Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Adeiladu Sylfeini Digidol yn Sir Gaerfyrddin
Sir Gaerfyrddin yw'r sir drydedd fwyaf yng Nghymru, ac mae'n cwmpasu rhyw 2,365 cilometr sgwâr. Mae Sir Gaerfyrddin yn sir o wrthgyferbyniadau. Mae economi a thirwedd amaethyddol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin yn cyferbynnu ag ardal drefol a diwydiannol y rhan dde-ddwyreiniol. Mae'r sir yn datblygu'n economi fodern sy'n cynnwys diwydiannau peirianneg ysgafn, gwasanaeth a thechnoleg newydd ynghyd â mentrau busnes eraill.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Nod cynnig Bargen Ddinesig Bae Abertawe yw helpu i roi'r rhanbarth ar flaen y gad yn yr oes ddigidol mewn byd ôl-Covid-19, drwy ganolbwyntio ar ddatblygu seilwaith digidol y Genhedlaeth Nesaf, gan gynnwys gwelliannau i ehangu'r ddarpariaeth o alluoedd Wi-Fi, 4G/5G a band eang cyflym iawn sefydlog all ymdopi â gigabit er budd ardaloedd trefol a gwledig y rhanbarth. Bydd gwell seilwaith digidol yn galluogi'r rhanbarth i arloesi, treialu a masnacheiddio atebion clyfar ar y rhyngrwyd yn fyd-eang a fydd yn trawsnewid yr economi mewn meysydd fel ynni, gweithgynhyrchu a gwyddorau bywyd. Bydd hyn yn effeithiol o ran cefnogi gweithio gartref ar raddfa fawr, gwella mynediad i swyddi, codi lefelau cynhyrchiant yn yr economi leol, helpu i fynd i'r afael â phroblemau lleol o ran tagfeydd yn ogystal â chefnogi arloesi/gwelliannau o ran y ddarpariaeth prif ffrwd. Bydd y mewnfuddsoddiad hwn yn helpu i wella cysylltedd digidol yn ardaloedd gwledig y Sir.
- Fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn arwain ar dair Rhaglen a Phrosiect mawr.
- Rhaglen o fuddsoddiad Seilwaith Digidol ar draws y rhanbarth, cyfanswm cost y prosiect fydd £55M (£25 miliwn Bargen Ddinesig, £30 miliwn cyllid y Sector Cyhoeddus a'r Sector Preifat).
- Yn y Clwstwr Digidol Creadigol yn Yr Egin, bydd prosiect â chyfanswm cost o £24 miliwn (£5 miliwn Bargen Ddinesig + £16 miliwn Sector Cyhoeddus £3 miliwn Sector Preifat) yn cael ei roi ar waith gan greu mwy na 200 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf.
- Cyfanswm cost y prosiect fydd £200 miliwn (£40 miliwn Bargen Ddinesig, £32 miliwn Cyllid Sector Cyhoeddus a £127 miliwn Sector Preifat) a bydd yn creu mwy na 1800 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf yn natblygiad Pentref Awel.
Yr Iaith Gymraeg
Mae'r iaith Gymraeg yn rhan allweddol o'n bywydau pob dydd yn Sir Gaerfyrddin ac mae 50.3% o'r boblogaeth dros 3 oed yn siaradwyr Cymraeg. Mae'n rhaid i'n gwasanaethau ar-lein gael eu darparu'n ddwyieithog a'u hyrwyddo i'n trigolion yn unol â Mesur y Gymraeg, 2011.
Awdurdod Carbon Sero-Net
Ar 20 Chwefror 2019, penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol gefnogi Rhybudd o Gynnig i ddatgan argyfwng hinsawdd ac i fod yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030.
Cymeradwywyd Cynllun Sero-net ar 12 Chwefror 2020.
Mae gennym rôl bwysig i'w chwarae o ran lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr ein hunain ymhellach a darparu'r arweiniad i annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.
Mae gan dechnoleg rôl gynyddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Nod y strategaeth drawsnewidiol hon yw ategu cynllun gweithredu'r Awdurdod a chyda datblygiadau technolegol pellach dros y blynyddoedd nesaf, bydd o gymorth mawr i'r Awdurdod o ran cyflawni'r ymrwymiad hwn. Drwy gydol y pedwar maes Blaenoriaeth Allweddol ceir atebion a dulliau gweithredu arloesol a fydd yn gyrru'r agenda hwn yn ei flaen ac yn ategu'r gwaith sylweddol a wnaed eisoes i wella hyblygrwydd ac ystwythder ein gweithlu a'n hystâd.