Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

7. Pwy ddylai gynnal a chadw wyneb hawl dramwy gyhoeddus?

Fel rheol mae hawliau tramwy cyhoeddus yn mynd dros dir preifat ond mae wyneb y llwybr yn 'perthyn' i'r Cyngor Sir. Mae hyn yn golygu mai'r Cyngor Sir fydd fel arfer yn gyfrifol am gadw wyneb hawliau tramwy cyhoeddus mewn cyflwr addas ar gyfer eu statws cyhoeddus.

Eithriad i hyn yw lle mae llwybr yr hawl dramwy gyhoeddus yn fynediad preifat hefyd, megis y ffordd fynediad i dŷ neu fferm. Yn yr achosion hyn, bydd y Cyngor Sir yn gweithio gyda thirfeddianwyr/deiliaid hawddfraint ac yn gwneud cyfraniad cymesur at waith cynnal a chadw i sicrhau bod yr wyneb yn addas at y diben.

Mae'n drosedd amharu ar wyneb hawl dramwy gyhoeddus, heblaw am aredig (gweler y wefan) heb ganiatâd yr Awdurdod. Dylid gwneud unrhyw waith arfaethedig i wyneb Hawliau Tramwy Cyhoeddus gyda chytundeb yr Awdurdod lleol gan fod wyneb y llwybr yn 'perthyn' yn gyfreithiol i ni.

Dylai'r tirfeddiannwr, neu'r contractwr ar ei ran, gysylltu â ni i amlinellu'r cynigion er mwyn i ni gymeradwyo'r math a'r fanyleb cyn i'r gwaith ddechrau. Mae trafodaeth ymlaen llaw hefyd yn caniatáu inni ddelio ag unrhyw ofynion cau dros dro wrth i'r gwaith barhau.