Gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

Os ydych wedi cyflawni’r camau blaenoriaeth a'r gwelliannau i fodloni'r gofynion cyfreithiol ers eich arolygiad, yna gallwch ofyn am ailarolygiad o'ch safle.

Gallwch wneud cais am ailarolygiad unrhyw bryd ar ôl yr ymweliad blaenorol. Gall sgoriau aros yr un fath neu ostwng yn ogystal â chynyddu. Dylai'r cais amlinellu'r achos dros ailarolygiad. Dylai ddangos y camau a gymerwyd gennych i unioni'r diffyg cydymffurfio a nodwyd yn yr ymweliad blaenorol a, lle y bo'n briodol, dylai gynnwys tystiolaeth ategol.

Sut i ofyn am arolygiad ailsgorio

Ffurflen gofyn am ailarolygiad o'ch busnes bwyd

Gallwch wneud cais am arolygiad ailsgorio ar-lein gan ddefnyddio'r ffurflen gais am arolygiad ailsgorio.

Mae ffi o £180 am ailarolygiad y mae'n rhaid ei dalu pan fyddwch yn gwneud cais. Os ydych yn gwneud cais ar-lein gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd ar yr un pryd â chwblhau'r ffurflen gais.

Beth sy'n digwydd nesaf?
Unwaith y derbynnir cais am ailarolygiad, byddwn yn asesu'r dystiolaeth a roddwch er mwyn canfod a oes digon o gamau adferol wedi'u cymryd.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am gynnydd dros y ffôn i wneud yn siŵr bod pob mater o ddiffyg cydymffurfio wedi cael sylw. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw ailarolygiad yn effeithiol, yn gwneud y defnydd gorau o amser swyddogion ond hefyd yn helpu i sicrhau bod busnesau'n cael eu hailarolygu pan fyddant yn barod ac nid cyn hynny.

Pryd fydd yr ailarolygiad yn cael ei gynnal?
Cynhelir yr ymweliad ar adeg pan hysbysebir bod y safle ar agor neu pan wyddys ei fod ar agor, neu ar adeg y gwyddys bod staff yn y safle yn paratoi bwyd i'w werthu.

Ni allwch ddewis pryd y cynhelir yr ailarolygiad. Bydd yr ymweliad yn ddirybudd oni bai, mewn amgylchiadau eithriadol, fod angen sicrhau bod rhai staff yn bresennol ac nad yw cyhoeddi'r ymweliad yn peryglu diogelwch bwyd.

Gallwch wneud y cais ar unrhyw adeg ar ôl yr arolygiad gwreiddiol. Unwaith y byddwch wedi gofyn am ailarolygiad a thalu'r ffi, bydd yr ailarolygiad yn digwydd o fewn tri mis i'r cais gael ei wneud.

Beth allaf ei ddisgwyl yn ystod yr ailarolygiad?

Ar adeg yr ailarolygiad byddwn yn gwirio bod y gwelliannau gofynnol wedi'u gwneud a byddwn hefyd yn asesu lefel y cydymffurfiad cyffredinol a ganfyddir. Mae hyn yn golygu y gallai'r sgôr gynyddu, neu ostwng, neu aros yr un fath os bernir bod hynny'n briodol.

Os ydych am apelio yn erbyn y ffaith na wnaeth eich sgôr wella neu ei fod wedi gostwng o ganlyniad i ailarolygiad, yna gallwch ddilyn y broses apelio arferol.