Apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/01/2024

Os nad ydych yn meddwl bod eich sgôr yn adlewyrchu'r amodau a ganfuwyd yn eich safle bwyd ar adeg yr arolygiad gallwch apelio.


Nid yw'r weithdrefn apelio ar gyfer gofyn am ailarolygiad os ydych wedi gwneud gwaith ar ôl yr arolygiad cychwynnol.

Sut mae apelio?

Yn y lle cyntaf gallech siarad â'ch swyddog arolygu i geisio datrys y mater yn anffurfiol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut y cyfrifwyd eich sgôr ac i weld a allwch ddatrys y mater heb orfod apelio.

Rhoddir enw'r swyddog arolygu a'i fanylion cyswllt ar yr adroddiad arolygu. Ein nod yw anfon yr adroddiad hwn o fewn pythefnos i ddyddiad yr arolygiad.

Ffurflen apelio

Ffurflen apelio yn erbyn eich sgôr hylendid bwyd


Os na chaiff yr anghydfod ei ddatrys yn anffurfiol, neu os yw'n well gennych beidio â siarad â'r swyddog arolygu, dylech apelio o fewn 21 diwrnod i dderbyn hysbysiad o'r sgôr. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd apeliadau a dderbynnir ar ôl y terfyn amser o 21 diwrnod yn cael eu hystyried.

Sylwch fod nifer y dyddiau yn cynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus.

Mae’n bosibl y bydd angen inni siarad â chi i egluro’r pwyntiau yr ydych wedi’u nodi. Er mwyn osgoi oedi, gwnewch yn siŵr bod eich rhif ffôn cyswllt yn ystod y dydd gennym.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Caiff apeliadau eu hystyried gan swyddog annibynnol ar gyfer Bwyd a Diogelwch, a fydd yn edrych ar y cofnodion arolygu ac unrhyw wybodaeth a roddwyd gennych chi fel rhan o'r apêl.

Efallai y bydd angen i'r swyddog siarad â'r swyddog a gynhaliodd yr arolygiad a/neu weithredwr y busnes bwyd. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen ymweliad pellach â’r sefydliad. Cynhelir yr ymweliad hwn ar adeg pan hysbysebir bod y safle ar agor neu pan wyddys ei fod ar agor, neu pan wyddys bod staff ar y safle yn paratoi bwyd i'w werthu. Oherwydd yr amserlen fer iawn ar gyfer prosesu unrhyw apêl, efallai na fydd yn bosibl rhoi gwybod am yr ymweliad ymlaen llaw a dim ond un ymweliad a wneir.

Hysbysiad o ganlyniad yr apêl

Hyd nes y penderfynir ar ganlyniad yr apêl bydd y wefan yn dangos, ar gyfer y sefydliad dan sylw, bod yr asesiad o safonau hylendid yn 'aros i'w gyhoeddi'. Ni fydd y sgôr blaenorol yn cael ei ddangos ar y wefan.

Bydd penderfyniad y swyddog yn cael ei gyfleu i weithredwr y busnes bwyd cyn gynted â phosibl ac o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r apêl. Bydd y sgôr hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan genedlaethol.

Beth os nad wyf yn cytuno â chanlyniad yr apêl?

Gallwch herio penderfyniad y cyngor drwy adolygiad barnwrol.

Gallwch hefyd ddilyn gweithdrefn Cwynion Corfforaethol Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys mynd â'r mater at Ombwdsmon Llywodraeth Leol lle bo'n briodol os ydyw’n ystyried nad yw gwasanaeth y cyngor wedi'i ddarparu'n briodol.