Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Amcan Llesiant 3

Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

Dyfarniad cyffredinol

Rydym am alluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus.

  • Mae arwyddion cadarnhaol yn dod i'r amlwg o'r economi leol, ond mae rhai heriau'n parhau.
  • Er bod gennym heriau amgylcheddol sylweddol i'w datrys, gwnaed cynnydd cynnar sylweddol a bydd gwaith arloesol i ddatblygu llwybrau carbon yn ein cynorthwyo i dargedu gweithgarwch i gyrraedd y targedau lleihau carbon mwy heriol.
  • Rydym wedi gwneud gwelliant sylweddol i ailgylchu gwastraff o ganlyniad i newidiadau i'r gwasanaeth.

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae darparu swyddi diogel sy'n talu'n dda i bobl leol yn hanfodol ac mae cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau. Mae hyn yn cael effaith ddramatig ar ein hiechyd a'n gallu i weithredu mewn cymdeithas bob dydd.
  • Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd anweithgarwch economaidd uchel. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i dwf yn Sir Gaerfyrddin, gan fod y rheiny sy'n anweithgar yn economaidd yn ffynhonnell sylweddol o gyflenwad llafur sy'n elfen hanfodol o farchnad lafur sy'n gweithredu'n dda. Mae hyn hefyd yn peri pryder o ystyried y gall bod yn anweithgar am gyfnod hir effeithio'n negyddol ar lesiant, iechyd a boddhad bywyd unigolyn.
  • Un rhwystr i gyflogaeth i lawer yw diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae hyn yn berthnasol i'r rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl a'r rheiny sy'n dymuno ailsgilio neu uwchsgilio i wella eu hunain a cheisio gwaith ar lefel uwch neu waith arall. Mae hwn yn fater perthnasol i Sir Gaerfyrddin, gan fod gan y Sir nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl heb unrhyw gymwysterau a chyfran is na'r cyfartaledd o bobl â chymwysterau lefel uwch.
  • Mae ardaloedd o'r Sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, llifogydd yn enwedig. Mae ychydig dros 15,000 o eiddo yn y Sir ar hyn o bryd ar ryw lefel o berygl llifogydd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu nifer yr eiddo, y seilwaith a'r gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd. Bydd mannau nad ydynt yn cael llifogydd ar hyn o bryd yn wynebu perygl o lifogydd a bydd y rheiny y gwyddom eu bod eisoes mewn perygl yn gweld lefel y risg honno'n cynyddu.
  • Mae'r Sir yn parhau i fod yn gadarnle strategol allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg a chydnabyddir manteision cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd yn eang. Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy'r arolwg trigolion yn dangos bod yr ymatebwyr at ei gilydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a'i gwarchod.
  • Mae cludiant a phriffyrdd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal ein cymunedau, mae'n darparu'r seilwaith hanfodol sy'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn dod â chymunedau ynghyd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu.

CANLYNIAD: Cefnogi busnesau a darparu cyflogaeth.

CYNNYDD: Cefnogwyd 1,237 o fusnesau a chrëwyd 1,350 o swyddi uniongyrchol trwy gyfrwng Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin, y Gronfa Datblygu Eiddo, Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn, Neuadd y Farchnad Llandeilo, Cronfa Datblygu Adfywio Rhydaman, CRF - Trefi a Thwf, Gweithgarwch Adfywio Tref Caerfyrddin, Gweithgarwch Adfywio Tref Rhydaman, Canolfan Parry Thomas, C4W+/C4w+ YPG, y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol, Gweithffyrdd/STU, CRF - Iaith Gwaith, BREF, Trawsnewid Trefi, Caffael Blaengar, Twf Busnes a Busnesau Newydd, Ymgysylltu â Busnesau wedi'i dargedu, CRF Busnes Llanelli


CANLYNIAD: Caiff pobl eu cynorthwyo i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael gwaith ystyrlon.

CYNNYDD: Cafodd 14 o unigolion eu cynorthwyo i sefydlu busnes newydd o dan y gronfa Dechrau Busnes ac mae 619 o unigolion wedi cael eu helpu i gael gwaith drwy C4W+ C4W YPG, Gweithffyrdd/STU a gweithgarwch cysylltiedig gyda'r Ganolfan Byd Gwaith.
Trwy'r rhaglenni cyflogadwyedd yn Sir Gaerfyrddin mae 463 o unigolion wedi cael eu cynorthwyo i gael gwaith ystyrlon, gyda Gweithffyrdd+ yn gweithio gyda phobl sy'n wynebu nifer o rwystrau.


CANLYNIAD: Caiff busnesau eu cynorthwyo i fanteisio ar gadwyni cyflenwi lleol a chyfleoedd caffael.

CYNNYDD: Mae 303 o fusnesau wedi cael cefnogaeth o dan y Fenter Caffael Blaengar. Yn ogystal, sicrhawyd cyllid o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i gyflawni prosiect ymgysylltu â busnesau i hyrwyddo dull Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf i annog gwariant o fewn Sir Gaerfyrddin gan ddatblygu rhyng-fasnachu – gan gysylltu busnesau â'i gilydd i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol. Menter gaffael flaengar yn Sir Gaerfyrddin i gynyddu gwariant lleol.
Fel rhan o waith ymgysylltu caffael gyda chyflenwyr ar gyfer ein gweithgarwch tendro yn 2022-23:
• Cafwyd cyfarfodydd un-i-un gyda 28 o gyflenwyr;
• Cynhaliwyd 4 Digwyddiad Ymgysylltu â'r Farchnad Gynnar gyda 151 yn bresennol;
• Cynhaliwyd 6 Gweithdy/Gweminar Tendro Byw gyda 125 yn bresennol;
• 9 Sesiwn Briffio Tendro gyda 434 yn bresennol;
• 2 Ddigwyddiad Bod yn Barod i Dendro, 67 yn bresennol;
• 3 Digwyddiad Consortia / Gwneud Cynnig ar y Cyd, 101 yn bresennol.


CANLYNIAD: Mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i fyw bywydau egnïol ac iach drwy gael mynediad at wasanaethau a darpariaeth sy'n addas i'r diben

CYNNYDD: Rydym wedi ailsefydlu hyder y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymarfer corff, gyda phresenoldeb yn dychwelyd i'r lefelau fel yr oeddent cyn y pandemig (dros 100,000 fesul mis calendr) erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys dangos safonau iechyd a diogelwch rhagorol trwy ennill gwobr 'Tlws Hamdden' rhyngwladol RoSPA.
Defnyddiwyd dros £300k o gyllid allanol ychwanegol i gynyddu ac ehangu'r rhaglenni gweithgarwch sydd ar gael, o wersi nofio am ddim i blant sy'n byw mewn amddifadedd a 61,000 o gyfranogiadau yn ein rhaglen ysgolion 'soffa i 2km', i etifeddiaeth Actif i bobl ifanc, i chwaraeon cerdded a gweithgarwch cyn-diabetes i oedolion, i 'cyrlio a phaned' i oedolion hŷn, i Beat the Street ar gyfer cymuned gyfan Llanelli a oedd yn cynnwys bron i 7,000 o boblogaeth y dref a deithiodd dros 43,000 o filltiroedd dros 6 wythnos a chreu newid sylweddol yn lefelau gweithgarwch pobl.
Gwnaed gwelliannau penodol i'r ardaloedd croeso yng Nghanolfannau Hamdden Caerfyrddin a Dyffryn Aman, gan ddigideiddio mynediad ymhellach i alluogi'r staff gwasanaethau cwsmeriaid i wella eu cyswllt â chwsmeriaid. Aeth y gwaith o ddigideiddio ar draws Chwaraeon a Hamdden Actif hefyd yn ei flaen o ran defnydd a phoblogrwydd yr Ap Actif, gan ddyblu nifer lawrlwythiadau'r Ap o gymharu â 2021-22 (lawrlwythwyd gan 46,000 o bobl) gyda chyfartaledd o 230,000 o ddefnyddiau modiwl / 28,000 o drafodion y mis (70% o'r holl drafodion).
Cyrhaeddiad cyfartalog ar draws pob platfform digidol (y we/cyfryngau cymdeithasol/ap) o 406,000 y mis.
Gwella cynaliadwyedd/teithio llesol drwy osod a gweithredu mannau parcio a gwefru ceir ac e-feiciau mewn gwahanol ganolfannau hamdden a mynd â gweithgareddau i gymunedau drwy gyfrwng ein fan Actif a sefydlu rhaglenni gweithgareddau mewn 3 neuadd gymunedol yng Nghwmaman, Cydweli a Hendy-gwyn ar Daf.
Gosodwyd wyneb newydd ar gae astrotyrff Canolfan Hamdden Dyffryn Aman/Ysgol Dyffryn Aman, gyda gwaith ar gae 3G newydd sbon a gosodiad trac synthetig i gychwyn yn fuan.


CANLYNIAD: Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd y targedau ailgylchu cenedlaethol

CYNNYDD: Eleni rydym wedi rhagori ar y targed statudol, gyda pherfformiad o 65.25% sy'n cael ei wirio gan CNC ar hyn o bryd cyn i gyfraddau ailgylchu swyddogol gael eu rhyddhau ar gyfer 2022/2023 yn genedlaethol. Yn dilyn y newidiadau, mae'r perfformiad ailgylchu yn Ch4 wedi gwella'n sylweddol o gymharu â'r llynedd o Ch4 2022 - 60.03% i Ch4 2023 - 67.69%.


CANLYNIAD: Parhau i weithio tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030.

CYNNYDD: Mae'r Cyngor yn dangos ymrwymiad sefydliadol cryf i leihau carbon a hwn oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu sero net ac mae wedi adrodd yn flynyddol yng nghyswllt y cynllun. Yn absenoldeb canllawiau ar fodel cost nid yw'r cynllun na'r diweddariadau blynyddol wedi nodi cyfanswm cost y cynllun i gyflawni amcan sero net y Cyngor. Yn 2023 datblygodd y Cyngor fethodoleg ar gyfer amcangyfrif y gost o gyrraedd targed sero net y Cyngor erbyn 2030. Mae angen mireinio'r model ymhellach i ddarparu dull cyson ar draws awdurdodau lleol Cymru. Mae'r awdurdod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am arweiniad wrth weithio gyda phartneriaid yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe i ddatblygu'r model.


CANLYNIAD: Ceisio sicrhau bod mwy o leoliadau addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar ar gael ledled y sir a'u bod yn fwy fforddiadwy, i fynd i'r afael ag un o'r rhwystrau cyffredin sy'n wynebu unigolion sydd am ddychwelyd i weithio neu ddod o hyd i waith.

CYNNYDD: ⇑ Cynnig Gofal Plant 30 awr y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol - mae gwaith hyrwyddo a chefnogi wedi parhau i sicrhau bod rhieni a darparwyr gofal plant cymwys yn gyfarwydd â'r broses. Derbyniwyd a phroseswyd 522 o geisiadau rhieni rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2023 ac mae 149 o ddarparwyr gofal plant wedi cwblhau eu cofrestriad ar-lein. Talwyd ychydig o dan £1.7M i ddarparwyr gofal plant lleol yn Sir Gaerfyrddin i blant cymwys yn ystod y flwyddyn (1 Ebrill 2022 – 28 Chwefror 2023).

Nid oedd ein Hasesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant diweddaraf ar gyfer 2022-27, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2022, yn nodi unrhyw bwysau digonolrwydd meintiol nac ansoddol ar gyfer lleoedd i blant 3 oed a ariennir gan Dysgu Sylfaen mewn lleoliadau Gofal Plant cymeradwy ledled Sir Gaerfyrddin. Dywedodd nifer o Ddarparwyr Gofal Plant cymeradwy fod ganddynt leoedd gwag yn hydref 2021 a fyddai'n awgrymu bod gennym leoedd gwag mewn rhai lleoliadau ledled Sir Gaerfyrddin.


CANLYNIAD: Ceisio gwella mynediad at wasanaethau trwy well rhwydweithiau trafnidiaeth a seilwaith.

CYNNYDD: Mae'r dyhead am newid dulliau teithio wedi dylanwadu ar ein buddsoddiad mewn seilwaith, yn enwedig o amgylch ein prif ganolfannau poblogaeth lle rydym wedi adeiladu seilwaith newydd i gefnogi dulliau teithio mwy cynaliadwy


CANLYNIAD: Gwella datblygiadau presennol ac archwilio datblygiadau newydd i gyfyngu ar effeithiau llifogydd a bygythiadau amgylcheddol eraill sy’n effeithio ar ein trigolion a defnyddwyr gwasanaeth.

CYNNYDD: Rydym wedi cyflawni 12 cynllun o fewn ein rhaglen gwaith cyfalaf, amcangyfrifir bod 4 o'r cynlluniau hyn yn lleihau llifogydd i 112 o eiddo preswyl ac 13 o eiddo busnes.
Rydym yn defnyddio telemetreg yn rhai o'n hasedau, sy'n rhoi data byw i ni ar lefelau afonydd mewn ardal risg uchel. Y gobaith yw y bydd hyn yn llywio ein hymateb gweithredol yn well, gan ein galluogi i dargedu'r ardaloedd sy'n wynebu'r risg mwyaf.
Rydym wrthi'n datblygu ein Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd 2024-2030 a fydd yn nodi ein blaenoriaethau FCERM# dros y 7 mlynedd nesaf.
#Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cenedlaethol


CANLYNIAD: Cynnal cyfraddau troseddu isel a pharhau i weithio’n effeithiol mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r cyfraddau cynyddol sy’n amlwg mewn rhai ardaloedd o’r sir.

CYNNYDD: ⇔ Cynhaliwyd cyfraddau troseddau isel trwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth. Bu cynnydd bychan yn nifer y troseddau a adroddwyd yn 2022/23 - 16,381 - sydd 3% (497) yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae'r sir yn parhau i fod yn un o’r ardaloedd mwyaf diogel yn y DU a Dyfed-Powys yw’r ardal Heddlu sydd â’r cyfraddau troseddu isaf yng Nghymru a Lloegr.


CANLYNIAD: Cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

CYNNYDD: Mae data'r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyfateb i 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng 5,210 ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011, sy'n cyfateb i ostyngiad pwynt canran o 4.0. Dyma'r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.


CANLYNIAD: Mwy o hyder a defnydd o’r Gymraeg fel iaith lewyrchus.

CYNNYDD: Mae nifer y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y sir wedi gostwng 1.9 pwynt canran neu 1,828 o bobl. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol is na'r ffigurau ar gyfer y rheiny sydd ond yn gallu siarad Cymraeg.

Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:

  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3a: Adferiad a Thwf Economaidd
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3b: Datgarboneiddio a'r Argyfwng Natur
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3c: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3d: Diogelwch Cymunedol, Cydnerthedd a Chydlyniant
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3e: Hamdden a Thwristiaeth
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3f: Gwastraff
  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 3g: Priffyrdd a Thrafnidiaeth

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae cryfder ein heconomi leol yn ganolog i lesiant ehangach ein cymunedau ac yn y dyfodol byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion adfywio ar ddatblygu ein busnesau, ein pobl a'n lleoedd. Yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol byddwn yn galluogi Sir Gaerfyrddin i fod yn fwy cynhyrchiol wrth fod yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd ac yn iachach a chefnogi cydnerthedd a thwf busnesau a chymunedau.

Mae darparu swyddi diogel gyda chyflog da yn ganolog i bopeth yr ydym yn ceisio'i gyflawni.

Mae cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i drechu tlodi a chostau byw a lleihau anghyfartaledd ac mae'n cael effaith sylweddol ar ein hiechyd a'n gallu i fyw mewn cymdeithas.

Mae angen i ni greu economi hynod wybodus a chreadigol trwy fwyhau lleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl leol, a hynny drwy greu swyddi a darparu prentisiaethau o safon, cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith, i sicrhau bod y gweithlu bob amser yn gymwys ac yn meddu ar y sgiliau priodol er mwyn wynebu'r dyfodol.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Mae arwyddion cadarnhaol yn dod i'r amlwg o'r economi leol, ond mae rhai heriau'n parhau.

Gan adeiladu ar y Cynllun Adferiad Economaidd (ERP), rydym wedi sicrhau ac yn gwireddu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y gronfa £38.68m yn helpu i gyflawni rhai o amcanion strategol allweddol Sir Gaerfyrddin. Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn darparu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol, yn cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol yn ogystal â chefnogi adferiad canol ein trefi ac mae'n gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf y gellir ei ddefnyddio i gefnogi ystod eang o ymyriadau i feithrin balchder bro a gwella cyfleoedd bywyd. Rydym hefyd wedi lansio ail gam y Rhaglen ARFOR gwerth £11 miliwn, sy'n ceisio sicrhau hwb economaidd a chryfhau'r Gymraeg ar draws siroedd Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn.

Yn ogystal, mae cynlluniau cyfalaf adfywio sylweddol wedi'u cyflawni, yn fwyaf nodedig y gwaith o ailddatblygu Neuadd y Farchnad, Llandeilo a Phrosiect Denu Twristiaid Pentywyn. Mae'r ddau brosiect yn dangos uchelgais yr Awdurdod i fuddsoddi mewn seilwaith a fydd yn ysgogi ac yn cefnogi'r economi leol.

Er ei fod yn gadarnhaol, mae'r Sir yn parhau i wynebu heriau:

  • Yn gadarnhaol, mae'r cyfraddau diweithdra yn gostwng, ac mae'r cyfraddau cyflogaeth yn cynyddu. Fodd bynnag, mae'r Sir yn dal i arddangos lefel uwch na'r cyfartaledd o bobl (16-64 oed) sy'n economaidd anweithgar. Gall hyn gyfyngu ar gyflenwad llafur a llesteirio twf economaidd.
  • Mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ar ei hôl hi o gymharu â'r cyfartaleddau cenedlaethol o ran y gyfran sy'n gymwys i lefel 4 neu uwch. Mae datblygu sgiliau a chymwysterau yn gwella cyflogadwyedd a rhagolygon gyrfa ac yn creu marchnad lafur fedrus a galluog iawn.
  • Mae'n parhau i arddangos bwlch cynhyrchiant sylweddol a pharhaus gyda gweddill y DU.
    ! Dibyniaeth ar ficrofusnesau a busnesau bach, ynghyd â chyflogaeth gymharol uchel yn y sector cyhoeddus a all wneud yr economi yn fwy agored i fygythiadau.
  • Mae'r argyfwng costau byw sy'n cael ei yrru gan y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant a phrisiau ynni yn cael effaith ar fusnesau. Felly, mae grantiau cymorth busnes drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael eu cyflwyno i gynorthwyo busnesau ac ysgogi twf.

Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 83-99- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Mae'r Amgylchedd Naturiol yn elfen greiddiol o ddatblygu cynaliadwy. Mae'r Cyngor eisoes wedi datgan ei ymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a bydd yn parhau ar ei ffordd tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030 a mynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi adferiad natur.
  • Llwybr tuag at ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero-net erbyn 2030
  • Mae amgylchedd naturiol bioamrywiol, gydag ecosystemau iach, yn helpu gwytnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol. Amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin yw'r adnodd naturiol y mae rhan helaeth o'n heconomi wedi ei seilio arni – twristiaeth, ffermio, coedwigaeth, ac ynni adnewyddadwy. Mae'n ffactor o bwys sy'n denu pobl, ifanc a hŷn, i fyw, gweithio ac ymweld â'n sir, gan ddod â buddsoddiad o'r tu allan gyda hwy.
  • Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn hanfodol yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd a gwasanaethau ecosystem allweddol megis bwyd, rheoli llifogydd, llygredd, dŵr ac aer glân.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Mae gennym heriau Amgylcheddol sylweddol i fynd i'r afael â hwy
Mae gennym ymrwymiad sefydliadol cryf i leihau carbon a ni oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd, cyhoeddi cynllun gweithredu ac adrodd yn flynyddol yn erbyn cynnydd a wnaed o fewn y cynllun. Ers 2016/17 i 2021/22 rydym wedi lleihau ein hallyriadau carbon bron i draean (-31.7%) (-8,418 tCO2e).

Mae hyn yn gynnydd cryf yn y llwybr tuag at gyflawni ein hymrwymiad i uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus Cymru sero net erbyn 2030 | Ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau Cymru sero net erbyn 2050. Rydym hefyd wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i gyflawni rhwymedigaeth ehangach y sector cyhoeddus i fod yn sero net erbyn 2050 ac mae ein cynnydd o ran sicrhau gostyngiadau sylweddol hyd yma yn ein hallyriadau ein hunain yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni'r rhwymedigaeth ehangach honno.

Rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda llywodraeth genedlaethol, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy Banel Strategaeth Newid Hinsawdd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er enghraifft, ac i arwain llif gwaith masnachol a diwydiannol y cynlluniau gweithredu ynni rhanbarthol a lleol. Er bod cynnydd cynnar sylweddol wedi'i wneud, mae gwaith arloesol i ddatblygu llwybrau carbon wedi'i ddatblygu eleni a fydd yn ein cynorthwyo i dargedu gweithgarwch i gyflawni'r arbedion carbon gweddilliol mwy heriol o tua 60%. Yn 2022, daethom yn un o ychydig o awdurdodau i ddatgan argyfwng natur a chynnull panel ymgynghorol trawsbleidiol ar newid hinsawdd a natur (CCNEAP) gan gydnabod y berthynas agos rhwng y ddau faes gwaith. Mae gwaith i gyflawni camau gweithredu ac adrodd ar gyflawni cynllun Deddf yr Amgylchedd yn mynd rhagddo'n dda, o'r 38 o gamau gweithredu, mae 26 yn mynd rhagddynt yn dda, ac mae 12 wedi'u cwblhau ac rydym yn symud i adolygu cynnwys y cynllun gyda chyngor y CCNEP, i adlewyrchu datganiad yr argyfwng natur.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth i lawer o gymunedau gyda'n gwaith o ddadansoddi perygl llifogydd a datblygiadau achosion busnes, mae gennym ddealltwriaeth well o risgiau mewn llawer o gymunedau. Mae'n rhaid i bob datblygiad newydd gael system ddraenio gynaliadwy sy'n rheoli llifogydd ar gyfer datblygiadau newydd a'r gymuned gyfagos.


Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 100-112- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae Sir Gaerfyrddin yn gadarnle ar gyfer y Gymraeg ac ystyrir bod y sir o bwysigrwydd strategol mawr i ddyfodol yr iaith. Mae dwyieithrwydd o fudd i'r economi ac i unigolion drwy fuddion gwybyddol a chymdeithasol. Byddwn yn gweithio tuag at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a chefnogi'r defnydd rheolaidd o'r iaith ar draws pob agwedd ar ein bywydau bob dydd.
  • Mae cymryd rhan mewn gweithgarwch diwylliannol yn cael effaith gadarnhaol amlwg ar ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda. Rydym am i genedlaethau'r dyfodol gael eu trochi mewn Diwylliant Sir Gâr sy'n gryf, yn ddiddorol ac yn gwbl unigryw, ac sy'n adlewyrchu ein gorffennol ac yn llunio ein dyfodol.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2022 yn dangos gostyngiad pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, i lawr i 39.9% o'r boblogaeth, sy'n cyfateb i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Fodd bynnag, mae Fforwm Strategaeth Gymraeg y Sir yn datblygu dulliau cydweithredu rhagorol ac wedi cydweithio i gynhyrchu Strategaeth Hybu'r Iaith Gymraeg newydd ar y cyd. Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu ei ethos a'i ddiwylliant o ran y defnydd o'r Gymraeg o fewn y sefydliad a bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf.


Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 113-119 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae diogelwch a theimlad o berthyn yn bwysig o safbwynt llesiant personol.
  • Mae mwy o bobl bellach yn gwerthfawrogi gwerth caredigrwydd a bod yn rhan o gymuned. Mae cefnogi cymunedau cydlynus a sicrhau bod pobl o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo'n ddiogel yn eu cymdogaeth, ac yn parchu ei gilydd ac yn rhannu'r un gwerthoedd yn ganolog i gael cymunedau gweithgar a ffyniannus.
  • Mae Cydnerthedd Cymunedol hefyd yn hanfodol er mwyn galluogi cymunedau i ymateb i sefyllfaoedd andwyol, eu gwrthsefyll a'u hadfer. Pan fydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ei gilydd, mae'n meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn sy'n allweddol ar gyfer llesiant cymdeithasol.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Er gwaethaf cynnydd bach mewn cyfraddau troseddu, mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn un o'r lleoedd mwyaf diogel yn y DU.
Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau eraill yn parhau i fod yn gryf ac mae'n parhau i ddatblygu wrth i faterion newydd godi.


Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 120-125 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Chwaraeon a hamdden, diwylliant a hamdden awyr agored yw curiad calon ein cymunedau. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu amrywiaeth o weithgareddau, cyfleusterau a rhaglenni iechyd a llesiant er mwyn cefnogi ein trigolion a'n cymunedau i fyw bywydau iach, diogel a llewyrchus.
  • Mewn ffordd debyg mae hyrwyddo ein Sir fel lle deniadol a hyfyw yn fasnachol i ymweld â hi a buddsoddi ynddi yn ffactor allweddol o safbwynt economaidd a llesiant.
  • Byddwn yn parhau i ddatblygu'r gwasanaethau hyn mewn ymateb i anghenion ein trigolion, ein busnesau a'n hymwelwyr.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Mae presenoldeb mewn cyfleusterau hamdden bron yn ôl i'r lefelau fel yr oeddent cyn Covid

Mae presenoldeb wedi gwella drwy gydol y flwyddyn wrth i fwy o bobl gymryd rhan mewn cyfleoedd gweithgarwch corfforol ar draws y sir, gyda'r ffigurau bron yn ôl i'r lefelau fel yr oeddent cyn Covid. Ein prif heriau dros y 12 mis diwethaf fu rheoli cyfranogiad ar ôl y pandemig ac adfer incwm, ynghyd â'r argyfyngau costau byw a phrisiau ynni.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 126-129 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd symud tuag at economi wirioneddol gylchol, lle caiff gwastraff ei ddileu, a lle caiff adnoddau eu defnyddio cyhyd ag y bo modd.

Yn ogystal â bod yn dda i'r amgylchedd, gallai economi gwbl gylchol greu swyddi.

Yn ein sir mae mwy o bobl yn ailgylchu bob dydd.
Os yw eitemau ailgylchadwy yn mynd i safleoedd tirlenwi, caiff eu gwerth ei golli am byth.

Mae ailgylchu hefyd yn lleihau'r angen am gloddio, puro a phrosesu deunyddiau crai (trwy fwyngloddio, chwarela a thorri coed) sydd oll yn creu llygredd aer a dŵr sylweddol.

Mae hyn yn helpu i arbed ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Er bod deunyddiau wedi'u hailgylchu yn nwyddau gwerthfawr yn y farchnad fyd-eang ac yn bwysig yn ariannol, mae ailgylchu'n dda i'r amgylchedd hefyd. Mae'n gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau naturiol cyfyngedig. Mae angen i ni gofio y bydd y modd yr ydym yn gweithredu nawr yn cael effaith ar genedlaethau'r dyfodol. 

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Newid Dull Ailgylchu yn arwain at Well Perfformiad

Rydym yn gwneud casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu o dŷ i dŷ i 91,000 o aelwydydd gyda dros 8.5m o ryngweithiadau bob blwyddyn. Yn ystod y flwyddyn hon gwnaethom newidiadau sylweddol i'n gwasanaethau gwastraff, gan symud tuag at gasgliadau bwyd a deunydd ailgylchu sych wythnosol, lleihau amlder ein casgliadau gwastraff gweddilliol a chyflwyno casgliadau gwydr ac ailgylchu cewynnau newydd ar wahân o dŷ i dŷ. Mae unrhyw newid yn y gwasanaethau gwastraff a ddarperir yn anodd ac yn dod â'i heriau ei hun; fodd bynnag, mae llwyddiant strategol y newid gwasanaeth wedi arwain at welliant sylweddol yn ein perfformiad ailgylchu, ac rydym wedi rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru gyda pherfformiad o 65.25%.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 130-134 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Ni fu rôl y system Trafnidiaeth a Phriffyrdd erioed yn bwysicach na heddiw pan fydd cymdeithas yn parhau i adfer yn sgil digwyddiadau byd-eang ac yn mynd i'r afael â heriau allweddol datgarboneiddio, anghydraddoldeb, datblygu tai a chymunedau cynaliadwy, addysg, iechyd, llesiant a'r economi leol.
  • Mae ein rhwydweithiau priffyrdd a thrafnidiaeth yn sail i ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin, gan hwyluso mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a dysgu, cysylltiadau cymdeithasol, iechyd, hamdden, teithio llesol a darparu gwasanaethau sy'n cyffwrdd â phob cartref bob dydd. Mae cysylltedd a hygyrchedd yn ganolog i hwyluso llesiant economaidd a chymdeithasol a byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella ein seilwaith lleol er mwyn cefnogi ein cymunedau.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Darparu gwasanaethau a phrosiectau allweddol drwy heriau strategol

Mae'r dyhead am newid dulliau teithio yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru wedi dylanwadu ar ein buddsoddiad mewn seilwaith, yn enwedig o amgylch ein prif ganolfannau poblogaeth lle rydym wedi adeiladu seilwaith newydd i gefnogi dulliau teithio mwy cynaliadwy. Mae'r Is-adran wedi parhau i weithio trwy'r heriau strategol y dylanwadwyd arnynt gan ddylanwadau macro sy'n cynnwys yr economi, gan arwain at ostyngiadau mewn incwm, cyllid refeniw a chyfalaf, datblygu'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynllunio trafnidiaeth, newidiadau i'r terfyn cyflymder diofyn ym mis Medi 2023, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a newid yn yr hinsawdd. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn rhagweithiol wrth gyflawni newid; fodd bynnag, mae'r gostyngiad cyson mewn lefelau adnoddau, disgwyliadau cynyddol gan y cyhoedd, pwysau'r gadwyn gyflenwi a dirywiad yng nghyflwr asedau yn arwain at amgylchedd gweithredu anodd i wasanaethau.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 135-138 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?