Strategaeth Trawsnewid Digidol 2021 - 2024
Yn yr adran hon
Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
“Sir Gaerfyrddin sydd wedi'i galluogi'n ddigidol”
Er mwyn cyflawni'r weledigaeth fentrus hon, mae'n rhaid i ni wneud y canlynol:
- Darparu gwybodaeth a gwasanaethau trafodiadol ar-lein mewn modd sy'n hawdd ei ddefnyddio ac yn gynhwysol.
- Hwyluso ac ategu cyfranogiad cymunedau a busnesau ym mhopeth a wnawn.
- Newid y ffordd y mae gwasanaethau wyneb yn wyneb traddodiadol yn cael eu darparu, gan alluogi gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon ar gyfer ein trigolion.
- Datblygu a gwella ein gweithlu digidol gan sicrhau arferion gweithio ystwyth a symudol a defnyddio'r technolegau mwyaf priodol i gefnogi darparu gwasanaethau.
- Gweithio tuag at sicrhau cysylltedd digidol cyflym a dibynadwy i'n holl Ddinasyddion a Chymunedau.
- Cefnogi busnesau i gystadlu yn yr economi ddigidol drwy gysylltedd symudol a band eang o'r radd flaenaf.
- Gwella'r defnydd o dechnoleg ddigidol i gydweithio â phartneriaid yn ddi-dor, gan gynnwys rhannu a defnyddio data'n effeithiol.
- Datblygu gwasanaethau digidol effeithlon drwy arloesi.
- Dadansoddi data a gwybodaeth busnes er mwyn gwneud penderfyniadau strategol yn seiliedig ar dystiolaeth.