Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023

Sut rydym yn mesur llwyddiant ein Hamcanion Llesiant

Mesur Cynnydd

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn hyrwyddo newid mewn ffocws o gynhyrchiant gwasanaethau, i bob corff cyhoeddus yn cydweithio i ddatblygu canlyniadau sy'n gwella ansawdd bywyd dinasyddion a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar ystod o ddata a thystiolaeth i greu darlun mor gynhwysfawr â phosibl o'n cynnydd o ran tueddiadau dros amser ac o ran y modd yr ydym yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Er mwyn i ni wneud hyn yn effeithiol, rydym wedi datblygu cyfres ddata o ddangosyddion a mesurau sy'n dwyn ynghyd ystod eang o wahanol ffynonellau, gan ein galluogi i fyfyrio ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn gyffredinol. Mae'r data yn cwmpasu'r canlynol:

Dangosyddion Poblogaeth: Yn bennaf mae'r rhain yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd ac a nodwyd i ddatblygu dealltwriaeth o dueddiadau a sefyllfa Sir Gaerfyrddin mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'r ffynonellau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i); Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mesurau Perfformiad: Cynnwys ffurflenni statudol, mesurau mewnol y Cyngor a gwybodaeth sylfaenol ar ffurf canfyddiadau ymgynghori yr ydym yn eu defnyddio i fesur a monitro perfformiad yn rheolaidd. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw'r rhain.

Gwybodaeth Sylfaenol – Canfyddiadau Ymgynghori

Yn dilyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022, aethom ati i ddeall sut yr oedd trigolion, staff y Cyngor, busnesau ac Undebau Llafur yn teimlo am berfformiad y Cyngor. Er bod hyn yn bodloni'r rhwymedigaethau statudol a osodwyd arnom drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, roedd hefyd yn gyfle i gael barn (gan drigolion a busnesau yn bennaf) ar nifer o faterion polisi allweddol ehangach megis: yr argyfyngau hinsawdd a natur, tlodi, addysg, diogelwch cymunedol, yr iaith Gymraeg ac iechyd meddwl a llesiant.

Mae'r wybodaeth sylfaenol hon wedi bod yn amhrisiadwy, a phan gaiff ei hystyried yn rhan o gyfres ehangach o fesurau bydd yn ddangosydd pwysig o'n perfformiad, gyda chanlyniadau 2022 yn gweithredu fel llinell sylfaen er mwyn monitro perfformiad yn y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn arwydd o'n hymrwymiad i gyflawni ein hamcanion llesiant gyda thrigolion, defnyddwyr gwasanaeth, ein cymuned fusnes a staff sydd yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.

Yn yr adroddiad hwn drwyddo draw caiff canfyddiadau'r ymgynghoriad eu dangos ar ffurf sgôr mynegai cyfartalog (AIS). Mae'r sgôr hwn yn gyfartaledd wedi'i bwysoli a bydd yn caniatáu cymhariaeth hwylus rhwng canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn. Darperir allwedd isod i gyfeirio ati a cheir mwy o wybodaeth am y modd y caiff sgoriau mynegai cyfartalog eu cyfrifo yn Atodiad 6.

Allwedd Sgôr Mynegai Cyfartalog:

• Mae sgôr o dan 1 yn dangos anghytundeb cyffredinol;
• Mae sgôr rhwng 0 ac 1 yn dangos cytundeb cyffredinol, ac
• Mae sgôr rhwng 1 a 2 yn dangos cytundeb cryf cyffredinol.

Canlyniad Rheoleiddio

Yn ystod y flwyddyn cyhoeddodd ein rheoleiddwyr nifer o adroddiadau, a chaiff y rhain eu rhestru yn Atodiad 3

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn edrych ar ystod eang o dystiolaeth i wneud hunanasesiad o'r modd yr ydym yn perfformio.