Cais cynlluniau llawn

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Gellir defnyddio'r dull hwn o hysbysu ar gyfer pob math o adeilad. Mae'r Cynlluniau Llawn yn addas ar gyfer y canlynol:

  • Unrhyw adeiladau newydd
  • Estyniadau neu newidiadau i unrhyw adeilad, ar wahân i estyniadau unllawr bach i gartrefi
  • Newidiadau strwythurol helaeth i unrhyw adeilad
  • Creu ystafell neu ystafelloedd mewn to

Mae cynlluniau neu ddarluniau ar gyfer prosiectau arfaethedig yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor er mwyn iddo wirio eu bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu cyn i’r gwaith ddechrau. Gwneir hyn i sicrhau bod modd gwneud unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle, sy’n gallu arbed amser ac arian i’r datblygwr.

Mae arnom angen un set o’r cynlluniau. Ar gyfer prosiectau masnachol, byddwn yn sganio copi fel mae'n ofynnol i ni ymgynghori â'r gwasanaeth tân. Bydd angen i chi gael cynlluniau wedi’u tynnu gan berson cymwysedig addas.

Fel arfer, mae dwy ran i'n costau ar gyfer y weithdrefn hon. Mae angen talu'r rhan gyntaf wrth gyflwyno'r cynlluniau (Cost Cynllun), ac mae angen talu'r ail ran pan fydd y gwaith yn dechrau ar y safle (Costau Archwilio) .

Manteision y weithdrefn Cynlluniau Llawn:

  • Byddwch yn derbyn penderfyniad ffurfiol ar ôl i'r gwaith gwirio terfynol gael ei gwblhau.
  • Gellir cyflwyno Hysbysiad Cymeradwyo ichi ar gyfer sefydliadau ariannol, cyfreithwyr neu syrfewyr ac ati, a fydd yn ddefnyddiol wrth wneud cais am fenthyciad neu symud tŷ.
  • Gallwch fod yn sicr, os yw'r gwaith yn cael ei gyflawni'n unol â'r cynlluniau cymeradwy, y bydd y Rheoliadau yn cael eu bodloni.
  • Rhoddir Tystysgrif Gwblhau yn dilyn yr archwiliad terfynol.

Gwirio cyn cyflwyno cais ynghylch Cynllun Llawn

Ar gyfer prosiectau mawr, rydym yn cynnig gwiriadau a chyfarfodydd cyn ymgeisio i gynorthwyo gyda’r broses, gan arbed amser ac arian i gwsmeriaid ac i ni. Os oes gennych ddiddordeb yn y Gwasanaeth hwn neu am gyngor ar unrhyw un o'r uchod, cysylltwch ag un o'n haelodau tîm.

Cyflwyno eich cais

Gallwch ychwanegu hyd at 6 atodiad ar-lein. Os oes gennych fwy na 6 atodiad gallwch eu hanfon ymlaen atom mewn e-bost gan ddyfynnu eich cyfeirnod ar-lein i'r cyfeiriad rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk. Wrth lanlwytho dogfennau ategol ni ddylai ffeiliau unigol fod yn fwy na 5MB. Rydym yn argymell nad ydynt yn fwy na 14MB. Er cysondeb, argymhellir eich bod yn defnyddio'r mathau canlynol o ffeiliau fel dogfennau ategol lle bo'n bosibl:

  • Lluniau/cynlluniau: .pdf, .bmp, .gif, .jpg/.jpeg, .plt, .png, .tif/.tiff
  • Dogfennau: .pdf, .doc, .rtf, .txt, .xls

Gwnewch gais am gynlluniau llawn