Tystysgrifau cwblhau

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd, asiant neu adeiladwr yw sicrhau y gwneir cais am archwiliad cwblhau cyn pen pum diwrnod ar ôl cwblhau’r gwaith ac y ceir tystysgrif cwblhau ddilynol

Mae’r archwiliad hwn a’r dystysgrif ddilynol yn hanfodol am sawl rheswm:

  1. Mae’r hysbysiad bod y gwaith wedi’i gwblhau yn ofyniad statudol dan y Rheoliadau Adeiladu, ac os na wneir cais amdano o fewn y cyfnod rhagnodedig, gall hyn fod yn groes i’r Rheoliadau Adeiladu a gall arwain at gamau gorfodi.
  2. Mae’r dystysgrif cwblhau yn bwysig iawn ac mae ei hangen ar y perchennog fel y gellir ei dangos wrth werthu’r eiddo yn ddiweddarach. (Mae cyfreithwyr yn gofyn amdani yn ystod y broses drawsgludo).
  3. Rhaid i’r gwaith y mae’r cais dan y rheoliadau adeiladu yn ymwneud ag ef ddechrau cyn pen 3 blynedd ar ôl y dyddiad cymeradwyo yn achos cais â chynlluniau llawn, a 3 blynedd ar ôl y dyddiad cofrestru yn achos hysbysiad adeiladu. Ar ôl y cyfnod o 3 blynedd, cynhelir gwiriadau ar geisiadau at ddibenion archifo.
  4. Os nad yw’r Adain Rheoli Adeiladu wedi cael gwybod bod y gwaith wedi dechrau cyn pen 3 blynedd, bydd hysbysiad dan Adran 32 o Ddeddf Adeiladu 1984 yn cau’r cais, a bydd angen gwneud cais arall os bwriedir gwneud y gwaith.
  5. Os bydd yr Adain Rheoli Adeiladu yn canfod bod cais wedi’i gwblhau a bod yr eiddo wedi’i feddiannu, er na wnaed cais am yr archwiliadau angenrheidiol, mae hyn ynddo’i hun yn groes i’r Rheoliadau Adeiladu.
  6. Nid cyfrifoldeb Cyngor Sir Caerfyrddin yw cynnal archwiliadau os na wnaed cais amdanynt. Yn yr amgylchiadau hyn, nid oes gorfodaeth arnom i gyhoeddi tystysgrif cwblhau.
  7. Gellir profi oedi wrth gyhoeddi’r dystysgrif cwblhau os na wnaed yr holl hysbysiadau statudol bod y gwaith yn barod i’w archwilio. Gall yr oedi fod o ganlyniad i gamau y bydd yn rhaid eu cymryd i benderfynu a yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau. 
  8. Os yw’r gwaith wedi’i gwblhau ac nad oes archwiliad cwblhau wedi’i gynnal cyn bod ein ffeiliau yn cael eu harchifo, nid oes gorfodaeth arnom i gyhoeddi tystysgrif cwblhau oherwydd Rhif 1 uchod. Os oes angen tystysgrif ar ôl archifo’r ffeiliau (ar waith a gwblhawyd cyn archifo’r ffeiliau) at ddibenion gwerthu’r eiddo; gellir gofyn i’r perchennog ddangos cynlluniau a gymeradwywyd. Codir tâl am y gwasanaeth hwn (mae manylion ar gael ar gais). Hefyd, gellir gofyn i’r perchennog ddatgelu agweddau amrywiol ar y gwaith er mwyn gweld a yw’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Os ydym yn fodlon ar y gwaith ar y safle, bydd tystysgrif cwblhau yn cael ei chyhoeddi. Oni bai bod yr Adain Rheoli Adeiladu yn fodlon ar y gwaith, cyn belled ag y gellir ei weld yn rhesymol, mae’n bosibl na fydd tystysgrif cwblhau yn cael ei chyhoeddi.