedd sy’n medru ac yn defnyddio’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny;
  5. Marchnata a hyrwyddo’r iaith. Codi statws y Gymraeg gan gynnwys manteision dwyieithrwydd a manteision addysg ddwyieithog. A thrwy godi ymwybyddiaeth o’r manteision hyn, denu mwy o drigolion y sir i gaffael yr iaith.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, yn Sir Gaerfyrddin y gwelwyd y pwynt canran yn disgyn fwyaf yng Nghymru, o 50.3% yn 2001 i 43.9% yn 2011, a oedd yn golygu mai llai na hanner y boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2011. Dyma’r tro cyntaf yn hanes y sir i’r ganran ddisgyn dan yr hanner.

Cyfrifiad 2011: Y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin Adroddiad gan: Dylan Phillips 15 Ionawr 2014

Elfen ddadlennol iawn o ddata’r cyfrifiad yw dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg ar draws nifer o grwpiau oedran. O fewn siaradwyr Cymraeg Sir Gaerfyrddin yn 2011, gwelir bod canrannau uwch na’r cyfartaledd sirol o-

  • blant oed ysgol (3-14 oed),
  • pobl ifainc (16-24 oed) a
  • phobl dros oed ymddeol (65 oed a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg:

Siaradwyr Cymraeg Sir Gaeryrddin fesul Grŵp Oed,2011

Siaradwyr Cymreag (3 oed a throsodd)  Nifer  Canran (%)
 3-15 15,514 57.7%
 16-24  9,040 46.2%
 25-34  7,073 37.5 %
 35-49  12,881 35.8%
 50-64  14,910 39.15%
 65-74  9,209 45.3%
 75-84  6,472 51.2%
 85+  2,949 56.95%
 CYFANSWM  78,048  43%

 

Yn dilyn Cyfrifiad 2011 cytunodd y Cyngor llawn i sefydlu Gweithgor Tasg a Gorffen i ymchwilio i’r ffactorau a wnaeth arwain at y dirywiad ac i lunio argymhellion er mwyn ymdrin â’r sefyllfa. Ym mis Mawrth, 2014 cyhoeddwyd Adroddiad ‘Y Gymraeg yn Sir Gâr’ gan Weithgor y Cyfrifiad. Cyflwynwyd argymhellion ar gyfer y meysydd canlynol-

  • Cynllunio
  • Addysg
  • Iaith ac Economi
  • Gweithleoedd cyfrwng Cymraeg a gweinyddiaeth y Cyngor
  • Effaith sefydliadau sy’n gweithio er budd y Gymraeg megis y Mentrau Iaith
  • Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yng nghymunedau’r sir
  • Trosglwyddiad Iaith yn y teulu
  • Marchnata’r Iaith

O ran y sector Addysg a Phlant roedd 25 o argymhellion a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir- isod mae rhai o’r prif argymhellion. Gellir darllen y rhestr lawn yn Atodiad 1 ar ddiwedd y ddogfen.

Addysg Cyn-Ysgol

  • Bod y Cyngor Sir yn cydweithio’n agos gyda’r Mudiad Meithrin a darparwyr preifat i sicrhau bod addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gael yn hwylus ym mhob rhan o Sir Gâr.

Y Sector Cynradd

  • Bod y Cyngor Sir yn paratoi cynllun gwaith ac amserlen bendant, mewn cydweithrediad â chyrff llywodraethu ysgolion, er mwyn symud pob ysgol gynradd ar hyd continwwm iaith. Bydd angen datblygu strategaethau ar gyfer yr amrywiol gategorïau ac ardaloedd daearyddol;

Ysgolion Uwchradd

  • Bod y Cyngor Sir yn disgwyl i ysgolion uwchradd adeiladu ar y sylfaen ieithyddol a osodwyd gan yr ysgolion cynradd Cymraeg drwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ac fel cyfrwng dysgu hyd at CA4;
    Bod y Cyngor Sir yn cynllunio ar gyfer twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd.

Marchnata Addysg Gymraeg

  • Bod y Cyngor Sir yn cynnal ymgyrch farchnata barhaus i hyrwyddo addysg Gymraeg gan esbonio manteision bod yn ddwyieithog i rieni a disgyblion;

Cyffredinol

  • Bod y Cyngor Sir yn cydweithio gyda phob corff Llywodraethol i gynnal awdit sgiliau iaith er mwyn ystyried anghenion ieithyddol y gweithlu ar gyfer gallu symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith.

Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid

  • Bod y grŵp gweithredu strategol yn sicrhau ei fod yn datblygu cyfleoedd cymunedol cyfrwng Cymraeg a fydd yn cefnogi ac yn atgyfnerthu’r cwricwlwm addysgol.

Mae’r Cynllun Strategol hwn yn ymateb i’r adroddiadau a’r argymhellion uchod a dyheadau'r Cyngor Sir a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn.

Er gwaetha’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i gyfrannu mewn modd ystyrlon i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg Cymru i Filiwn o siaradwyr erbyn 2050 yn unol ag amcan Llywodraeth Cymru.

Wrth ddilyn y nod o gael Sir Gaerfyrddin ddwyieithog, rydym am sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gadarnle i'r Gymraeg yn ne-orllewin Cymru- Sir lle mae'r Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus a bywiog o fewn cymunedau dwyieithog, cryf a chynaliadwy.

Dymunwn sicrhau twf sylweddol mewn addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y bobl o bob oed sy'n dod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac sydd â'r gallu i ddefnyddio eu hieithoedd yn hyderus gyda'u teuluoedd, eu cymdogion ac yn y gweithle.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo'n llwyr i'r strategaeth allweddol hon. Wrth weithredu’r strategaeth yma, fe fyddwn yn ystyrlon o’r ystod barn parthed y strategaeth gan droedio’n sensitif, yn bwyllog ac yn rhesymol ymhob achlysur.

Credwn fod rôl y system addysg yn anhepgor o ran gwireddu'r dyheadau hyn. I gefnogi hyn, byddwn yn adeiladu ar nifer o’r egwyddorion yng nghynllun 2017-22 ac yn eu hehangu:

  • Pob disgybl i fod yn ddwyieithog hyderus erbyn ei fod yn 11 oed, hyd eithaf gallu ein hysgolion, fel y cyflawnir gan drefniant presennol dynodiadau ieithyddol ein hysgolion, wrth ystyried eu taith ar hyd y continwwm iaith fel sefydliadau unigol.
  • Cyflawni'r nod hwn yn yr ysgol gynradd drwy ymgorffori egwyddorion addysg drochi yn y blynyddoedd cynnar fel opsiwn a ffafrir ac a argymhellir. Gall hyn sicrhau bod disgyblion yn rhugl yn barod erbyn 7 mlwydd oed, gyda chyflwyno elfennau ar drydedd iaith fydol erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen – wrth ganlyn llythrennedd deuol a thriphlyg, yn enwedig mewn perthynas â llafaredd.
  • Ar ôl y cyfnod trochi, sicrhau bod y manteision cynnar hyn i blant yn cael eu cynnal drwy gadarnhau dilyniant ieithyddol uchelgeisiol priodol yn y blynyddoedd dilynol
  • Pob disgybl i gael ‘dwy iaith gyntaf' erbyn diwedd yr ysgol gynradd, gyda threfniadau pwrpasol ar gyfer symud ymlaen i'r sector uwchradd er mwyn datblygu ac ychwanegu at fanteision bod â mwy nag un iaith er mwyn gallu cymryd pob cyfle mewn bywyd.
  • Cyfarwyddeb i bob arweinydd ysgol a chorff llywodraethu i sicrhau cydymffurfiaeth ag amcanion addysg drochi'r Sir a darpariaethau eraill yn y strategaeth hon.
  • Hyrwyddo a datblygu amlieithrwydd, gan gyflwyno trydedd iaith tua diwedd y Cyfnod Sylfaen fel y gall dysgwyr gael 'dwy iaith a mwy'
  • Hyrwyddo llafaredd, gwrando, darllen ac ysgrifennu mewn ffordd sy'n gyson â chwricwlwm newydd Cymru, gyda'r nod o sicrhau llythrennedd deuol a thriphlyg ein disgyblion
  • Sefydlu system o ddisgwyliadau uchel a chodi'r bar wrth drin y Gymraeg fel un continwwm ieithyddol o hyn ymlaen
  • Symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith, gyda lefel yr her sy'n briodol i'w chyd-destun cychwynnol, ond ar gyfradd ddatblygu sy'n bwrpasol ac yn bendant. Yn gyffredinol, gall hyn olygu symud pob ysgol o fewn eu categorïau newydd, gan anelu hefyd at ymgynghori’n gyhoeddus ar gyfer newid sylweddol i ddarpariaeth o leiaf 10 ysgol o fewn y ddegawd, 4 o rheiny o fewn y 5 mlynedd cyntaf.
  • Ymgorffori ymagwedd ragweithiol tuag at drefn ail-ddynodi ieithyddol yr ysgol, gan symud ysgolion ar ddechrau'r system newydd i ddynodiad a fydd yn briodol heriol i bob un ohonynt wrth i'r Sir symud tuag at wireddu'r weledigaeth addysgol a amlinellir (gweler isod)
  • Trefnu bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob dysgwr o fewn pellter teithio rhesymol i'w cartrefi, ac yn eu dalgylchoedd eu hunain
  • Gweithio gyda gwasanaethau corfforaethol eraill a rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo a datblygu ymhellach ddwyieithrwydd yn Sir Gaerfyrddin.
  • Sicrhau bod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael cyfleoedd ieithyddol cyfartal.
  • Datblygu’r gweithlu (deilliant 7), drwy ymelwa rhagor ar y 200 (13%) o athrawon sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl ond nad ydynt yn ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Yn ogystal, cynnig hyfforddiant i’r gweithlu ar hyd ystod y gwahanol lefelau hyfedredd er mwyn codi sgiliau’n gyffredinol.
  • Sicrhau bod pob disgybl yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'r iaith yn rhugl erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 yn unol â'u cyfnod datblygu disgwyliedig.
  • Sicrhau cynnydd clir a hwylus o’r ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg i addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, ac ymlaen i fyd gwaith ac addysg bellach ac uwch.
  • Darparu gwasanaethau a fydd yn sicrhau cyfleoedd dysgu o ansawdd da i bob plentyn, person ifanc ac oedolyn yn Sir Gaerfyrddin, gan eu galluogi felly i wireddu eu potensial llawn fel dysgwyr gydol oes yng nghyd-destun natur ddwyieithog unigryw'r Sir.
  • Hyrwyddo datblygiad medrau dwyieithog dysgwyr ar bob cyfle mewn sefyllfaoedd ffurfiol, lled-ffurfiol ac anffurfiol fel bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol i gyfathrebu.
  • Hyrwyddo manteision gwybyddol, economaidd, cymdeithasol, addysgol, iechyd a chymunedol dwyieithrwydd
  • Hyrwyddo cyfleoedd i rieni a'r teulu ehangach ddatblygu eu sgiliau Cymraeg fel y gallent gefnogi datblygiad iaith eu plant
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r holl ddarparwyr i wella safon y Gymraeg o fewn yr amgylchedd dysgu
  • Datblygu a hyrwyddo rhaglenni hyfforddi a fydd yn galluogi gweithlu'r ysgol i ennill y cymhwysedd a'r hyder i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod hwyrddyfodiaid yn cael eu cefnogi'n llawn i sicrhau y gallent integreiddio'n naturiol i'w hysgol a'u cymuned leol drwy ddefnyddio Canolfannau Iaith y Sir.
  • Cynnal tîm o staff fydd yn sicrhau gweithredu’r strategaeth, gan gynnwys gorolwg o’r strategaeth gan Bennaeth Gwasanaeth yn yr Adran Addysg a Phlant a Rheolwr Datblygu’r iaith Gymraeg yn yr adran honno’n ogystal. Cynnal Fforwm yr Gymraeg mewn Addysg (wedi ei gyfansoddi gan randdeiliaid a phartneriaid allweddol ac aelodau etholedig ar draws ystod y pleidiau gwleidyddol). Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Fforwm Sirol y Gymraeg er mwyn dwyn y maen i’r wal.

Ail-ddynodi Ysgolion- bydd y categorïau a fabwysiedir ar gyfer gwahanol ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu strategaeth CSGA a disgwyliadau rhesymol i symud pob ysgol ar hyd y continwwm iaith. Ar yr adeg briodol, byddwn yn symud ein hysgolion o'u dynodiadau presennol i'r system gategoreiddio newydd:

  • Ar y sail nad yw'n niweidiol i’r ddarpariaeth ddwyieithog bresennol
  • Mewn modd sy'n rhoi taith ddigon heriol a datblygiadol i ysgolion ar hyd y continwwm iaith
  • Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod ac yn cytuno ar y categori newydd a neilltuwyd gyda phob ysgol, cyn i’r categori gael ei gadarnhau gan bob Corff Llywodraethu

Y cwricwlwm i Gymru- Mae rôl y Gymraeg yng nghwricwlwm Cymru yn cael ei nodi'n glir ac yn aml yn y weledigaeth a osodir yn Ddyfodol Llwyddiannus. Rydym wedi ymrwymo, drwy argymell cwricwlwm i Sir Gaerfyrddin, i hyrwyddo'r Gymraeg fel pwnc, fel cyfrwng addysgu, fel cymhwysedd ac fel yr iaith ar gyfer cyfathrebu anffurfiol yn ein hysgolion a'n cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Bil Cwricwlwm 2021 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2021.

Mandadu Ieithoedd - mae'r Gymraeg wedi'i mandadu o 3 oed, tra bo’r Saesneg wedi'i mandadu o 7 mlwydd oed. Mae hyn yn sicrhau:

  • Gall addysg drochi Cymraeg sefydledig barhau heb ei lesteirio
  • Mae'r ysgolion cyfrwng Saesneg presennol dal yn gallu cyflwyno Saesneg o 3 oed
  • Bydd gan ysgolion nad ydynt yn defnyddio addysgeg drochi Cymraeg neu’r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar gyfrifoldeb i gyflwyno'r Gymraeg o 3 oed ymlaen

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015- Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn gymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Strategaeth Llywodraeth Cymru - miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - Rydym wedi ymrwymo i sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn addysg a sgiliau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan mai dim ond drwy alluogi mwy o bobl i ddysgu Cymraeg y bydd modd gwireddu'r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Byddwn yn canolbwyntio ein strategaeth tymor hwy ar y blynyddoedd cynnar, oherwydd po gynharaf y bydd plentyn yn dod i gysylltiad â'r iaith, y mwyaf o gyfle sydd gan y plentyn i ddod yn rhugl.

Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Bydd y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a'r Cynllun Cymraeg mewn Addysg yn cael eu halinio. Bydd buddsoddi mewn ysgolion ac adeiladau newydd yn llawn ystyried nodau strategol y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg dros y degawd nesaf.

Defnyddir buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru fel mater o drefn, a fuddsoddwyd er enghraifft wrth sefydlu Canolfan Iaith yn ardal Drefach, y disgwylir iddi agor yn 2021 fel adnodd i gefnogi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru)- Blaenoriaeth: Bodloni gofynion ALNET a'r Côd ADY yn y Gymraeg

Targedau:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Sir Gaerfyrddin yn y categori mwyaf heriol gyda’r nod o sicrhau cynnydd o 10-14%+ yn y plant Blwyddyn 1 sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod oes y strategaeth.

Canran Blwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg

Yn Ebrill 2021, roedd 60% (1163 o’n dysgwyr) Blwyddyn 1 yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn gynnydd o 5% ers dechrau’r Cynllun Strategol presennol.

Yn ôl data Llywodraeth Cymru- Cyfanswm y disgyblion a nifer y disgyblion a addysgir Cymraeg fel iaith gyntaf yn ôl grŵp blwyddyn ac awdurdod lleol, 2012 i 2021 mae 56.89% (14,442) o ddysgwyr Sir Gaerfyrddin yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2017 y canran oedd 50.81% (13,694); gwelwyd cynnydd o 6.08% neu 748 o ddysgwyr yn dilyn y trywydd cyfrwng Cymraeg.

Yn seiliedig ar garfan gyfartalog o 1,964 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 1, mae cynnydd o 10%-14% o Flwyddyn 1 mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn golygu rhwng 196 a 275 o ddisgyblion ychwanegol. Hyderwn y bydd ein gweledigaeth ar gyfer addysg drochi ac ail-ddynodi ysgolion yn sicrhau ein bod yn rhagori'n gyfforddus ar y canrannau a'r niferoedd absoliwt hyn.

Erbyn mis Medi 2032, dyhead uchelgeisiol Cyngor Sir Gaerfyrddin yw y bydd 75% o’r holl ddisgyblion Blwyddyn 1 yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd sicrhau sylfaen gadarn o ran addysg Gymraeg yn cynyddu dewis y dysgwyr a rhoi’r hyder iddynt i ddilyn llwybr addysg cwbl ddwyieithog ac yna ymlaen i gyflogaeth ac i’r gymuded ehangach.