Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

10. A gaf newid llwybr hawl dramwy gyhoeddus?

Os bydd tirfeddiannwr/meddiannydd yn dymuno newid aliniad hawl dramwy gyhoeddus i gyd-fynd yn well â'i amgylchiadau gall wneud cais i'r awdurdod lleol am Orchymyn Gwyro Llwybr Cyhoeddus.

Ni chaniateir symud hawl dramwy gyhoeddus heb orchymyn cyfreithiol. Cysylltwch â'r tîm Mynediad i Gefn Gwlad (neu ewch i'n gwefan) i gael rhagor o wybodaeth a'r ffurflenni angenrheidiol.