Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024

Forewords from Chief Executive and Deputy Leader

Rhagair gan Brif Weithredwr y Cyngor

Croeso i Strategaeth Trawsnewid Digidol Cyngor Sir Caerfyrddin 2021-2024. Mae pandemig Covid-19 wedi atgyfnerthu pwysigrwydd sicrhau y gellir darparu ein gwasanaethau yn effeithiol ac yn effeithlon ar-lein i drigolion Sir Gaerfyrddin a gweithwyr yr Awdurdod. Mae ein Strategaeth Trawsnewid Digidol dros y pedair blynedd diwethaf yn ein rhoi mewn sefyllfa ragorol i fynd i'r afael â heriau'r pandemig ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar y llwyddiant hwnnw wrth i ni edrych ymlaen at ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a manteisio ar ddatblygiad technolegau newydd a chyffrous yr ydym yn awyddus i'w croesawu fel Awdurdod.
Mae'r strategaeth ddigidol hon yn parhau i adeiladu ar yr atebion arloesol a fabwysiadwyd ac yn sicrhau ymagwedd uchelgeisiol at drawsnewid ein gwasanaethau ymhellach a'r ffordd rydym yn eu cyflwyno i drigolion Sir Gaerfyrddin. Mae angen i ni ganolbwyntio ar gynllunio prosesau ac atebion digidol gyda phwyslais cryf ar brofiad defnyddwyr a hwylustod. Bydd cyfranogiad ein cymunedau ym mhob agwedd ar ein gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn sicrhau trawsnewid gwirioneddol gynaliadwy. Byddwn yn trawsnewid ac yn integreiddio'r gwasanaeth a ddarperir o'r dechrau i'r diwedd drwy holl daith y gwasanaeth. Mae'n rhaid i hon fod yn daith sy'n cwmpasu pobl a diwylliant, proses a thechnoleg.
Bydd y Strategaeth Trawsnewid Digidol yn cael ei hadolygu bob blwyddyn a byddwn yn nodi ein cynnydd o ran cyflawni ein prosiectau allweddol yn ein Hadroddiad Blynyddol.

Wendy Walters
Prif Weithredwr

Rhagair gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Technoleg Ddigidol yn ystod Pandemig Covid-19. Rydym wedi gweld nifer o wasanaethau'n manteisio ar dechnolegau digidol arloesol sydd eisoes ar waith yn y Cyngor i drawsnewid a chyflwyno elfennau allweddol ar-lein i drigolion Sir Gaerfyrddin. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn benderfynol o barhau i groesawu arloesi digidol newydd wrth i ni ymdrechu i roi cyfle i breswylwyr ymgysylltu a chael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein os dymunant.
Mae ein Strategaeth Trawsnewid Digidol newydd ar gyfer 2021-2024 yn cyflwyno nifer o brosiectau arloesol a fydd yn effeithio ar bron popeth a wnawn fel Cyngor. Disgrifiwyd “Trawsnewid Digidol" yn newid sy'n gysylltiedig â rhoi technoleg ddigidol ar waith ym mhob agwedd ar gymdeithas. Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin barhau i fanteisio ar lwyfannau digidol newydd er mwyn hwyluso cysylltiadau gwirioneddol â thrigolion a busnesau a sicrhau mynediad cyfleus i wasanaethau cyhoeddus. Mae'r ddogfen bwysig hon yn amlinellu sut y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ddatblygu tuag at sefydliad digidol modern.

Y Cynghorydd Mair Stephens
Dirprwy Arweinydd