• English
  • Hepgor gwe-lywio

Rhoi gwybod am achos honedig o dorri rheolau cynllunio

Problem Cynllunio? Rhowch wybod i ni!

Mae gennym ddyletswydd i ymchwilio i gŵynion ynghylch datblygiad y mae posibilrwydd ei fod wedi cael ei wneud heb ganiatâd cynllunio. Gallai'r gwaith hwnnw gynnwys:

  • codi neu ymestyn adeilad heb ganiatâd
  • newid defnydd adeilad heb ganiatâd
  • neu fethu cydymffurfio ag amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd cynllunio. 

Gallwch roi gwybod am ddatblygiad:

  • sy'n digwydd heb ganiatâd cynllunio 
  • sy'n digwydd heb gydymffurfio ag amodau sydd ynghlwm wrth ganiatâd 
  • nad yw'n cydymffurfio â chynllun cymeradwy 

Gallwch roi gwybod am hyn:

Ym mhob achos byddwn yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y camau a gymerir yn gymesur â'r gyfraith gynllunio a dorrwyd. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i ateb i'r broblem sy'n cydymffurfio â'r gyfraith ac sy'n bodloni pawb sydd a wnelont â'r mater.

Ni fydd y Cyngor yn ymwneud â materion sydd ond yn anghydfod rhwng cymdogion, ac, yn benodol, ni all ymwneud ag anghydfod ynghylch ffiniau.

  • Bydd angen union leoliad y safle neu'r eiddo y mae'r gŵyn yn ymwneud ag ef.
  • Union natur y pryder h.y. yr achos honedig o dorri rheolau cynllunio.
  • Awgrym o unrhyw niwed a achoswyd/sy'n cael ei achosi.
  • Os yw'n bosibl, enw'r person/sefydliad cyfrifol a'r dyddiad a/neu'r amser y bu i'r achos o dorri rheolau ddechrau.
  • Byddwn yn cydnabod bod eich cwyn wedi dod i law cyn pen 3 diwrnod gwaith. 
  • Cynhelir ymchwiliad cychwynnol cyn pen 5 diwrnod gwaith. 

Gwneir pob ymdrech i gadw enw'r achwynydd yn gyfrinachol. Mewn sawl achos, un o swyddogion y Cyngor yw ffynhonnell wreiddiol y gŵyn.

Fodd bynnag, yn aml darperir y dystiolaeth orau gan y sawl sydd agosaf at y man lle mae'r achos honedig o dorri rheolau cynllunio wedi digwydd.

Mae'n debygol y bydd rhai achosion lle gallai amharodrwydd achwynydd i gael ei adnabod ac i roi tystiolaeth gael effaith ddifrifol ar y canlyniad.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani