Hyfforddiant diogelwch bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024

Rhaid i'r rhai sy'n trin bwyd dderbyn goruchwyliaeth a chael eu cyfarwyddo a/neu eu hyfforddi mewn hylendid bwyd i'w galluogi i drin bwyd yn ddiogel.

Rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal y system rheoli diogelwch bwyd hefyd fod wedi derbyn hyfforddiant digonol.

Dylid ystyried y gofynion ar gyfer hyfforddiant yng nghyd-destun natur a maint y busnes. Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi ffurfiol neu gael cymhwyster, er hyn, efallai y bydd llawer o fusnesau am i'w staff wneud hynny. Gellir ennill y sgiliau angenrheidiol mewn ffyrdd eraill hefyd, er enghraifft trwy hyfforddiant yn y gwaith, hunan-astudio neu brofiad blaenorol perthnasol.

Chi (gweithredwr y busnes bwyd) sy'n gyfrifol am sicrhau bod hyn yn digwydd.

Gall Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd roi manylion canolfannau hyfforddi sy'n cynnal cyrsiau hylendid bwyd yn eich ardal. Gallant hefyd roi manylion hyfforddwyr sy'n cynnal cyrsiau mewn ieithoedd heblaw Saesneg. Maent hefyd yn cynnig nifer o gyrsiau e-ddysgu sy'n eich helpu i ddod o hyd i'r hyfforddiant gorau i chi a'ch staff.

Cysylltwch â Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
E-ddysgu diogelwch bwyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Hyfforddiant diogelwch bwyd ar-lein yr Asiantaeth Safonau Bwyd