Rheoli diogelwch bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/01/2024

Yn ogystal â sicrhau bod y bwyd rydych yn ei gynhyrchu'n ddiogel i'w fwyta, mae'n ofynnol yn gyfreithiol eich bod yn dangos beth rydych yn ei wneud i goginio bwyd yn ddiogel. Dylech gadw cofnodion ysgrifenedig o hyn.

Rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau | Asiantaeth Safonau Bwyd

Fel rhan o'r archwiliadau arferol, bydd y swyddog gorfodi'n gwirio bod gan eich busnes system rheoli diogelwch bwyd addas ar waith sy'n seiliedig ar HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol).

System rheoli diogelwch bwyd sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol yw HACCP. Mae'n canolbwyntio ar nodi'r pwyntiau critigol mewn proses lle gallai problemau (neu beryglon) diogelwch bwyd godi ac yn rhoi camau ar waith i atal pethau rhag mynd o chwith. Weithiau gelwir hyn yn 'rheoli peryglon'. Mae cadw cofnodion yn rhan hanfodol o systemau HACCP.

Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ragor o wybodaeth am sut i ddatblygu system rheoli diogelwch bwyd.

Cyngor 'Bwyd mwy diogel, busnes gwell' gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Canllawiau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd