Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

13. A allaf ddiogelu fy nhir rhag i fwy o hawliau tramwy cyhoeddus gael eu hychwanegu?

Os yw’r cyhoedd yn defnyddio llwybr anffurfiol yn rheolaidd gall hynny olygu y caiff ei gydnabod yn hawl dramwy gyhoeddus swyddogol.

Er mwyn atal hyn, mae angen i chi ddangos, ar yr adeg berthnasol, nad oeddech yn bwriadu i'r llwybr ddod yn hawl dramwy gyhoeddus.

In these circumstances, any apparent action that makes members of the public aware that you do not intend to dedicate an official Public Right of Way can protect land from the addition of further PRoWs.

O dan yr amgylchiadau hyn, gall unrhyw gamau amlwg sy'n gwneud aelodau o'r cyhoedd yn ymwybodol nad ydych yn bwriadu neilltuo hawl dramwy gyhoeddus swyddogol, ddiogelu tir rhag i hawliau tramwy cyhoeddus pellach gael eu hychwanegu. Byddai camau megis cyflwyno datganiad o dan adran 31(6) Deddf Priffyrdd 1980 neu osod a chynnal arwyddion sy'n nodi nad yw llwybr anffurfiol yn hawl dramwy gyhoeddus ill dau yn ffyrdd effeithiol o ddangos diffyg bwriad i neilltuo hawl dramwy gyhoeddus ychwanegol.

Rhaid i bob asiant/contractwr sy'n gweithio ar ran y tirfeddiannwr neu'r tenant ddeall y cyfrifoldebau cyfreithiol hyn.

Pan na fydd rhwymedigaethau tirfeddianwyr yn cael eu cynnal, bydd y Cyngor yn gwneud pob ymgais resymol i ddatrys unrhyw broblemau heb droi at y llysoedd neu gamau cyfreithiol priodol eraill ond bydd, pan fo angen, yn gwneud defnydd llawn o'i bwerau cyfreithiol.