Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Amcan Llesiant 1

Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)

Dyfarniad Cyffredinol

Rydym yn ceisio cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Byddwn yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod ac yn uchel ein parch yn lleol, yn ogystal ag ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.

Mae'r gwasanaethau plant yn parhau i gyflwyno arferion gwaith (Signs of Safety a dull seiliedig ar berthynas) sy'n ymgysylltu ac yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i helpu i wella canlyniadau i blant. Er mwyn sicrhau hyn, mae uwch-reolwyr yn archwilio asesiadau ac yn tynnu sylw at unrhyw feysydd i'w gwella ac arferion da.

Ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn ehangu fesul cam ar draws y sir. Mae'r ap Dechrau'n Deg wedi bod yn rhan annatod o gyrraedd teuluoedd, gan ddarparu negeseuon allweddol a gwasanaethau cymorth.

Rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau maethu a mabwysiadu i ddiwallu anghenion plant sy'n dod i mewn i ofal ac sydd angen sefydlogrwydd yn gynnar.

Ar hyd a lled y sir roedd rhyw 15,000 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ar eu hennill o fynd i'r mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd y Cynnig Gofal Plant wedi cael ei gyflwyno a'i hyrwyddo'n barhaus. Rydym yn gweithio tuag at fynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn ein pumed Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (2022-27) a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig ac rydym yn parhau i hyrwyddo a datblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y Sir.

Pam y mae hyn yn bwysig?

Mae rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yn ystod cwrs bywyd. Mae'r sylfeini ar gyfer bron pob agwedd ar ddatblygiad dynol – corfforol, deallusol ac emosiynol – yn cael eu gosod yn ystod plentyndod cynnar.

Mae'r hyn sy'n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, gan ddechrau yn y groth, yn cael effaith gydol oes ar sawl agwedd ar iechyd a llesiant - o ordewdra, clefyd y galon ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd.

I gael effaith ar anghydraddoldebau iechyd, mae angen inni fynd i'r afael â graddiant cymdeithasol mewn mynediad plant i brofiadau cynnar cadarnhaol. Mae ymyriadau diweddarach, er eu bod yn bwysig, yn llawer llai effeithiol os nad yw'r plentyn wedi cael sylfeini da ym more ei oes.

Fair Society, Healthy Lives, the Marmot Review, 2010

CANLYNIAD: argaeledd lleoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio’n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.

CYNNYDD: rydym yn parhau i gefnogi ac annog y sector gofal plant a blynyddoedd cynnar i ddatblygu cyfleoedd yn y Gymraeg ac mae darparwyr wedi cael gwybod am bob llwybr lle gall staff gael mynediad at gyrsiau ac adnoddau Cymraeg. Bydd ehangu rhaglen Dechrau'n Deg hefyd yn annog darparwyr newydd sy'n arbenigo mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae'r cynnydd wedi bod yn araf yn sgil y pandemig ac mae costau byw cynyddol yn effeithio ar hyfywedd y sector. Mae'r sector yn parhau i fod dan bwysau cyson i gynnal ei wasanaethau i rieni sy'n gweithio a phrofiadau datblygiad blynyddoedd cynnar i blant. Roedd yna 90 o warchodwyr plant gyda 791 o leoedd gofal plant yn 31/3/23 (sy'n ostyngiad o gymharu â'r un adeg y llynedd sef 102 o warchodwyr plant gyda 781 o lefydd gofal plant).


CANLYNIAD: disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi’n llawn.

CYNNYDD: Mae Sir Gaerfyrddin wedi ehangu capasiti'r gweithlu i fodloni gofynion cyflwyno'r ffyrdd newydd o weithio, yn enwedig i gefnogi darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd. Fodd bynnag, bydd y ddyletswydd i ffafrio darpariaeth brif ffrwd yn golygu y bydd angen twf pellach mewn gwasanaethau canolog i gryfhau ac adeiladu capasiti ym mhob maes a chyfyngu'r gofyniad am dwf mewn darpariaeth lleoliad arbenigol ac ailystyried penderfyniadau ysgolion.


CANLYNIAD: cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy’n agored i niwed.

CYNNYDD: Yn y flwyddyn academaidd bresennol, mae lefelau presenoldeb yn y ddau sector yn uwch na lefel 2021/22, sef o 1.6 pwynt canran mewn ysgolion cynradd a 3.9 pwynt canran mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn dangos bod presenoldeb yn gwella ar y cyfan, gan gynnwys gwelliant cynyddol yn achos dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Ceir amrywiaeth rhwng ysgolion yn y ddau sector, gyda rhai yn gwneud tipyn mwy o gynnydd nag eraill


CANLYNIAD: cwricwlwm cyflawn sy’n codi safonau addysgol.

CYNNYDD: Mae'r gefnogaeth a ddarperir i ysgolion er mwyn datblygu'r cwricwlwm wedi gwella'n sylweddol ers mis Ionawr 2023, gyda'r adran Addysg a Gwasanaethau Plant bellach yn chwarae rhan arweiniol wrth ddylunio a chyflwyno cynnig dysgu proffesiynol y cwricwlwm.
Mae'r gwaith o ymgysylltu ag ysgolion wedi cynyddu'n sylweddol, o 5 ysgol y sesiwn i 55 +. O ganlyniad ceir mwy o gydweithio ynghylch deall y cwricwlwm i Gymru, rhannu arfer effeithiol yn well a chysylltiad cryfach â phrofiadau dysgu dilys.
Gan weithio ochr yn ochr â datblygiadau a busnesau lleol, rydym yn parhau i gyfoethogi ein cynnig dysgu i ysgolion, er enghraifft, echdynnu carbon, ochr yn ochr â Phrifysgol Abertawe neu ganolbwyntio ar ddatblygiad safle Pentre Awel


CANLYNIAD: ysgol maethlon am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.

CYNNYDD: Mae Prydau Ysgol Am Ddim i Bob Disgybl Ysgol Gynradd (UPFSM) yn cael eu cyflwyno ar draws y sir yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae pob disgybl hyd at flwyddyn 2 yn derbyn prydau UPFSM, gyda blwyddyn 3 a 4 yn eu derbyn ym mis Medi 2023 a blynyddoedd 5 a 6 yn eu derbyn ym mis Ebrill 2024


CANLYNIAD: addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg.

CYNNYDD: Mae'r Awdurdod yn nodi'n llwyddiannus y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac yn bodloni'r galw hwn ac mae'r ddarpariaeth ym mhob cam yn adlewyrchu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr Awdurdod (WESP). Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin yn arloesol ac yn uchelgeisiol. Mae'n canolbwyntio'n effeithiol ar sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob dysgwr, o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio'n drylwyr ar sicrhau bod pob ysgol yn gallu symud ar hyd y continwwm iaith, gan ganolbwyntio'n benodol ar fanteision mynediad at ddysgu yn ystod y Cyfnod Sylfaen trwy fethodoleg drochi. O ganlyniad, mae'r cyflenwad a'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ar draws yr awdurdod yn parhau i gynyddu


CANLYNIAD: cyfleoedd i’r holl breswylwyr mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol i uwchsgilio ar gyfer cyflogaeth.

CYNNYDD: Rydym wedi hyfforddi a chefnogi mwy na 330 o bobl drwy wella eu sgiliau digidol (un o feysydd allweddol ymyrraeth wedi'i thargedu), er mwyn iddynt gael gwell gobeithion am waith.


CANLYNIAD: ar gyfer dysgu cymunedol cynaliadwy sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif.

CYNNYDD: Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin flaenoriaethau clir ar gyfer buddsoddi drwy'r Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'r Rhaglen yn fuddsoddiad strategol ac yn gynllun rhesymoli i drawsnewid darpariaeth ysgolion. Caiff ei adolygu'n barhaus i sicrhau bod hyblygrwydd wrth wraidd y cynigion ad-drefnu ysgolion a buddsoddi ynddynt, i adlewyrchu amgylchiadau newidiol mewn cymdeithas sy'n datblygu'n barhaus ac ymateb i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg.


CANLYNIAD: plant gartref gyda’u teuluoedd lle bynnag y bo modd.

Lleihau’r anghydraddoldebau y mae plant o gefndiroedd difreintiedig yn eu hwynebu a allai effeithio ar eu cyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae teuluoedd sy’n wynebu anawsterau yn cael eu cefnogi i ddarparu amgylcheddau cartref sefydlog, diogel i’w plant.

CYNNYDD: ⇔ Mae'r gwasanaethau plant yn darparu ystod o wasanaethau a chymorth. Eu nod cyffredinol yw galluogi plant a phobl ifanc i fyw yn eu teuluoedd eu hunain ac o fewn eu cymunedau eu hunain lle bynnag y mae'n ddiogel gwneud hynny, gan weithio gydag eraill i atal nifer y plant sy'n dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal yr angen am gyfranogiad statudol. Er gwaethaf cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal, mae Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ag un o'r lefelau isaf fesul 10,000 o'r boblogaeth o gymharu â gweddill Cymru. Mae teuluoedd wedi ei chael hi'n anodd yn sgil y pandemig a'r argyfwng costau byw, sydd wedi ychwanegu straen, materion sy'n peri risg gynyddol o gam-drin ac esgeulustod ac iechyd meddwl. Gwneir ceisiadau am lety drwy ein panel llety i geisio sicrhau bod opsiynau cymorth amgen yn cael eu hystyried trwy dimau megis Ar Ffiniau Gofal, y Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd (IFST) a Thimau Ymyriadau Teuluol a gwasanaethau ataliol eraill. Rydym yn adolygu Ar Ffiniau Gofal a'r Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd i sicrhau bod teuluoedd yn cael yr help iawn ar yr adeg iawn yn eu cymunedau lleol. Rydym hefyd yn datblygu rhaglenni rhianta.


CANLYNIAD: Mae teuluoedd o gefndiroedd difreintiedig yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth iechyd a llesiant yn eu hardaloedd lleol.

Mae gan yr Awdurdod Lleol ystod eang o wasanaethau sy'n cynorthwyo teuluoedd i gael mynediad at ddarpariaeth iechyd a llesiant. Gan gynnwys:

  • Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) yn adnodd canolog ar gyfer darparu gwybodaeth am wasanaethau i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae'r Fframwaith Help Iawn, Amser Iawn yn helpu i lywio'r gwasanaeth sydd ar gael ar draws gwahanol lefelau angen. Mae gan dudalen Facebook y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 1,195 o ddilynwyr a 34,390 o ymweliadau â'r wefan.
  • Mae gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys y rhaglen Dechrau'n Deg a Chynllun Peilot Braenaru Blynyddoedd Cynnar Cwm Gwendraeth. Mae'r rhain yn darparu gwaith amlasiantaeth ac integredig mewn cymunedau difreintiedig penodol, gan arwain at well canlyniadau iechyd a llesiant i deuluoedd. Derbyniodd cyfanswm o 2,356 o blant gefnogaeth yn ystod 22/23 drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg. Yn sgil ehangu Cam 1 elwodd 127 o blant eraill o'r gwasanaeth.
  • Gwasanaethau 0-25 oed: Mae'r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ar draws y Sir, ac mae'n darparu cymorth rhianta, cefnogaeth i bobl ifanc a chymorth anabledd.
    Derbyniodd cyfanswm o 9,230 o unigolion ymyriad ystyrlon yn 22/23. Mae'r galw a'r cymhlethdod wedi cynyddu, ac mae'r rhaglen yn ymateb yn gadarnhaol, gyda 94% o 789 o achosion a gaewyd yn dweud bod pethau wedi symud ymlaen.

Fel Cyngor, rydym yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau thematig a gwasanaeth canlynol:

  • Blaenoriaeth Thematig Amcan Llesiant 1a: Bywydau Iach – atal / ymyrraeth gynnar
  • Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 1b: Blynyddoedd Cynnar
  • Blaenoriaeth Gwasanaeth Amcan Llesiant 1c: Addysg

Pam mae hyn yn bwysig?

Bydd rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd, a sicrhau ei fod yn byw bywyd iach yn lleihau ei risg o wynebu anghydraddoldebau yn ddiweddarach mewn bywyd ac yn ei helpu i gyrraedd ei botensial llawn. Rydym yn cydnabod bod plentyndod cynnar yn gyfnod o gyfleoedd gwych ond hefyd yn risg fawr gan fod pob rhyngweithio yn helpu i lunio'r ffordd y mae plant yn datblygu. Byddwn felly yn ymdrechu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn gweithio i sicrhau bod eu llesiant emosiynol a chorfforol yn cael ei ddiogelu a'i feithrin.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

n eu Gwiriad Sicrwydd diwethaf, canfu Arolygiaeth Gofal Cymru fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Plant-

  • Arweinwyr agos-atoch a chefnogol
  • Diwylliant o gyd-gynhyrchu a chanlyniadau personol yn cael eu datblygu gyda phobl
  • Eglurder mewn methodoleg weithredol
  • Cydweithredu aml-asiantaeth cryf
  • Ymagwedd integredig cadarnhaol at ddiwylliant o atal drwy gydweithio
  • Poblogaeth isel o blant sy'n derbyn gofal

Gwneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant pobl yng nghyfnod y pandemig.

Rydym yn gweithio'n barhaus i leihau nifer y plant sy'n dod i mewn i ofal gan ddefnyddio timau arbenigol ac ataliol megis Ar Ffiniau Gofal, y Tîm Cymorth Integredig i Deuluoedd a'r Tîm Ymyriadau Teuluol. Rydym yn parhau i wynebu heriau wrth gadw plant yn ddiogel gartref gan fod teuluoedd wedi'i chael hi'n anodd yn sgil y pandemig a'r argyfwng costau byw gyda chaledi cynyddol, a materion yn codi lle mae'r risgiau'n uchel mewn perthynas â cham-drin ac esgeulustod, problemau iechyd meddwl ac emosiynol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd ac asiantaethau eraill i ddarparu'r cymorth iawn ar yr adeg iawn i atal yr angen i blant ddod i mewn i ofal a'u hadsefydlu'n ddiogel gartref lle bynnag y bo modd.


Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 25-31- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam mae hyn yn bwysig?

Ein blaenoriaeth yw amddiffyn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall, neu y mae perygl y bydd hynny'n digwydd iddynt. Rydym yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar / atal i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyrraedd ei botensial llawn a bod yn iach, yn hapus ac yn ddiogel. Ein prif nod yw helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella ei brofiadau yn gynnar mewn bywyd.

Ein Hunanasesiad cyffredinol:

Mae Dechrau'n Deg yn ehangu fesul cam ar draws y sir.

Mae Cam 1 o'r ehangu eisoes wedi'i gwblhau, ac mae Cam 2 i fod i ddechrau ym mis Ebrill 2023 i gyrraedd targed o 249 o blant 2-3 oed erbyn 31 Mawrth 2025. Unwaith y bydd wedi'i gyflwyno'n llawn, bydd pob teulu sydd â phlant rhwng 2-3 oed yn gymwys i gael 12.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel a ariennir am 39 wythnos y flwyddyn.

Roedd y cyllid 'Haf o Hwyl' a 'Gaeaf Llawn Lles' yn galluogi tua 15,000 o blant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed i elwa o weithgareddau am ddim ledled y sir.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 32-34 - pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Byddwn yn cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Yn y dyfodol bydd y Gwasanaethau Addysg yn canolbwyntio ar gynorthwyo dysgwyr i ddod:
  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

 

At ei gilydd, mae disgyblion yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, ac yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu.

Mae arolygon disgyblion yn dangos bod Iechyd a Llesiant at ei gilydd yn dda ar draws ein holl ysgolion.
At ei gilydd, mae canlyniadau TGAU 2022 yn uwch na rhai 2019 pryd y safwyd arholiadau y tro diwethaf.
Rydym wedi gwella cefnogaeth i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a dysgwyr sy'n agored i niwed.


Am gynnydd a data ar y gwasanaeth hwn, gweler tudalennau 35-44- pa mor dda ydyn ni'n gwneud (a sut ydyn ni'n gwybod)?