Mae'r Cynllun Gweithredu yn edrych ar holl elfennau a chamau'r datblygiad, gan gynnwys caffael, cyfathrebu, hamdden, busnes, addysg a byw â chymorth.

Yng nghyd-destun busnes, rydym yn gweithio i gryfhau'r Gymraeg wrth ddatblygu Parth 1 ac ar ôl ei agor. Yn y fideo isod mae Rebecca Hayes yn egluro hanes yr iaith Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, y manteision o ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes, rhai 'cynghorion' syml i fusnesau/isgontractwyr a'r rôl y bydd Pentre Awel yn ei chwarae.

Hefyd mae gennym amrywiaeth o adnoddau i helpu eich busnes i ddechrau defnyddio'r Gymraeg.