Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Gair o groeso gan Arweinydd y Cyngor i'n Hadroddiad Blynyddol am 2022-2023

Unwaith eto, mae'n bryd cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a chymryd ysbaid i fyfyrio ar ddigwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf. Yn fy nghyflwyniad y llynedd ysgrifennais am y modd yr oeddem wedi symud o'r pandemig i argyfwng costau byw ac wrth i mi ysgrifennu hyn, rydym yn dal i fod yng nghanol yr argyfwng hwnnw. Gallwn weld rhai arwyddion o adferiad, ond yn sicr mae'n gyfnod anodd i lawer. Ymateb i'r argyfwng hwnnw sydd wedi bod flaenaf dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf ond rydym hefyd wedi gweithio'n galed i gyflawni rhai pethau pwysig ac i wella ein hunain lle'r oedd angen gwneud hynny.

Roeddem yn gwybod ddechrau'r flwyddyn y byddai angen i ni weithredu'n bendant i ymateb i'r Argyfwng Costau Byw a gwnaethom sicrhau bod yna ymgynghorwyr yn ein canolfannau HWB i roi cyngor am gyllidebu a budd-daliadau. Rhyddhawyd £180,000 o'r Gronfa Dlodi ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i ddarparu Mannau Croeso Cynnes, gwnaethom agor ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llanelli, a Rhydaman fel mannau cynnes yn ogystal â chefnogi partneriaid o'r trydydd sector i ddarparu cefnogaeth yn y gymuned. Rydym yn parhau i gefnogi ein trigolion, ac i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y mater hwn rydym wedi sefydlu panel ymgynghorol trawsbleidiol ar fynd i'r afael â thlodi i adrodd i'r Cabinet yn rheolaidd.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhai o'n prosiectau blaenllaw wedi dwyn ffrwyth. Mae cam cyntaf Pentre Awel ar y gweill, a bydd y prosiect gofal iechyd, hamdden ac ymchwil hwn sydd werth dros £200 miliwn yn helpu i ehangu'r ddealltwriaeth o'r hyn ydyw byw'n dda. Bydd Pentre Awel yn gartref i sefydliadau gwyddoniaeth mawr a busnesau bach newydd, i gyd yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau a'r bwrdd iechyd i wella bywyd. Bydd canolfan cyflawni ac ymchwil clinigol yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ehangu ei ddarpariaeth ymchwil a pheirianneg feddygol a bydd canolfan addysg a hyfforddiant yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, gyda'r cyrsiau'n amrywio o lefel mynediad i ôl-raddedig, gan roi myfyrwyr mewn lleoliad clinigol a chanolbwyntio ar feysydd lle mae prinder sgiliau.

Rydym wedi parhau gyda'n Rhaglen Moderneiddio Addysg ac wedi agor dwy ysgol newydd yng Nghydweli a Gorslas. Rydym hefyd wedi cynyddu ein darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i Bob Disgybl i Feithrinfeydd, Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 ac rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno hyn i bob disgybl cynradd erbyn mis Ebrill 2024, a ddylai helpu teuluoedd sy'n profi effeithiau'r Argyfwng Costau Byw.

Ym mis Mawrth gwnaethom agor Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn, a chefais y pleser o fod yn bresennol yn yr agoriad swyddogol. Mae gan Bentywyn hanes unigryw o ran record cyflymder y byd dros dir yn ogystal â bod yn un o'r darnau mwyaf prydferth o draeth yn y wlad. Mae'r prosiect yn cynnwys y 'Caban' - llety sydd wedi'i adeiladu gan ddefnyddio technolegau adeiladu cynaliadwy.

Cafodd ein hymrwymiad i ehangu ein gweithlu gofal cymdeithasol hwb yr haf diwethaf pryd y gwnaethom lansio'r Academi Gofal newydd sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous i'r rheiny sy'n awyddus i gael gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol. Mae hyn yn darparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad, ac yn galluogi ymgeiswyr i ennill cyflog wrth ddysgu a dewis llwybr gyrfa sydd fwyaf addas iddynt.

Rydym wedi datblygu ystod o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, sy'n bwysig, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach mewn cydweithrediad â'n partneriaid lleol a Llywodraeth Cymru.

Fel y dywedais yn fy nghyflwyniad y llynedd, rydym yn parhau i dyfu er gwaethaf yr heriau, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny eto eleni. Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau a swyddogion y Cyngor hwn wrth i ni geisio gwneud cynnydd pellach mewn ystod o feysydd a gwella bywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.