Cofrestrwch Eich Busnes Bwyd

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/03/2024

Mae angen i bob busnes bwyd gofrestru cyn dechrau unrhyw weithrediadau bwyd.


Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gofrestru gyda'u cyngor lleol 28 diwrnod cyn masnachu. Mae angen i bob busnes bwyd sy'n cyflawni unrhyw un o'r camau cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd gael ei gofrestru.

Mae safleoedd bwyd yn cynnwys:

  • bwytai,
  • gwestai,
  • caffis,
  • siopau,
  • archfarchnadoedd,
  • ffreuturau staff,
  • tafarndai, bariau (gan gynnwys diodydd yn unig)
  • warysau,
  • tai llety,
  • cerbydau dosbarthu,
  • cerbydau bwffe ar drenau,
  • stondinau marchnad a stondinau eraill,
  • faniau cŵn poeth a hufen iâ, ac ati.

Gellir cael rhagor o fanylion am y math o safle yma : Paratoi ar gyfer dechrau eich busnes bwyd, yr Asiantaeth Safonau Bwyd.


Os ydych yn rhedeg sefydliadau busnes bwyd mewn mwy nag un ardal cyngor, rhaid i chi gofrestru gyda phob cyngor ar wahân. Dylai gweithredwr sefydliadau symudol fel faniau hufen iâ, faniau byrgyr ac ati gofrestru’r busnes bwyd gyda'r cyngor lle y cedwir y cerbyd fel arfer.

A oes unrhyw eithriadau?

Nid oes angen cofrestru rhai gweithgareddau bwyd oherwydd nad yw Rheoliad y CE yn berthnasol iddynt. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • tyfu neu gynhyrchu bwyd at ddefnydd domestig preifat, er enghraifft cadw ieir i gyflenwi wyau i'ch teulu eich hun
  • paratoi, trin neu storio bwyd ar gyfer defnydd domestig preifat.
  • rhai digwyddiadau cymunedol – Darpariaeth bwyd cymunedol ac elusennol – canllawiau ar gymhwyso cyfraith hylendid bwyd yr UE

Cofrestrwch eich busnes bwyd ar-lein

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol sy'n berthnasol i chi a bod gennych fesurau yn eu lle i fodloni'r gofynion cyfreithiol hyn. Rhaid gwneud y gwaith hwn ymlaen llaw.
Os ydych yn hyderus eich bod eisoes wedi gwneud hyn ac yn ystyried eich bod wedi cyrraedd cam lle rydych yn barod, cofrestru eich busnes.
Mae'r gyfres hon o gwestiynau yn canolbwyntio ar hanfodion allweddol. Nid ydynt yn gynhwysfawr ond byddant yn dangos i chi p’un a ydych yn barod i gofrestru.