Cais am waith trydanol

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Mae’r rheoliadau Rhan P newydd, sy’n ymwneud â gwaith trydanol, yn berthnasol i dai a fflatiau annedd yn bennaf, gan gynnwys gerddi, tai allan fel siediau, garejis ar wahân a thai gwydr. Cyflwynwyd rheolau hyn i leihau nifer y marwolaethau, anafiadau a thanau a achosir gan osodiadau trydanol diffygiol ac i rwystro adeiladwyr anghofrestredig rhag gadael gosodiadau trydanol mewn cyflwr anniogel.

Os nad ydych yn dilyn y Rheoliadau Adeiladu newydd:

  • Efallai na fydd y gwaith trydanol a wnaed yn ddiogel
  • Gallwch brofi anhawster wrth werthu eich cartref os nad ydych yn meddu ar y tystysgrifau cywir
  • Gallwn fynnu eich bod yn cywiro gwaith diffygiol

Gwaith y mae angen cymeradwyaeth ar ei gyfer yn cynnwys sy’n cynnwys ychwanegu cylched newydd neu waith trydanol yn y lleoliadau canlynol:

  • Ceginau,
  • Ystafelloedd ymolchi, lleoliadau sy’n cynnwys cyfleuster bath neu gawod
  • Pyllau nofio neu byllau padlo
  • Sawnau
  • Systemau gwresogi trydan ar y llawr neu’r nenfwd
  • Goleuadau neu osodiadau pŵer yn yr ardd
  • Generaduron graddfa fach fel micro-unedau gwres a phŵer cyfunedig.
  • Gosodiadau golau foltedd isel iawn, ac eithrio setiau golau parod â marc CE

Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud gan drydanwr sydd wedi’i gofrestru dan y Cynllun Person Cymwys.

Lawrlwytho ffurflen gais am waith trydanol