Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Key priorities: Y Gweithlu
Cynnwys a chyfathrebu â staff ym mhopeth a wnawn. Helpu ein gweithlu i fabwysiadu arferion gweithio hyblyg er mwyn perfformio cystal ag y bo modd wrth ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol sydd o safon
Beth mae'n ei olygu?
- Gweithlu digidol sy'n ymatebol ac yn hyblyg.
- Gweithlu sy'n wybodus, yn gysylltiedig ac y cyfathrebir ag ef.
- Bod yn ymatebol i anghenion ein dinasyddion drwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da a bod yn hyblyg o ran lle mae'r gwaith yn cael ei wneud.
- Hyblygrwydd ar gyfer ein staff yw'r gallu i weithio o leoliadau gwahanol, ar amserau gwahanol a defnyddio'r dechnoleg fwyaf effeithiol.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Mae sicrhau bod ein gweithlu yn cymryd rhan ac y cyfathrebir ag ef yn hanfodol i lwyddiant ein sefydliad.
- Mae ystwythder a symudedd yn arwain at arbedion effeithlonrwydd a gwell cynhyrchiant drwy ffyrdd gwell o weithio.
- Mae'n gwella ein gallu i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer ein gweithlu sy'n iach ac yn fuddiol i'r naill ochr a'r llall. Mae hyn yn cynyddu ein gallu i ddenu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ein gweithlu.
- Mae'n caniatáu inni wella prosesau, gweithdrefnau a llif gwaith yn sylweddol, gan ddileu gwastraff a manteisio i'r eithaf ar arbedion effeithlonrwydd drwy wneud defnydd da o ddata a dadansoddi.
Sut y byddwn yn sicrhau Gweithlu Digidol?
- Bydd uwch-reolwyr ar draws yr Awdurdod yn croesawu'r agenda trawsnewid digidol.
- Bydd staff a rheolwyr yn cynnwys ac yn cyfathrebu â'r holl staff ar bob lefel yn aml ac yn gyson.
- Bydd staff a rheolwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i weithio mewn modd ystwyth sy'n helpu i ddarparu gwell gwasanaethau.
- Byddwn yn creu gweithlu gwirioneddol ddigidol, gan sicrhau bod y cymwysiadau a'r wybodaeth iawn gan y defnyddiwr iawn, ar y dyfeisiau iawn, ar yr adeg iawn ac yn y lleoliad iawn.
- Byddwn yn datblygu hyder a sgiliau digidol ein gweithlu fel eu bod yn gallu bod yn gynhyrchiol ac yn rhagweithiol wrth ddefnyddio technoleg i ysgogi ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
- Byddwn yn sicrhau bod ein polisïau a'n strategaethau allweddol yn cael eu hintegreiddio â'n huchelgais digidol, yn enwedig ym meysydd cynllunio gwasanaethau, caffael, twf economaidd a chomisiynu.
- Byddwn yn datblygu Hyrwyddwyr Digidol ym mhob maes gwasanaeth i hyrwyddo a chefnogi'r gweithlu gydag atebion digidol ac anghenion technegol.
Key projects timeline
-
2021
-
1
Canlyniadau Allweddol
Gwella dulliau telathrebu a chydweithio ar gyfer staff.
-
2
Canlyniadau Allweddol
Caniatáu i staff gael mynediad cyflymach a gwell at ddata a systemau cefn swyddfa (staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd a staff nad ydynt yn gweithio mewn swyddfeydd). Gwella ymgysylltiad â holl weithwyr y cyngor.
-
2024
Canlyniadau Allweddol
Mwy o gynhyrchiant i staff drwy fanteisio ar offer Microsoft ac atebion allweddol o ran meddalwedd.
-
a
Canlyniadau Allweddol
Galluogi'r cyngor i ddeall a dadansoddi data yn well er mwyn helpu i wella'r broses o wneud penderfyniadau.