Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023
Amcan Llesiant 4
Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)
Dyfarniad cyffredinol
Ym mis Mawrth 2023, lansiodd y Cyngor yn ffurfiol ei ddull newydd o drawsnewid trwy fabwysiadu ei Strategaeth Drawsnewid gyntaf. Bydd y Strategaeth yn darparu’r fframwaith strategol a fydd yn tanategu’r gwaith o weithredu rhaglen sylweddol o newid a thrawsnewid ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf. Prif ffocws y rhaglen hon fydd cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y Cyngor, a’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel yng nghyd-destun amgylchedd allanol heriol.
Sefydlwyd wyth ffrwd waith i ddatblygu’r blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y Strategaeth Drawsnewid ac mae cynnydd da eisoes yn cael ei wneud wrth weithredu’r rhaglenni gwaith hyn.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Ym mis Mawrth 2020 aethom i mewn i un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebwyd erioed gan lywodraeth leol gyda’r pandemig COVID-19. Wrth ddod allan o’r argyfwng roedd yna sylweddoliad ‘na fyddai pethau byth yn union yr peth’ ac na fyddem yn yr un sefydliad ag yr oeddem.
- Roeddem felly am fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd yn sgil ein hymateb i’r pandemig; beth weithiodd yn dda/beth na weithiodd mor dda, a sut y gallai hyn o bosibl newid ‘yr hyn yr ydym yn ei wneud’ a ‘sut yr ydym yn ei wneud’ yn y dyfodol.
- Mae hyn yn gyfle nawr i ailosod neu fynd yn ôl i'r pethau syml wrth ddefnyddio rhai egwyddorion craidd sy'n sail i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
- Mae’r canfyddiadau o ymgynghoriad staff yn 2022 yn dynodi bod y mwyafrif helaeth o ymatebwyr yn teimlo’n falch o’r modd y gwnaethom ymateb fel sefydliad i’r pandemig. Yn ychwanegol, mae’r mwyafrif yn teimlo’n barod i symud ymlaen a gweithio mewn byd ôl-COVID. Gan mwyaf, cytunai’r staff eu bod wedi cael eu harwain yn dda yn ystod y pandemig; fodd bynnag cytunai cyfran is eu bod yn teimlo iddynt gael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnaethant yn ystod yr amser hwn.
CANLYNIAD: Moderneiddio a datblygu ffyrdd y Cyngor o weithio ymhellach.
CYNNYDD: ⇑ Un o nodau allweddol y Rhaglen Drawsnewid yw datblygu ffyrdd mwy clyfar a mwy effeithlon o weithio, yn enwedig trwy ddefnyddio technoleg. Mae rhaglen waith eisoes ar y gweill i awtomeiddio nifer o brosesau papur.
CANLYNIAD: Cefnogi datblygiad y Cyngor fel sefydliad modern, amrywiol, cynhwysol ac ymatebol a bod yn ‘Gyflogwr o Ddewis’.
CYNNYDD: ⇑ Datblygwyd Strategaeth Gweithlu yn ystod y flwyddyn, a bydd hyn yn darparu'r fframwaith strategol i gefnogi'r gwaith o gyflawni nifer o flaenoriaethau cysylltiedig â'r gweithlu a dod yn 'Gyflogwr o Ddewis’.
CANLYNIAD: Gwrando ar ein staff drwy ymgysylltu'n rheolaidd â staff a'u grymuso i wella eu meysydd gwasanaeth eu hunain
CYNNYDD: ⇑ Cynhaliwyd Arolwg Staff yn ystod 2022/23 ac mae adroddiad cryno ar ganfyddiadau a chamau gweithredu hefyd wedi'i gyfleu i staff. Defnyddiwyd y canfyddiadau hyn hefyd i lywio gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen - Ymgysylltu â Gweithwyr sydd wedi datblygu Cynllun Cyfathrebu Corfforaethol sy'n amlinellu ystod o fentrau cyfathrebu ac ymgysylltu â staff.
CANLYNIAD: Sicrhau bod y gwaith a wneir mewn partneriaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn ychwanegu gwerth at waith y Cyngor
CYNNYDD: ⇑ Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin wedi gweithio'n dda yn ystod y flwyddyn i ddatblygu ei Gynllun Llesiant newydd ar gyfer y cyfnod 2023-28. Mae cydweithio â chydweithwyr rhanbarthol yng Ngheredigion a Sir Benfro hefyd wedi gweithio'n dda gan rannu adnoddau i ddatblygu rhai elfennau.
Mae'r Byrddau Cymunedau Mwy Diogel, Trais Difrifol a Throseddau Cyfundrefnol a Contest hefyd wedi gweithio'n dda ar sail Sir Gaerfyrddin a Dyfed-Powys, gan gydweithio ag ystod o bartneriaid ar amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar ddiogelwch cymunedol.
CANLYNIAD: Mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd drwy ymgysylltu, cyfranogi ac ymgynghori
CYNNYDD: ⇑ Mae cynnydd yn nifer yr ymatebwyr i ymgynghoriadau'r Cyngor yn ddangosydd cadarnhaol o'r cynnydd. Mae rhagor o waith i'w wneud i wella ein dulliau o roi adborth ar ôl ymgynghori ac i ehangu ein dulliau o ymgysylltu'n a chyfranogi'n gynnar. Caiff hyn ei nodi fel cam gweithredu ar gyfer 2023-24
CANLYNIAD: Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir.
CYNNYDD: ⇑ Mae ffrwd waith bwrpasol wedi'i sefydlu o fewn y Rhaglen Drawsnewid i nodi cyfleoedd i gynhyrchu mwy o incwm drwy fabwysiadu ymagwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau'r Cyngor. Caiff trafodaethau eu cynnal gyda gwasanaethau i lywio'r gwaith o ddatblygu achos busnes Masnacheiddio a chynllun cyflawni a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Medi 2023.
CANLYNIAD: Croesawu a hyrwyddo arferion gweithio ystwyth, cyfarfodydd hybrid a ffyrdd newydd o weithio ar draws y sefydliad, drwy fod yn fwy cynaliadwy a chreadigol i wella gwasanaethau'r Cyngor.
CYNNYDD: ⇑ Mae ffrwd waith y Gweithle Trawsnewid wedi bod yn archwilio sut y gallwn resymoli ein portffolio adeiladau, a hynny gan foderneiddio a gwella'r gweithleoedd yn ein hadeiladau craidd a gedwir. Ers y pandemig, mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd wedi bod yn llai na thraean llawn, gan fod angen mwy a mwy o wahanol fathau o ofod i gwrdd, gweithio a chydweithio ar staff. Yn yr hinsawdd ariannol bresennol mae rhesymoli yn ffordd effeithiol o arbed arian gan ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Bydd lleihau ystad y Cyngor hefyd yn helpu i arbed gwariant ar gyfleustodau ac yn cyfrannu at ein hamcanion carbon sero net. Mae cynllun rhesymoli peilot llwyddiannus eisoes wedi'i gynnal gyda staff Tai ac Addysg a Gwasanaethau Plant yn Llanelli. Bydd nifer y staff sydd wedi eu lleoli ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin yn gostwng dros y 12 mis nesaf. Bydd staff yn cael eu hadleoli i Heol Spilman a Neuadd y Sir.
CANLYNIAD: Sicrhau newid sefydliadol sy'n cefnogi targedau allweddol Carbon Sero Net
CYNNYDD: ⇑ Bydd Cynllun Carbon Sero Net yn cael ei ddatblygu erbyn mis Ebrill 2023 a fydd yn nodi sut y mae'r Cyngor yn bwriadu cyrraedd ei dargedau lleihau carbon erbyn 2030. Bydd gan y Rhaglen Drawsnewid rôl allweddol i'w chwarae wrth hwyluso'r newid sefydliadol sydd ei angen i gyflawni'r ymrwymiadau o fewn y Cynllun Carbon Sero Net.
CANLYNIAD: Sicrhau bod y Cyngor yn defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.
CYNNYDD: ⇑ Yn ystod 2022/23, y Cyngor oedd un o'r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i lunio ei ddatganiad ar gyfrifon 2021/22 a derbyn adroddiad archwilio diamod.
Er gwaethaf cefndir economaidd hynod heriol o chwyddiant uchel a thwf digynsail mewn cyflogau nas gwelwyd ers cenhedlaeth, cyflawnodd y Cyngor danwariant bach yn erbyn y cyllidebau.
Cyflawnodd y Cyngor ei darged o dalu 95% o gyflenwyr o fewn 30 diwrnod, ond collodd ei nod o ran enillion buddsoddiad y trysorlys o drwch blewyn oherwydd natur y cyfraddau llog cynyddol.
Cyflwynwyd Hunanasesiadau adrannol sy'n cynnwys gwerthuso'r economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
CANLYNIAD: Ymgorffori'r egwyddor datblygu cynaliadwy ym mhopeth a wna'r Cyngor
CYNNYDD: ⇑ Mae gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi tanategu'r dull o ddatblygu a gweithredu'r Rhaglen Drawsnewid.
Bydd gwaith datblygu ar yr Asesiad Effaith Integredig yn ystod y flwyddyn yn cael ei weithredu yn ystod 2023-24 a bydd yn sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy wedi'i hymgorffori'n llawn.
Sefydlwyd wyth ffrwd waith i ddatblygu’r blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y Strategaeth Drawsnewid, maent yn:
- Arbedion Effeithlonrwydd a Gwerth am Arian
Parhau i sicrhau arbedion ariannol trwy weithio’n fwy effeithlon neu dorri costau a ffyrdd mwy clyfar o weithio. - Incwm a Masnacheiddio
Datblygu agwedd fwy masnachol at ddarparu gwasanaethau’r Cyngor gyda’r bwriad o gynyddu lefel yr incwm a gynhyrchir. - Gweithle
Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynwyd gan symud at weithio hybrid ac ad-drefnu ymhellach bortffolio adeiladau’r Cyngor a moderneiddio a gwella’r amgylchedd gwaith yn yr adeiladau craidd eraill. - Gweithlu
Goruchwylio’r gwaith o ddatblygu Strategaeth Weithlu a chyflawni blaenoriaethau allweddol ar gyfer y gweithlu i alluogi’r Cyngor i ddod yn sefydliad mwy modern ac ymatebol ac yn ‘Gyflogwr o Ddewis’. - Cynllunio a Gwella Gwasanaethau
Darparu ar gyfer ymagwedd fwy cynaliadwy a chreadigol at yr adolygiad, ailfodelu a gwella gwasanaethau’r Cyngor. - Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol
Parhau i wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddarparu prosesau gwasanaeth mwy clyfar ac effeithlon a chynnig gwell profiad i gwsmeriaid. - Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth
Cefnogi’r Cyngor i greu newid trawsnewidiol i gefnogi amcanion a thargedau datgarboneiddio allweddol. - Ysgolion
Cynorthwyo ysgolion i nodi gostyngiadau mewn costau a ffyrdd gwell o weithio a chefnogi datblygu cyllidebau ysgolion mwy cynaliadwy a helpu i ddiogelu darpariaeth academaidd rheng flaen.
Yn dilyn etholiadau Llywodraeth Leol yn 2023, cytunwyd y byddai hwn yn amser da i adolygu dull y Cyngor o drawsnewid a sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd yn llawn â nodau ac amcanion y Strategaeth Gorfforaethol newydd.
Byddai hyn hefyd yn ceisio adeiladu ar waith Rhaglen TIC y Cyngor, sef y prif gyfrwng o ddarparu cefnogaeth sefydliadol ar gyfer trawsnewid a newid ers 2012 a chaniatáu i'r Cyngor fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gododd yn sgil yr ymateb i'r pandemig COVID-19 i drawsnewid a moderneiddio ymhellach ein ffyrdd o weithio, yn enwedig y defnydd o dechnoleg.
Byddai cyflwyno'r dull newydd hwn yn cael ei ategu gan ddatblygu a gweithredu Strategaeth Drawsnewid. Hwn yw’r tro cyntaf i’r Cyngor gynhyrchu Strategaeth Drawsnewid, a’r bwriad yw y bydd yn darparu’r fframwaith strategol ar gyfer tanio rhaglen o newid a thrawsnewid arwyddocaol ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf.
Rhoddwyd adroddiad ar y Strategaeth Drawsnewid i'r Cabinet ym mis Chwefror 2023 a chafodd ei lansio ym mis Mawrth 2023, ac mae bellach yn darparu'r fframwaith strategol i gefnogi'r gwaith o gyflawni wyth blaenoriaeth thematig:
- Arbedion a Gwerth am Arian
- Incwm a Masnacheiddio
- Gweithle
- Gweithlu
- Cynllunio a Gwella Gwasanaethau
- Cwsmeriaid a Thrawsnewid Digidol
- Datgarboneiddio a bioamrywiaeth
- Ysgolion
Mae Grwpiau Cyflawni Ffrydiau Gwaith bellach wedi'u sefydlu i gefnogi'r gwaith o weithredu pob un o'r blaenoriaethau trawsnewid a bydd y rhain yn cael eu harwain gan Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth.
Am gynnydd a data ar y flaenoriaeth thematig hon gweler tudalennau 143-147-