Chwiliwch am gais cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/04/2024

Er mwyn cael mynediad rhwydd, rydym yn cyhoeddi rhestr wythnosol o bob cais cynllunio yn y Sir. Mae'r pedair wythnos ddiwethaf ar gael i'w lawrlwytho fel ffeil .xl.

Unwaith bod penderfyniad wedi cael ei gyhoeddi i’r ymgeisydd, bydd yr hysbysiad penderfynu yn cael ei bostio ar ein gwefan. Mae rhestr o’r penderfyniadau a wnaethpwyd yn cael ei chyhoeddi bob wythnos ac ar gael isod:

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn perthynas â chais cynllunio yn cael ei chyhoeddi - llythyr cyflwyno, ffurflenni cais, cynlluniau, dogfennau atodol, arolygon ac ati a bydd modd i'r cyhoedd eu darllen. Ni chyhoeddir dogfennau sy'n cynnwys gwybodaeth feddygol neu ariannol.

Nid yw'r wybodaeth gynllunio yn cynnwys hanes llawn unrhyw safle ac ni ddylid ei defnyddio yn lle'r wybodaeth a geir trwy chwiliad pridiannau tir lleol a ffurfiol. Rydym yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn fanwl-gywir ac yn ddibynadwy ond nid yw'n gwneud dim sylwadau nac yn rhoi gwarantau ynghylch manwl-gywirdeb y wybodaeth na pha mor gyflawn neu addas ydyw at unrhyw ddiben ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb dros y defnydd a wneir ohoni na'i dibynadwyedd.

Hawlfraint

Gwarchodir cynlluniau, darluniau, a deunydd arall a gyflwynir i'r awdurdod lleol gan y Ddeddf Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau 1988 (adran 47). Gallwch ond defnyddio deunydd sydd wedi ei lawrlwytho a/neu ei argraffu at ddibenion ymgynghori, i gymharu ceisiadau cyfredol â chynlluniau blaenorol, ac i gadarnhau bod datblygiadau wedi cael eu cwblhau'n unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Nid oes hawl gwneud rhagor o gopïau heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint yn gyntaf.

Cynllunio