Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

12. A allaf herio cywirdeb y Map a'r Datganiad Diffiniol?

Mae ymddangosiad llwybr neu ffordd ar y Map a'r Datganiad Diffiniol yn dystiolaeth bendant o'u bodolaeth yn ôl y gyfraith, ond mae'r map a'r datganiad yn amodol ar adolygiad parhaus i sicrhau bod y cofnod cyfreithiol yn parhau'n gywir.

Os yw tirfeddiannwr/preswylydd yn credu bod ganddo ddigon o dystiolaeth i gefnogi'r broses o wneud newid i'r cofnod cyfreithiol drwy naill ai ychwanegu, dileu neu newid hawl dramwy gyhoeddus gofnodedig ar draws eu heiddo, gall wneud cais am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol.

Mae ceisiadau am Orchymyn Addasu Mapiau Diffiniol yn golygu cwblhau nifer o ffurflenni ac mae nifer o gamau; rhai ohonynt â chyfnodau penodol; y mae'n rhaid i'r Awdurdod Lleol eu dilyn cyn y gellir penderfynu ynghylch y cais. Mae'n rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon fod y profion cyfreithiol perthnasol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) wedi'u cyflawni cyn y gellir gwneud a chadarnhau Gorchymyn Addasu Mapiau Diffiniol.

Ni chaniateir gwneud unrhyw newid i'r Map a'r Datganiad Diffiniol heb orchymyn cyfreithiol. Cysylltwch â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad (neu ewch i'n gwefan) i gael rhagor o wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol.