Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

11. A gaf ddileu hawl dramwy gyhoeddus o'm tir?

Gellir diddymu hawl dramwy os gellir profi nad oes ei hangen at ddefnydd cyhoeddus a'i bod yn briodol ei chau.

Mae'n anodd iawn profi hyn, ac anaml iawn y mae gorchmynion diddymu yn cael eu gwneud. Os ydych yn ystyried gwneud cais am orchymyn, y cam cyntaf yw cysylltu â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad.