Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

8. Pwy ddylai gynnal perthi?

Dylai'r tirfeddiannwr/meddiannydd docio'r holl lystyfiant sy'n ymledu i hawliau tramwy cyhoeddus cyfagos.

Dylid gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd i sicrhau nad yw llystyfiant sy'n ymledu, coed sydd wedi gordyfu neu wedi cwympo, mieri neu brysgwydd yn rhwystro nac yn lleihau lled hawl dramwy gyhoeddus (gweler lled hawliau tramwy cyhoeddus).