Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/02/2024

Mae gennych hawl i fynegi eich barn os oedd unrhyw amgylchiadau’n lliniaru’r amodau a ganfuwyd yn ystod yr arolygiad a/neu esboniad o unrhyw gamau a gymerwyd ers yr arolygiad i unioni pethau. Bydd hwn yn cael ei arddangos ochr yn ochr â'ch sgôr ar y wefan.

Gallwch gyflwyno sylwadau gan ddefnyddio'r ffurflen hawl i ymateb.

Nid yw'r hawl i ymateb yn caniatáu i chi gwyno na beirniadu'r cynllun na'r swyddog arolygu. Felly bydd unrhyw destun yn cael ei wirio, a'i olygu os yw'n briodol, cyn ei gyhoeddi ar y wefan er mwyn dileu unrhyw sylwadau sarhaus, difenwol, amlwg anghywir neu amherthnasol.

Ffurflen hawl i ateb