Alergenau bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 11/08/2023

I berson ag alergedd bwyd, gall prydau sy'n cynnwys y bwyd y mae'n adweithio iddo fod yn beryglus tu hwnt. Er y gallai unrhyw fwyd achosi adwaith alergaidd mewn egwyddor, mae Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn nodi'r 14 o alergenau canlynol ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgan a ydynt yn bresennol mewn bwyd fel cynhwysyn: 

  • grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten, fel gwenith, rhyg, barlys, ceirch, gwenith yr Almaen, kamut, a mathau hybrid ohonynt
  • pysgnau (a elwir hefyd yn gnau daear)
  • cnau, fel cnau almon, cnau cyll, cnau Ffrengig, cnau cashiw, cnau pecan, cnau pistasio, cnau macadamia a chnau Queensland
  • pysgod
  • cramenogion
  • molysgiaid
  • hadau sesame
  • wyau
  • llaeth a chynhyrchion llaeth (gan gynnwys lactos)
  • ffa soi
  • seleri
  • bysedd y blaidd
  • mwstard
  • mwy na 10mg/kg neu 10mg/litr o sylffwr deuocsid a sylffitau a fynegir fel SO2

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Os ydych yn arlwywr, dylech nodi'r alergenau y mae eich prydau'n eu cynnwys ar y fwydlen neu arddangos hysbysiad yn dweud wrth eich cwsmeriaid ag alergeddau/anoddefiadau bwyd y dylent ofyn i'ch staff am gyngor ar yr alergenau y mae eich prydau'n eu cynnwys. Efallai y byddwch yn ystyried cadw ffeil neu ffolder yn cynnwys gwybodaeth lawn a chyfredol am alergenau ar gyfer pob pryd fel bod eich staff yn gallu ateb ymholiadau o'r fath yn gywir a dangos y dudalen berthnasol i'r cwsmer os gofynnir iddynt wneud hynny.

Rhaid i chi wirio rhestr gynhwysion unrhyw beth y byddwch yn ei brynu, gwirio ryseitiau cyfan pob cynnyrch a sicrhau bob amser eich bod yn storio bwydydd ar wahân mewn cynhwysyddion caeedig, yn enwedig pysgnau, cnau, hadau, powdr llaeth, a blawd. Dylech hefyd hyfforddi staff i holi'r gegin bob tro y bydd rhywun yn gofyn am bryd heb gynhwysyn penodol.

Mae Rheoliad yr UE (CE) Rhif 178/2002, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn atal bwyd 'anniogel' rhag cael ei werthu. Wrth benderfynu a yw bwyd yn 'anniogel', ystyrir yr wybodaeth y mae eich busnes yn ei rhoi i'ch cwsmeriaid - gan gynnwys disgrifiadau ar fwydlenni, rhestrau prisiau a'r wybodaeth a roddir gan staff gweini.

I berson ag alergedd/anoddefiad bwyd, mae prydau sy'n cynnwys y bwyd y mae'n adweithio iddo yn 'anniogel'. Rhaid i chi felly sicrhau eich bod yn rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen ar bobl ag alergeddau/anoddefiadau bwyd o ran pa un a yw pryd penodol yn cynnwys y bwyd y maent yn adweithio iddo. Os bydd rhywun yn gofyn i chi a yw pryd yn cynnwys bwyd penodol, ni ddylech byth ddyfalu'r ateb. Dylech ganfod yr wybodaeth y mae ei hangen ar y cwsmer a gadael iddo benderfynu a all fwyta'r bwyd.

Rhaid i chi:

  • cynnwys gwybodaeth lawn am alergenau ar y fwydlen, tocynnau, labeli, neu fwrdd du neu wyn;
    neu
    arddangos hysbysiad (neu neges ar y fwydlen) yn dweud wrth gwsmeriaid y dylent ofyn i staff am gyngor ar yr alergenau y mae eich prydau'n eu cynnwys
  • gwirio rhestr gynhwysion unrhyw beth y byddwch yn ei brynu
  • gwirio ryseitiau cyfan eich holl gynhyrchion a chofnodi'r wybodaeth mewn ffeil neu ffolder er mwyn i chi allu ateb cwestiynau yn llawn.
  • sicrhau bob amser eich bod yn storio bwydydd ar wahân mewn cynhwysyddion caeedig, yn enwedig pysgnau, cnau, hadau, llaeth powdwr, a blawd
  • os bydd pryd yn cynnwys un o'r bwydydd a all achosi adweithiau alergaidd difrifol, sicrhewch eich bod yn nodi hynny yn enw'r pryd neu'r disgrifiad ar y fwydlen - er enghraifft 'Mousse mefus gyda theisen frau almon'
  • os byddwch yn defnyddio olewau cnau neu hadau heb eu puro wrth goginio neu wneud dresins, nodwch hyn ar y fwydlen a/neu ar hysbysiad a ddangosir yn yr ardal weini
  • pan fydd rhywun yn gofyn i chi baratoi pryd nad yw'n cynnwys cynhwysyn penodol, sicrhewch nad ydych yn ei goginio mewn olew a ddefnyddiwyd eisoes i goginio bwydydd eraill a allai ei halogi
  • hyfforddwch eich staff i holi'r gegin bob tro y bydd rhywun yn gofyn am bryd heb gynhwysyn penodol

Cosbau

Gall methu â chydymffurfio arwain at gyhoeddi hysbysiad gwella, yn ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio. Mae'n drosedd i beidio â chydymffurfio â'r hysbysiad gwella o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw dirwy anghyfyngedig a/neu ddwy flynedd o garchar.

Os na fydd gwybodaeth am alergenau yn cydymffurfio â'r gofynion, ystyrir bod hynny'n drosedd o dan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014. Y gosb fwyaf mewn achos o gollfarn yw diryw o £5,000.