Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Amcan Llesiant 2

Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)

Dyfarniad Cyffredinol

Credir bod ychydig dros draean o aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, sefyllfa a fydd yn debygol o waethygu oherwydd yr argyfwng costau byw. Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wedi datblygu dull cryfach a mwy integredig o gefnogi trigolion.

Yn dilyn y pandemig, rydym wedi gweld mwy o alw am yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol, a wnaed yn fwy heriol oherwydd cymhlethdod cynyddol achosion; fodd bynnag, rydym wedi parhau i arloesi, datblygu a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Rydym hefyd yn glir ynghylch blaenoriaethau a gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol.

Rydym wedi darparu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ers 2019/20 i gydnabod bod y cyflenwad ychwanegol o gartrefi yn ein cymunedau gwledig a threfol yn allweddol i alluogi cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.

Pam y mae hyn yn bwysig?

Rydym am alluogi ein trigolion i fyw ac heneiddio'n dda a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni:

  • Fynd i'r afael â thlodi a lleihau ei effaith niweidiol.
  • Helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth gartref cyhyd ag y bo modd.
  • Sicrhau tai fforddiadwy o ansawdd da.

CANLYNIAD: Cymorth a chefnogaeth i liniaru effeithiau’r argyfyngau ‘costau byw’ a thlodi yn y Sir.

CYNNYDD: Mae gwaith trawsadrannol i fynd i'r afael â'r argyfwng Costau Byw wedi datblygu dull cryfach a mwy integredig o fewn y Cyngor ac mae wedi cydgrynhoi a nodi'n well yr hyn yr ydym yn ei wneud, y gallwn ei wneud ac sydd angen i ni ei wneud.
Ar lefel aelwydydd mae'r data paycheck diweddaraf sydd ar gael yn awgrymu bod 34.5% o'r holl aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, mae hyn yn cyfateb i tua 28,730 o aelwydydd. Mae hyn yn ostyngiad bach o 1.1% ers y llynedd sy'n adlewyrchu tueddiadau a welwyd yn genedlaethol


CANLYNIAD: Gwasanaethau integredig di-dor rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

CYNNYDD: ⇑ Rydym yn parhau i gael gwasanaeth integredig rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer pobl hŷn a phobl ag anableddau corfforol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi ailedrych ar ein strwythur rheoli integredig i sicrhau y gall ein gwasanaethau fod o fudd i holl drigolion Sir Gaerfyrddin yn gyfartal, ble bynnag y maent yn byw.

Rydym wedi parhau i ddatblygu ein dull Gartref yn Gyntaf i helpu'r rheiny sydd yn yr ysbyty i fynd adref yn gyflymach a chefnogi'r rheiny sydd mewn argyfwng yn y gymuned i'w hatal rhag mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf. Bellach mae gennym dîm amlddisgyblaethol sy'n gweithio o'n swyddfeydd ym Mhorth y Dwyrain sy'n cynnwys ystod o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector i gefnogi'r rheiny sy'n gadael yr ysbyty a'r rheiny sydd mewn argyfwng yn y gymuned. Mae'r tîm hwn yn cynnwys Ymarferydd Parafeddyg Uwch a all gynorthwyo gyda dargyfeirio ambiwlansys o'r Adran Achosion Brys a Llesiant Delta (ein cwmni hyd braich sy'n eiddo i'n cyngor), sy'n gallu darparu cymorth tymor byr i'r rheiny sydd mewn argyfwng trwy eu gwasanaeth ymateb cyflym. Mae Llesiant Delta bellach yn cefnogi miloedd o bobl oedrannus trwy gyfrwng cymorth digidol rhagweithiol yn eu cartrefi eu hunain.

Er mwyn cefnogi'r dull hwn, rydym wedi datblygu ymhellach ein huned 14 gwely, Tŷ Pili-Pala, sydd ynghlwm wrth gartref gofal Llys y Bryn, lle gall cleifion sy'n gadael yr ysbyty elwa o gyfnod o asesu ac adsefydlu. Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn hynod lwyddiannus, gyda 70% o bobl yn gadael y gwasanaeth heb fod angen gofal ffurfiol parhaus. Rydym hefyd wedi lansio ein gwasanaeth gofal cartref ailalluogi integredig, i ddarparu gofal tymor byr i'r rheiny sy'n gadael yr ysbyty, ac nid oes gan 90% o'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwn unrhyw ofynion gofal hirdymor wrth adael y gwasanaeth.

Mae ein dull cyffredinol wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion yn yr ysbyty sy'n aros am ofal. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd yn wyneb yr holl heriau'n ymwneud â sicrhau gofal a chymorth gartref yn sgil y materion recriwtio a chadw parhaus yn y sector gofal. Mae'r dull hwn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion yn yr ysbyty sy'n aros am ofal.


CANLYNIAD: Gwasanaethau, cynhwysol a chynaliadwy sy’n hyrwyddo a hwyluso dysgu, diwylliant, treftadaeth, gwybodaeth, llesiant a hamdden.

CYNNYDD: ⇑ Rydym yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol o newid yn ein darpariaeth gwasanaethau dydd ar gyfer dysgu. Mae adeiladau bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer y rheiny sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth ac rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ym maes hamdden a'r amgylchedd i gynnig gweithgareddau cymunedol sy'n hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.


CANLYNIAD: Gwell gwasanaethau ataliol i fodloni gofynion poblogaeth sy’n heneiddio.

CYNNYDD: ⇑ Mae Bwrdd Atal amlasiantaeth wedi'i sefydlu sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor, y Bwrdd Iechyd, Iechyd y Cyhoedd a'r Trydydd Sector. Bydd y Bwrdd hwn yn dechrau mapio gwasanaethau ataliol presennol yn y Sir, gyda'r bwriad o nodi bylchau allweddol a chynllun gweithredu ar gyfer datblygu. Rydym hefyd yn y broses o recriwtio Uwch-reolwr Darparu newydd ar gyfer Atal, a fydd yn darparu arweinyddiaeth ar draws asiantaethau i yrru'r cynllun gweithredu hwn yn ei flaen. Rydym wedi sefydlu llwybrau llesiant o fewn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.


CANLYNIAD: Lleihau digartrefedd a gweithio tuag at ddod ag ef i ben.

CYNNYDD: ⇑ Datblygwyd Cynllun Ailgartrefu Cyflym sy'n amlinellu'r weledigaeth ynghylch sut yr ydym yn bwriadu trawsnewid y gwasanaeth digartrefedd.

Mae ffrydiau gwaith fel rhan o'r cynllun Ailgartrefu Cyflym wedi'u sefydlu i edrych ar feysydd allweddol sy'n cynnwys:
• Y Polisi Dyrannu
• Adolygu a Datblygu cymorth sy'n gysylltiedig â thai
• Llety dros dro
• Datblygu llety sefydlog

Rydym wedi gwella'r gwaith o atal digartrefedd trwy:
• Ddatblygu'r Tîm Hwb Tai
• Adolygu a Datblygu'r Polisi Dyraniadau Brys
• Defnyddio'r Gronfa Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai

Mae'r tîm Cyn-denantiaeth wedi:
• Darparu mwy o gymorth i denantiaid newydd drwy wneud y mwyaf o'u budd-daliadau/incwm i'w helpu i gynnal eu tenantiaeth.
• Ehangu'r cymorth sydd ar gael i denantiaid yn y sector rhentu preifat.
• Ailgyflwyno pecynnau hyfforddi i bobl ifanc i'w helpu i gynnal eu tenantiaethau.
• Treialu rhaglen hyfforddi gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o ymrwymiad yr hawliwr.


CANLYNIAD: Argaeledd tai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon yn y Sir.

CYNNYDD: ⇑ Mae'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai yn cadarnhau ein hymrwymiad a'n dull o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy o ansawdd da ac ynni-effeithlon ledled y Sir. Yn 2022/23 gwnaethom ddarparu 323 o dai fforddiadwy ychwanegol (a oedd dros 100 o dai yn uwch na'n targed), gan ddefnyddio ystod o atebion gan gynnwys:
• adeiladu tai Cyngor newydd
• ailddefnyddio tai gwag
• cynyddu ein stoc dai drwy brynu cartrefi sector preifat ar y farchnad agored
• gweithio gyda'n partneriaid Cymdeithasau Tai a'u cefnogi i adeiladu mwy o dai yn y Sir
• rheoli tai preifat yn fewnol drwy ein Hasiantaeth Gosod Syml
• darparu tai fforddiadwy i'w perchnogi ar gost isel drwy'r system gynllunio
Ers dechrau ein rhaglen tai fforddiadwy, rydym bellach wedi darparu 1,760 o dai ychwanegol, gan greu cartrefi a chymunedau i bobl leol


CANLYNIAD: Adnabod a cheisio cyfyngu ar y rhwystrau anghymesur y mae grwpiau ymylol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau a chymorth sy’n caniatáu iddynt fyw a heneiddio’n dda.

CYNNYDD: ⇑ Datblygwyd y dull Cymunedau sy'n Ystyriol o Bobl Hŷn gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2007, mewn ymgynghoriad â phobl hŷn ledled y byd. Mae wedi'i adeiladu ar y dystiolaeth o'r hyn sydd o gymorth i heneiddio'n iach ac yn egnïol mewn lle ac mae'n cynorthwyo trigolion hŷn i lunio'r lle y maent yn byw ynddo.

Drwy ddilyn y dull hwn, bydd grwpiau lleol, arweinwyr, cynghorau, busnesau a thrigolion hŷn i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i nodi a gwneud newidiadau yn yr amgylcheddau ffisegol a chymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gwella trafnidiaeth, mannau awyr agored, gwirfoddoli a chyflogaeth, hamdden a gwasanaethau cymunedol.

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn dod yn aelodau o'r rhaglen Cymunedau sy'n Ystyriol o Bobl Hŷn.
• Yn ystod 2022/23 rydym wedi cynnal ymarfer mapio manwl gan ystyried cwmpas y rhaglen a bydd y dystiolaeth hon yn sail i'n cynlluniau gweithredu yn y dyfodol.
Wrth gydnabod y gallai rhai grwpiau o bobl wynebu anawsterau wrth geisio cael gafael ar wasanaethau a chymorth, rydym wedi rhoi nifer o bethau ar waith i liniaru hyn. Mae rhai enghreifftiau fel a ganlyn:
• Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o gynllun eiriolaeth annibynnol rhanbarthol sy'n cynorthwyo pobl i gael mynediad at wasanaethau, ac fel rhan o'u cymorth parhaus.
• Darperir gwybodaeth mewn fformat hawdd ei ddarllen ac mewn iaith o'u dewis.
• Gellir trefnu cyfieithu lle bo angen
Ar gyfer unigolion â nam ar eu clyw sydd angen gwasanaethau Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) a monitro larwm, gallwn ddefnyddio negeseuon testun fel modd o gyfathrebu a negeseuon e-bost / ymweliadau cartref i gasglu gwybodaeth angenrheidiol i'n galluogi i osod y gwasanaeth. Mae yna hefyd lawer o ofal TEC ar gael i gefnogi unigolion â nam ar eu golwg a'u clyw


CANLYNIAD: Gwell cyfleoedd i’r holl breswylwyr mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i uwchsgilio ar gyfer cyflogaeth.

CYNNYDD: ⇑ Rydym wedi sefydlu canolfan sgiliau ar gyfer pobl ag anableddau a fydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu achrededig a sgiliau digidol i'w huwchsgilio, fel eu bod yn gallu gwirfoddoli a chael gwaith yn y pen draw.


CANLYNIAD: Cefnogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd lleol boed hynny trwy ddechrau busnes, ennill cymwysterau neu gael cyflogaeth ystyrlon.

CYNNYDD: ⇑ Mae'r Rhaglenni Cyflogadwyedd yn Sir Gaerfyrddin yn cefnogi unigolion sy'n ddi-waith neu sydd wedi colli eu gwaith. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys mentora un i un; hyfforddiant; meithrin hyder; helpu gydag ysgrifennu CV a dod o hyd i gyfleoedd gwaith a gwirfoddoli addas. Mae'r rhaglenni (C4W plus a Workways +) ill dau wedi helpu i ddod o hyd i waith i unigolion o Sir Gaerfyrddin yn ogystal â chynnig hyfforddiant i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:

  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 2a: Trechu Tlodi
  • Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 2b: Tai
  • Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 2c: Gofal Cymdeithasol

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae tlodi ac amddifadedd yn cael effeithiau niweidiol difrifol, gan effeithio ar bob agwedd ar lesiant. Mae'n cyfyngu ar y cyfleoedd a'r gobeithion ar gyfer plant a phobl ifanc ac yn niweidio ansawdd bywyd teuluoedd a chymunedau.

Gall tlodi fod yn rhwystr o ran cyfrannu'n llawn at gymdeithas, ac yn rhy aml o lawer mae'n brofiad sy'n pontio'r cenedlaethau ac sy'n peri bygythiad sylweddol i lesiant cadarnhaol yn awr ac yn y dyfodol.

Gyda phwysau ychwanegol yr argyfwng costau byw, mae angen dull cwbl integredig a chydweithredol o ymateb a chefnogi yn y meysydd y gallwn ddylanwadu arnynt.

Yn ogystal, credir bod 34.6% o blant yn Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, mae hyn yn cyfateb i tua 11,247 o blant. Mae hyn yn uwch na'r lefelau cenedlaethol a dyma'r 12fed lefel uchaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru a'r chweched gyfradd newid uchaf ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf.

I gadarnhau hyn, roedd cyfran fawr o'r ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar yn cytuno fod tlodi yn broblem yn eu hardal hwy. Yn ogystal, roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn tynnu sylw at yr argyfwng costau byw a'r themâu sy'n cyd-fynd â hyn fel un o'r prif heriau sy'n eu hwynebu hwy a'u teuluoedd ar adeg yr arolwg.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Mae 4.5% (28,730) o aelwydydd yn byw mewn tlodi , sy'n ostyngiad bach o 1.1% ers y llynedd.

Tra bod hyn yn wir mae Sir Gaerfyrddin yn dal i arddangos yr 8fed lefel uchaf o'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru ac mae'r lefelau tlodi yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru o 1.1%.
Mae gwaith trawsadrannol i fynd i'r afael â'r argyfwng Costau Byw wedi datblygu dull cryfach a mwy integredig o fewn y Cyngor ac mae wedi cydgrynhoi a nodi'n well yr hyn yr ydym yn ei wneud, y gallwn ei wneud ac sydd angen i ni ei wneud.


Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 53-63 -  pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam mae hyn yn bwysig?

Mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn ogystal â buddsoddiad sylweddol parhaus mewn cartrefi presennolyn hybu iechyd a llesiant, gan ddiwallu anghenion unigol y trigolion ac adeiladu cymunedau a lleoedd cydnerth a chydlynol y mae pobl eisiau byw ynddynt. Bydd gwaith ar gartrefi presennol ac argaeledd darpariaeth newydd ar draws ein cymunedau gwledig a threfol ar draws y Sir yn allweddol i alluogi cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Rydym wedi darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol dros y pedair blynedd diwethaf
Tai fforddiadwy o ansawdd da yw sylfaen cymunedau iach a chynaliadwy. Mae'r gwaith o gyflawni drwy ein cynlluniau a'n Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Tai ac Adfywio a Datblygu yn parhau i ragori ar dargedau.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 64-68- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam mae hyn yn bwysig?

  • Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol ar draws ystod o feysydd grŵp cleientiaid yn debygol o weld cynnydd yn y galw dros y blynyddoedd nesaf, a chyda'r sector yn wynebu pwysau sylweddol o ran capasiti'r gweithlu, mae angen canolbwyntio sylw ac ymateb yn arloesol.
  • Bydd datblygu ffyrdd pellach o gydweithredu ac integreiddio ag iechyd yn hanfodol er mwyn cyflawni'r egwyddorion a'r safonau allweddol sy'n ymwneud ag atal, llif y system, gofal rhagweithiol a gofal wedi'i gynllunio, a gofal hirdymor. Y nod hirdymor yw helpu pobl i gynnal eu hannibyniaeth gartref cyhyd â phosibl, atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chefnogi'r broses o ryddhau pobl i fynd adref o'r ysbyty yn amserol er mwyn sicrhau bod y rheiny sydd angen gofal ysbyty da yn gallu cael hynny.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Yn dilyn y pandemig, rydym wedi gweld mwy o alw am yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol, a wnaed yn fwy heriol oherwydd cymhlethdod cynyddol achosion; fodd bynnag, rydym wedi parhau i arloesi, datblygu a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Rydym hefyd yn glir ynghylch blaenoriaethau a gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 69-73- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?