Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rolau a Chyfrifoldebau

9. A gaf aredig a thyfu cnydau ar draws hawl dramwy gyhoeddus?

Os nad yw'n rhesymol gyfleus osgoi aredig neu dyfu cnydau ar hawl dramwy gyhoeddus sy'n croesi cae yna mae'n rhaid adfer yr hawl dramwy gyhoeddus cyn pen 14 diwrnod, ag wyneb cadarn a gwastad. Wedi hynny dylid adfer unrhyw amharu pellach cyn pen 24 awr.

Dylid cadw hawl dramwy gyhoeddus yn rhydd o gnydau i atal llinell yr hawl dramwy rhag cael ei rhwystro.