Newidiadau i gofrestriad sydd eisoes yn bodoli

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cau'r busnes bwyd neu'n newid sut rwy'n gweithio?

Rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf am eich sefydliadau busnes bwyd gennym bob amser. Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol i weithgarwch, neu gau. Dylech ddweud wrthym, cyn i'r newidiadau ddigwydd.

Os oes newid yng ngweithredwr sefydliad busnes bwyd, rhaid i berchennog newydd y busnes ddweud wrthym a chofrestru fel busnes newydd.

Mae newidiadau sylweddol y dylid rhoi gwybod i’r cyngor amdanynt yn cynnwys:

  • Newid cyfeiriad busnes neu enw masnachu
  • Newid Gweithredwr Busnes Bwyd (er enghraifft, perchennog neu enw cwmni gwahanol)
  • Newid yn y math o weithgaredd bwyd

Rhoi gwybod am newidiadau i gofrestriad presennol

Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i’r adran drwy anfon neges e-bost i: diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys:

  • Enw Masnachu
  • Cyfeiriad Llawn
  • Perchennog busnes bwyd
  • Manylion eich newidiadau.