Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol

Ym mis Mai 2022 etholwyd gweinyddiaeth newydd, ac amlinellodd y Cabinet Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027. Felly, aethom ati i adolygu ein Strategaeth Gorfforaethol a'n Hamcanion Llesiant. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin gyda'n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gwnaethom gynnal asesiad llesiant cynhwysfawr i nodi materion allweddol. Fel rhan o'r gwaith o baratoi'r asesiad a'r cynllun llesiant cynhaliom gyfres o ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori i ofyn am adborth, yn ogystal ag ymgynghori â thrigolion, busnesau, staff ac Undebau Llafur ynglŷn â pherfformiad y Cyngor yn ystod 2022.

Gwnaethom ystyried yr adborth hwn wrth i ni adnewyddu ein Strategaeth Gorfforaethol a gosod ein Hamcanion Llesiant newydd, a chytunwyd i ddiwygio ein 13 o Amcanion Llesiant blaenorol yn set fwy cryno o amcanion ar lefel poblogaeth. Canlyniad hyn oedd i'r Strategaeth Gorfforaethol newydd fabwysiadu 4 Amcan Llesiant. Gweler Atodiad 1 am ragor o wybodaeth am sut y cafodd ein Strategaeth Gorfforaethol newydd a'n Hamcanion Llesiant eu llunio.

Drwy gydol 2022/23 buom yn monitro'r modd yr oedd y 13 o Amcanion Llesiant blaenorol yn cael eu cyflawni ar ein System Monitro Gwybodaeth Perfformiad (PIMS). Wedi i'n Strategaeth Gorfforaethol newydd a'n 4 Amcan Llesiant gael eu cymeradwyo, symudom y camau gweithredu a'r targedau a osodwyd ar gyfer y 13 o Amcanion Llesiant i'r 4 Amcan Llesiant newydd. Gallwn adrodd ar y cynnydd a wneir yng nghyswllt y ddwy set o amcanion llesiant yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, bydd pwyslais yr Adroddiad Blynyddol hwn ar yr Amcanion Llesiant newydd.

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn seiliedig ar yr Amcanion Llesiant newydd ar gyfer 2022/23

Mae'r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gynhyrchu gan y Cyngor oherwydd rydym yn credu y dylem ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr a chytbwys i'r cyhoedd am ein gwasanaethau, er mwyn iddynt allu gweld sut yr ydym yn perfformio a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Hefyd mae'n ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 (Gweler Atodiad 2a).

Mae'r adroddiad blynyddol hwn a'r hunanasesiad yn mynd i'r afael â dwy ddyletswydd gyfreithiol:

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Mae ein Hymagwedd at hunanasesu drwy ein Hamcanion Llesiant

Mae defnyddio amcanion llesiant i fframio'r hunanasesiad yn galluogi'r Cyngor i integreiddio gofynion adrodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn un adroddiad.
Mae'r ymagwedd hon yn rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol:

  • Mae'n sicrhau bod yr hunanasesiad yn strategol, gan ganolbwyntio ar y sefydliad, yn hytrach na gwasanaethau unigol ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei amcanion llesiant a'i ganlyniadau bwriadedig.
  • Mae'n caniatáu inni fyfyrio ar lefel strategol ar sut mae ein holl swyddogaethau (gan gynnwys gweithgareddau corfforaethol) yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, sut rydym yn gweithredu a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i wella ymhellach a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol nawr ac yn y tymor hir.
  • Mae defnyddio amcanion llesiant fel y fframwaith cyffredinol yn annog golwg fwy cyfannol ar berfformiad y Cyngor, gan gydnabod bod llawer o wasanaethau'n 'cydlynu' ac yn cyfrannu at un neu ragor o amcanion llesiant.
  • Rydym yn parhau i reoli perfformiad gwasanaethau unigol drwy Gynlluniau Cyflawni Is-adrannol.

Rheoli Perfformiad yng Nghyngor Sir Gâr

Mae ein Fframwaith Rheoli Perfformiad yn seiliedig ar gylch Cynllunio/Gwneud/Adolygu, ac rydym wedi ei gryfhau i wella hunanasesu. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach i adlewyrchu disgwyliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chanllawiau statudol.

Llywodraethu

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (yr Awdurdod) yn gyfrifol am sicrhau yr ymgymerir â'i waith yn unol â'r gyfraith a safonau priodol. Rhaid iddo sicrhau hefyd y diogelir cyllid cyhoeddus, y rhoddir cyfrif priodol amdano ac y’i defnyddir yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau gwelliant parhaus yn hyn o beth.

Mae'r Awdurdod yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer Llywodraethu ei waith, gan hwyluso cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, gan gynnwys bod â threfniadau priodol ar gyfer rheoli risg.

Mae'r Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel "gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, i'r bobl iawn mewn modd amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol.” Mae’r Fframwaith Llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd hynny sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli’r Awdurdod ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’r gymuned, yn ymgysylltu â hi ac yn ei harwain. Mae’r Fframwaith yn galluogi'r Awdurdod i fonitro i ba raddau y cyflawnwyd ei amcanion strategol ac i ystyried a yw’r amcanion hynny wedi arwain at gyflenwi gwasanaethau priodol a chost-effeithiol.

Rydym wedi parhau gyda'n hymagwedd newydd tuag at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Yn ogystal ag edrych ar ba drefniadau oedd ar waith ar gyfer 2022/23 gwnaethom ystyried pa mor dda y mae'r trefniadau hyn yn mynd, sut ydyn ni'n gwybod a sut y gallwn wella? Gweler Atodiad 5